Dŵr Glân i Bawb


Allwch chi ddychmygu byd lle byddech chi'n troi'r tap, ac na fyddai dim yn dod allan?

Mae llawer o bobl yn y byd yn gorfod cerdded yn bell i gasglu eu dŵr yfed. Mae angen dŵr glân arnom ni i gyd, dim ots pwy ydyn ni nac ymhle rydyn ni’n byw.

Ond mae 696 miliwn o bobl ar y Ddaear - bron i 1 ym mhob 10 ohonom ni - yn dal i fyw heb ddŵr yfed glân yn agos at ein cartrefi. Mae WaterAid yn gweithio gyda phobl, cymunedau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddarparu dŵr glân, toiledau addas a hylendid da.

Ers 2017, mae WaterAid Uganda wedi bod yn helpu i wella gwasanaethau dŵr mewn trefi bach yn Uganda. Maen nhw’n helpu i sicrhau gwell rheolaeth, trwsio gollyngiadau a helpu i godi arian er mwyn cadw’r dŵr yn llifo. Mae gwybodaeth dechnegol a chymorth Dŵr Cymru yn gwneud gwahaniaeth mawr yn ardaloedd Buyende, Namayingo a Namutumba wrth helpu mwy o bobl i gyrchu dŵr glân.

Deunydd a gwybodaeth i’w lawrlwytho:

Os ydych chi'n awyddus i ddysgu rhagor am ddŵr glân i bawb, dewch i ymweld â ni yn un o'n canolfannau darganfod.