Darren Pope

Cyfarwyddwr Anweithredol


Penodwyd: 1 Ionawr 2025

Profiad

Mae Darren yn gyfrifydd cymwys â 10 mlynedd o brofiad fel Cyfarwyddwr Anweithredol ar draws sawl math o fusnesau rhestredig ym myd Gwasanaethau Cyllid. Treuliodd ei yrfa weithredol yn y sector bancio adwerthu yn bennaf, lle cyflawnodd swyddi lefel uwch a lefel bwrdd gyda Lloyds Bank a TSB Bank, a’r olaf o’r rhain fel Prif Swyddog Cyllid y grŵp. Mae e wedi ennill profiad helaeth o arwain timau Cyllid, Trysorlys a Strategaeth mawr a chymhleth yn ogystal â goruchwylio systemau a phrosesau rheoli risgiau menter mewn amgylchedd sy’n cael ei reoleiddio’n dynn. Mae’n dod â phrofiad o M&A, codi cyllid ar farchnadoedd cyhoeddus ac arwain rhaglenni trawsnewid mawr (arweiniodd y gwaith o adeiladu a sicrhau IPO TSB o Banc Lloyds).

Penodiadau Anweithredol cyfredol eraill

Ar hyn o bryd, Darren yw Cadeirydd Archwilio Starling Bank.

Penodiadau Anweithredol blaenorol

Cadeirydd Silicon Valley Bank UK (a ddaeth yn HSBC Innovation Bank), Cadeirydd Pwyllgor Taliadau Virgin Money PLC, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio ac Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol Network International, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio ac Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol Equiniti, a Chadeirydd Archwilio Hargreaves Lansdown.

Aelodaeth o bwyllgorau

Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg. Aelod o’r Pwyllgor Perfformiad a Diogelwch a’r Pwyllgor Taliadau.