Prosiectau rydym wedi eu cefnogi yn ein cymunedau hyd yma


Dyma rai enghreifftiau o brojectau sydd wedi bod yn llwyddiannus drwy ein cronfa gymunedol a'n partneriaethau gwirfoddoli.

Parc Sglefrio’r Mwmbwls yn Abertawe

Roeddem ni’n falch o gefnogi’r lle cymunedol bendigedig yma a sefydlwyd gan Gyngor Cymuned y Mwmbwls, gan gyfrannu at orsafoedd casglu sbwriel er mwyn cadw’r parc sglefrio yn dwt ac yn daclus trwy gronfa gymunedol Dŵr Cymru. Mae’r parc sglefrio wedi cael ei gwblhau ac yn llawn o’r fore gwyn tan nos gyda phobl o bob oedran yn mwynhau.

Grŵp Memory Lane

Roedd hi’n hyfryd clywed bod Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru wedi helpu i wneud dau achlysur arbennig yn fwy arbennig byth i aelodau grŵp Memory Lane yn Rhaeadr Gwy, Powys, sef pen-blwyddi Betty yn 96 a Val yn 80 oed, ymhlith digwyddiadau eraill.

Beiciau Gwaed Cymru

Rydyn ni wrth ein bodd yn clywed gan y grwpiau cymunedol rydyn ni’n eu cynorthwyo trwy ein Cronfa Gymunedol! Diolch o galon i Feiciau Gwaed Cymru am rannu stori eu llwyddiant wrth ddefnyddio dŵr glaw i lenwi tanc hanfodol er mwyn cadw eu fflyd o feics sy’n achub bywydau yn lân - diolch o galon i’r gwirfoddolwyr yma!

Gardd Enfys yn Aberteifi

Bu Gardd Enfys yn Aberteifi yn llwyddiannus yn ei chais am £5,000 o’n cronfa gymunedol ar ei newydd wedd. Mae’r cyllid yn helpu i greu gardd ysgol, er mwyn rhoi dealltwriaeth ymarferol o fyd natur i’n disgyblion, a meithrin gwerthfawrogiad a pharch at fyd natur a fydd yn aros gyda nhw fel oedolion. Mae’r prosiect yn parhau.

Sesiwn casglu

sbwriel Pwllheli

Yn rhan o wythnos gwirfoddoli 2023, daeth criw o staff Dŵr Cymru o’n timau rhwydweithiau dŵr gwastraff a chyfalaf, ynghyd â’n contractwyr partner, Alun Griffiths, at ei gilydd ym Mhwllheli i gasglu sbwriel o warchodfa natur yn y dref. Roedd y timau gwastraff a chyfalaf wedi bod yn cydweithio yn yr ardal i drwsio pibell dŵr gwastraff yn sgil cwymp mewn carthffos. Treuliodd y criw fore braf yng ngwarchodfa natur Pwllheli yn helpu i glirio sbwriel oddi ar y llwybrau a’r tir glas er mwyn rhoi rhywbeth nôl i’r gymuned lle’r oedden nhw wedi bod yn gweithio.

Fferm Cilcain

Bu Fferm Cilcain yn llwyddiannus gan dderbyn £500 tuag at eu gardd gymunedol sy’n cynorthwyo trigolion lleol trwy gyfeillgarwch a garddio. Maen nhw’n tyfu cnydau sy’n cael eu gwerthu i’r gymuned leol wedyn. Cynorthwyodd ein timau yn y gogledd y grŵp trwy wirfoddoli dros yr haf, gan adeiladu delltwaith a phannu llysiau i gyd-fynd â’r gronfa gymunedol.

