Dŵr Cymru’n rhybuddio am y perygl o bibellau’n byrstio wrth i’r rhew ddadmer


7 Ionawr 2026

Mae Dŵr Cymru’n rhybuddio cwsmeriaid bod newid sydyn yn y tymheredd ar ôl cyfnod o dywydd oer iawn yn gallu peri i bibellau byrstio.

Mae staff y cwmni wedi bod yn paratoi ar gyfer problemau a allai godi wrth i’r ia ddadmer - pan fo dadmer cyflym yn peri i’r ddaear symud gan ddifrodi pibellau - mewn ymdrech i helpu i gynnal gwasanaethau. Mae ei griwiau allan ar lawr gwlad yn gweithio rownd y cloc i fonitro ei asedau.

Mae dŵr yn ymledu wrth rewi ac mae’n gallu cracio’r pibellau metel cryfaf hyd yn oed. Ni fydd cwsmeriaid yn sylwi ar y difrod i’w pibellau cyflenwi yn aml iawn, ac ni fyddan nhw’n gwybod bod problem nes bod yr ia yn y bibell yn dadmer a’r dŵr yn dechrau dianc trwy’r hollt.

Mae pibellau a thapiau y tu allan neu mewn mannau heb wres fel yr atig, cypyrddau’r gegin neu’r garej yn fwy tebygol o rewi a byrstio, a gallant adael cartrefi a busnesau heb gyflenwad dŵr, gwres neu dan lifogydd costus.

Er mwyn helpu i atal problemau, gofynnir i gwsmeriaid:

  1. Sicrhau nad oes unrhyw dapiau yn yr awyr agored yn rhedeg - mae hyn yn arbennig o bwysig mewn ardaloedd gwledig - peidiwch â gadael tapiau’n rhedeg mewn cyfadeiladau, caeau nac yn yr awyr agored. Myth yw dweud eu y dylech eu gadael nhw’n rhedeg fel na fyddan nhw’n rhewi, ac mae’n gallu gwastraffu storfeydd dŵr ein holl gwsmeriaid.
  2. Cofnodi unrhyw fyrst mewn prif bibell ddŵr ar ein gwefan yma (lle bydd modd gweld os ydyn ni eisoes yn ymwybodol o’r broblem hefyd) neu trwy ffonio 0800 052 0130. Cyfrifoldeb perchennog yr eiddo yw unrhyw ollyngiadau preifat - o’r bibell gyflenwi y tu hwnt i’r mesurydd dŵr.
  3. Amddiffyn eu pibellau â deunydd lagio - mae cymorth ar gael i gwsmeriaid wneud hyn mewn pryd ar gyfer y cyfnod nesaf o dywydd oer.

Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr, Cynllunio Asedau a Chyflawni Cyfalaf Dŵr Cymru: “Mae’r tywydd oer diweddar wedi bod yn sialens, ac mae ein timau’n gweithio rownd y cloc i ganfod y gollyngiadau a’u trwsio er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar ein cwsmeriaid.

“Gwelwyd cynnydd mewn adroddiadau am bibellau’n byrstio yn eiddo cwsmeriaid. Bydd ein timau’n gweithio ddydd a nos i gadw’r dŵr yn llifo, ond mae angen ychydig bach o help gan ein cwsmeriaid hefyd trwy sicrhau eu bod yn amddiffyn eu cartrefi a’u busnesau.

“Rydyn ni am atgoffa cwsmeriaid eu bod nhw’n gallu amddiffyn eu cartrefi rhag byrstiau costus os bydd y tymheredd yn disgyn eto dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.”

Nid yw llawer o gwsmeriaid yn gwybod taw eu cyfrifoldeb nhw yw cynnal y pibellau cyflenwi, sef y pibellau danddaear sy’n cludo’r dŵr o’r brif bibell yn y stryd i mewn i’w heiddo.

Mae rhagor o wybodaeth am hyn, a beth sy’n gallu digwydd wrth i rew ddadmer yma.

Gall cwsmeriaid domestig gael pecynnau lagio a gorchuddion tap am ddim i amddiffyn eu pibellau a’u tapiau trwy fynd i GetWaterFit. Mae Dŵr Cymru’n cynnig ymweliadau cartref effeithlonrwydd dŵr i’w holl gwsmeriaid preswyl hefyd - a gellir gosod y pecyn lagio a’r gorchuddion tap am ddim yn rhan o’r ymweliad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Mae Dŵr Cymru’n darparu cymorth ar gyfer cwsmeriaid bregus sydd wedi cofrestru ar gyfer y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth. Mae hyn yn golygu bod modd i gwsmeriaid gael cymorth ar ffurf dŵr potel os bydd toriad yn eu cyflenwad oherwydd problem ar rwydwaith Dŵr Cymru, ffyrdd amgen o dderbyn gwybodaeth, a thawelwch meddwl rhag galwyr ffug.

Mae rhagor o fanylion yma.