Jane Hanson CBE

Cadeirydd y Bwrdd


Penodwyd Cyfarwyddwr Anweithredol: Ionawr 2021

Cadeirydd y Bwrdd: 1 Ionawr 2025

Profiad

Fel Cyfrifydd Siartredig cymwys, mae gan Jane dros 20 mlynedd o brofiad fel Cyfarwyddwr Anweithredol ar Fyrddau preifat, rhestredig, yn y sector cyhoeddus ac mewn elusennau yn rolau Cadeirydd Pwyllgorau Archwilio a Risg a Chadeirydd y Bwrdd. Mae ei gyrfa weithredol wedi cynnwys profiad helaeth o fframweithiau Datblygu Strategol, Rheoli Risg Mentrau, Llywodraethiant Corfforaethol a Rheolaeth Fewnol mewn endidau o’r radd flaenaf sy’n cael eu rheoleiddio’n dynn, gan gynnwys Aviva plc. Mae ganddi brofiad helaeth hefyd o ddatblygu a monitro fframweithiau risg cwsmeriaid ac ymddygiad, ac o oruchwylio rhaglenni TG a thrawsnewid mawr a chymhleth. Dyfarnwyd CBE i Jane yn 2023 am ei gwasanaethau dros elusen ar ôl gwasanaethu fel Cadeirydd Reclaim Fund am dros 10 mlynedd gan ryddhau dros £2bn o asedau’r Sector Cyllid at achosion elusengar, ac fel Trysorydd er Anrhydedd y Pwyllgor Argyfyngau Brys. Mae Jane yn ynad heddwch hefyd.

Swyddi Anweithredol Cyfredol Eraill

Jane yw Cadeirydd John Lewis Finance Limted, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Chyfarwyddwr Anweithredol Royal BAM Group, a Chyfarwyddwr Anweithredol Trysorlys EF. Mae Jane hefyd yn Gyfarwyddwr Bwrdd Ymddiriedolwyr Cerddorfa Symffoni Bardi.

Penodiadau Anweithredol blaenorol

Aelod o Bwyllgor Archwilio a Risg Annibynnol John Lewis Partnership, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio’r Awdurdod Hedfan Sifil, Cadeirydd Reclaim Fund Ltd a Bwrdd Ehangu Asedau Segur Llywodraeth y DU, Cyfarwyddwr Anweithredol Rothesay Life plc, Direct Line Group plc (Cadeirydd Pwyllgor Risg Bwrdd y Grŵp), William Hill plc, Old Mutual Wealth plc (Cadeirydd Pwyllgor Risg y Bwrdd), Aelod Annibynnol o Bwyllgor Tegwch Cwsmeriaid ReAssure Ltd a Thrysorydd er Anrhydedd y Pwyllgor Argyfyngau Brys.

Aelodaeth o bwyllgorau

Cadeirydd y Pwyllgor Enwebiadau, Aelod o’r Pwyllgor Taliadau.