Joanne Kenrick
Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol
Penodwyd: Tachwedd 2015
Profiad
Joanne oedd Cyfarwyddwr Marchnata Homebase tan ddiwedd 2015. Cyn hynny, bu’n Brif Weithredwr Start, lle sefydlodd a rhedodd fenter gyhoeddus Ei Fawrhydi Tywysog Cymru dros ddyfodol mwy cynaliadwy. Ymhlith ei rolau blaenorol mae Cyfarwyddwr Marchnata a Darpariaeth Cwsmeriaid B&Q, Cyfarwyddwr Marchnata'r Loteri Genedlaethol a Chyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata Grŵp Wilson Connolly. Mae hi wedi gweithio dros Woolworths, Asda, Pepsico a Masterfoods hefyd. Mae gan Joanne radd yn y Gyfraith o Brifysgol Nottingham, a phan oedd yn y coleg, roedd gyda'r menywod cyntaf erioed i gael hyfforddiant i hedfan gyda'r RAF.
Swyddi Anweithredol cyfredol eraill
Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol, Dirprwy Gadeirydd a Chadeirydd Pwyllgor Taliadau Coventry Building Society, Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd Pwyllgor Taliadau Sirius Real Estate, Cyfarwyddwr Anweithredol a hyrwyddwr Dyletswydd i Ddefnyddwyr Vitality Health and Life Insurance.
Swyddi Anweithredol blaenorol
Cyfarwyddwr Anweithredol Safestore Holdings plc, Chymdeithas Adeiladu'r Principality a BACS Payment Services Limited. Cadeirydd Current Account Switch, Cash ISa Switch a PayM Mobile Payments Services ar gyfer Pay UK, a Chadeirydd ymddiriedolwyr elusen Make Some Noise.
Aelodaeth o bwyllgorau
Cadeirydd y Pwyllgor Taliadau. Aelod o'r Pwyllgor Archwilio, y Pwyllgor Enwebiadau, y Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch a'r Pwyllgor Technoleg.