Dŵr Cymru yn rhybuddio am beryglon nofio heb awdurdod mewn cronfeydd dŵr


22 Ebrill 2025

Gan fod gwyliau'r Pasg yma, mae Dŵr Cymru yn rhybuddio pobl i beidio â pheryglu eu bywydau drwy nofio heb awdurdod yn ei gronfeydd dŵr.

Bob blwyddyn yng Nghymru, mae cannoedd o unigolion a theuluoedd yn ymweld â chronfeydd dŵr ac yn mynd i'r dŵr i nofio, padlo, neu ddefnyddio offer arnofio, gan roi eu bywydau a bywydau eraill mewn perygl, ond gall mynd heb awdurdod i mewn i gronfa ddŵr ladd ac ni chaniateir hyn byth.

Mae ystadegau'n dangos bod cyfartaledd o 45 o farwolaethau sy'n gysylltiedig â dŵr yng Nghymru bob blwyddyn ac mae cyfradd boddi damweiniol yng Nghymru bron ddwywaith yn fwy na'r DU gyfan.

Gall cronfeydd dŵr fod yn llawn peryglon cudd, gan gynnwys peiriannau awtomatig yn y dŵr sy'n gallu gweithredu ar unrhyw adeg, a cheryntau anhygoel o gryf, sy'n gallu tynnu hyd yn oed y nofwyr cryfaf o dan y dŵr. Dyna pam mae'n well nofio yn y safleoedd cronfeydd dŵr sy’n caniatáu nofio.

Mae’r dŵr hefyd yn gallu bod yn sy'n gallu achosi sioc dŵr oer i nofwyr ac mae llai o siawns o gael eich achub mewn rhai ardaloedd oherwydd bod llawer o’r cronfeydd dŵr mewn mannau anghysbell, yn aml heb fawr o signal ffôn symudol.

Mae'r wythnosau diwethaf wedi gweld tywydd sych a digon o heulwen y gwanwyn, amodau sy'n temtio rhai i blymio i mewn i gronfeydd dŵr heb sylweddoli'r peryglon sy'n gysylltiedig.

Mae Ceidwaid Dŵr Cymru yn patrolio cronfeydd dŵr y cwmni, gan sicrhau bod pawb yn ddiogel drwy atal nofio heb awdurdod yn y dŵr.

Dywedodd Maddy Rawlings, Prif Geidwad Llandegfedd: "Rydyn ni eisiau i bawb fwynhau'r gronfa ddŵr yn ddiogel - a dyna pam mae’n bwysig bod unrhyw ddefnydd o'r gronfa ddŵr yn digwydd yn ystod gweithgareddau neu sesiynau nofio wedi'u cynllunio â gwarchodwr bywyd yn unig. Yn ystod fy nghyfnod fel Ceidwad yn Llandegfedd, rwyf wedi dod ar draws nifer fawr o ddigwyddiadau lle rwyf wedi gorfod gofyn i aelodau o'r cyhoedd adael y dŵr oherwydd y peryglon sy'n gysylltiedig, llawer ohonyn nhw ddim yn gwybod amdanyn nhw. Dydyn ni ddim yma i ddifetha hwyl unrhyw un - rydyn ni yma i gadw'r cyhoedd yn ddiogel.'' Mae cwmnïau diogelwch preifat hefyd wedi eu cyflogi i helpu gyda'r gwaith hwn.

Mae Dŵr Cymru yn cynnig sesiynau nofio dŵr agored achrededig, diogel, dan oruchwyliaeth mewn rhai safleoedd Atyniadau Ymwelwyr ledled Cymru. Mae hefyd yn cynnig chwaraeon dŵr, gan gynnwys padlfyrddio a chaiacio.

Dywedodd Jack Bailey, Rheolwr Gweithgareddau Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yng Nghaerdydd: “Rydym yn gwybod bod llawer o fanteision i les corfforol a meddyliol drwy nofio mewn dŵr agored – ond gall nofio heb awdurdod beri risgiau difrifol. Rhaid i chi flaenoriaethu diogelwch bob amser yn hytrach na gwneud rhywbeth ar hap a dylech archebu sesiwn nofio dŵr agored neu ymdrochi mewn dŵr oer yn un o safleoedd atyniadau i ymwelwyr Dŵr Cymru. Rydym yn cynnig ffordd ddiogel o fwynhau'r dŵr, natur a'r manteision y gallant eu cynnig."

Mae Dŵr Cymru yn rhan o Diogelwch Dŵr Cymru, grŵp sy'n cynnwys sefydliadau sydd wedi ymrwymo i weithio ar ddiogelwch dŵr ac atal boddi yng Nghymru.

Dywedodd Chris Cousens, Cadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru: “Gyda'r tywydd hyfryd rydyn ni wedi bod yn ei weld, rydyn ni'n gwybod faint o demtasiwn y gall fod i oeri mewn cronfeydd dŵr hardd. Ond gall hyd yn oed y cryfaf o nofwyr fynd i sioc dŵr oer a gall hyn arwain at foddi. Rydyn ni'n gofyn i bawb gadw'n ddiogel yr haf hwn trwy gadw allan o'r cronfeydd dŵr. Os ydych chi mewn trafferth yn y dŵr, dylech Arnofio i Fyw – mae hyn yn golygu ymlacio ac arnofio ar eich cefn gyda'ch clustiau wedi'u boddi yn y dŵr nes bod effeithiau sioc dŵr oer yn pasio. Yna, gallwch chi nofio i ddiogelwch neu weiddi am help.

“Os ydych chi'n gweld rhywun arall mewn trafferth yn y dŵr mewn cronfa ddŵr, ffoniwch 999 neu 112 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân, dywedwch wrth y person yn y dŵr i Arnofio i Fyw a thaflu rhywbeth sy'n arnofio iddynt. Peidiwch byth â mynd i'r dŵr eich hun i geisio achub."