Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu
Mae’r math o wasanaethau yr ydym yn eu darparu, a’n diben eglur i gefnogi ein cymunedau a’r amgylchedd, fel y’u nodir yn ein Erthyglau Cymdeithasu ers 2019, yn golygu bod materion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu wrth wraidd yr hyn yr ydym yn ei wneud.
Amgylchedd
Rydym yn ymrwymo i leihau ein hôl-troed amgylcheddol cyffredinol, a gwella’r amgylchedd naturiol yr ydym yn gweithio ynddo lle bynnag fo hynny’n bosibl, er mwyn bod o fudd i natur a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Cymdeithasol
Wrth wraidd ein strategaeth hirdymor y mae ein diben ehangach – cefnogi ein cydweithwyr, ein cwsmeriaid a’n cymunedau.
Llywodraethu
Ers i Glas Cymru gaffael busnes Dŵr Cymru yn 2001, rydym wedi dilyn Cod Llywodraethu Corfforaethol y DU a gweithio i sicrhau llywodraethu da a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ar bob lefel yn y sefydliad. Rydym yn cydnabod bod angen i lywodraethu da fod yn sail i’r holl benderfyniadau a wnawn fel rhan allweddol o’n hymrwymiad i Ennill Ymddiriedaeth ein Cwsmeriaid Bob Dydd.
Ein Pwyslais
Fel busnes a arweinir gan ddiben, mae gan ein strategaeth bwyslais cryf, yn naturiol, ar ganlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu cadarnhaol.