Coetiroedd Pen-lle’r-gaer

Bu coetiroedd Pen-lle’r-gaer yn Abertawe yn llwyddiannus yn eu cais am £500 o’r gronfa gymunedol, a wariwyd ar greu gardd addysgol yn eu canolfan addysg. Bydd y ganolfan a’r ardd yma’n rhoi cyfle i’r gymuned leol a phlant dreulio amser ym myd natur a dysgu am yr amgylchedd gyda’u hathrawon. Cynorthwyodd y tîm y grŵp trwy wirfoddoli hefyd.

Banc bwyd Henffordd

Bu banc bwyd Henffordd yn llwyddiannus yn eu cais i’r gronfa gymunedol gan dderbyn £250 - a ddenodd gyllid cyfatebol gan Morgan Sindall i wneud cyfanswm o £500. Aethon ni ati wedyn i gasglu bwyd o safleoedd Linea a Henffordd i gyflenwi’r banc bwyd. Bu’r casgliad yn llwyddiannus iawn a bydd y cyllid yn mynd i gynorthwyo pobl fregus ar draws Henffordd.

Diwrnod Gwirfoddolwyr

Gerddi Flintshare

Yn rhan o’n buddsoddiad o £2 filiwn i ddatgomisiynu dwy gronfa ddŵr yng Nghilcain ger yr Wyddgrug, ac adfer gwely afon naturiol Afon Nant Gain, treuliodd ein tîm cyfalaf, ynghyd â’n tîm diogelwch argaeau, ddiwrnod yn gwirfoddoli yn yr ardd gymunedol leol. Gwirfoddolwyr lleol sy’n rhedeg gardd Flintshare trwy gydweithio i dyfu llysiau a phlanhigion i’w dosbarthu i’r gymuned leol. Rhoddodd y tîm help llaw gyda phob math o waith, gan gynnwys ffensys, plannu, chwynnu a chompostio. Cyfrannodd y prosiect bont nad oedd ei hangen mwyach o’r safle hefyd, ynghyd â deunyddiau oedd dros ben i wella’r trac mynediad i wirfoddolwyr i gerddi cymunedol.

Panathlon

Elusen genedlaethol yw Panathlon sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol i gymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol. Mae rhaglenni chwaraeon yr elusen – sy’n cynnwys gweithgareddau aml-gamp, nofio, pêl-droed, bowlio 10 a boccia – yn rhoi’r cyfle i gyfranogwyr gynrychioli eu hysgol mewn cystadlaethau chwaraeon, cyfleoedd sy’n aml y tu hwnt i’w gafael fel arall.

Wrth gydnabod gwaith bendigedig yr elusen ar draws y gogledd, derbyniodd Panathlon gyfraniad o £5,000 o Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru 2023. Caniataodd y cyllid yma i’r elusen fuddsoddi mewn offer arbenigol, llogi cyfleusterau i gynnal digwyddiadau chwaraeon, a darparu hyfforddiant i staff ar gyfer eu rhaglenni chwaraeon.

Dywedodd Iola Jones, sy’n athrawes AAA yn Ysgol Pendalar yng Nghaernarfon, ysgol arbennig y mae ei disgyblion wedi cystadlu mewn nifer o ddigwyddiadau Panathlon, “Does yna ddim cystadlaethau sydd wedi eu teilwra’n benodol ar gyfer ein plant fel rheol, ond mae’r disgyblion wrth eu bodd yn dod â’u medalau nôl a’u dangos yn y gwasanaeth – sy’n beth newydd i lawer ohonynt.”

Dywedodd Phil Thomas, Dirprwy Bennaeth Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl: “Ers y pandemig Covid, Panathlon yw’r unig gorff sy’n trefnu digwyddiadau o’r fath ar gyfer disgyblion ag anghenion ychwanegol fwy neu lai.”

Yn ogystal, mae Dŵr Cymru’n falch o barhau i gefnogi’r elusen dros y blynyddoedd nesaf trwy weithgareddau gwirfoddoli, a bydd y cyntaf o’r digwyddiadau hyn yn digwydd yn Wrecsam yn ddiweddarach yn y mis.