Dŵr Cymru i fuddsoddi £665m yn 2025/26


19 Tachwedd 2025

Mae Dŵr Cymru Welsh Water ar y trywydd iawn i fuddsoddi tua £665m yn 2025/26 yn rhan o’i raglen buddsoddi cyfalaf fwyaf erioed ar gost o dros £4bn yn y 5 mlynedd hyd fis Mawrth 2030 (AMP8).

Ochr yn ochr â’i raglen Trawsnewid cwmni-eang, daw’r buddsoddiad â gwelliannau i gwsmeriaid, cymunedau a’r amgylchedd.

Yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn, cofnodwyd yr haf mwyaf poeth ar gofnod yng Nghymru, ac er i Gyfoeth Naturiol Cymru osod rhan helaeth o Gymru o dan statws sychder amgylcheddol, llwyddodd Dŵr Cymru i osgoi unrhyw gyfyngiadau ar gyflenwadau dŵr cwsmeriaid.

Mae’r buddsoddiad uwch nag erioed yma’n cyflawni prosiectau mawr ac arloesol, fel y gwlyptir gorlif storm a agorwyd ym Mhont-y-felin yn Nhorfaen yn ddiweddar ar gost o £13 miliwn - y cyntaf o’i fath yn y DU.

Trwy ddefnyddio grym hidlo naturiol gwlyptiroedd, mae’r safle eisoes yn lleihau effaith y cwmni ar afonydd lleol gan greu model ar gyfer buddsoddiad cynaliadwy yn y dyfodol.

Ym mis Hydref, lansiodd Dŵr Cymru ymgynghoriadau ar y prosiect seilwaith mwyaf erioed yn hanes y cwmni - sef Strategaeth Cyflenwi Dŵr Cwm Taf. Bydd y cynlluniau’n moderneiddio’r rhwydwaith dŵr yfed ar draws y de trwy ddisodli cyfleusterau trin canrif oed a chynyddu’r capasiti ar gyfer storio dŵr glân.

Dros y chwe mis diwethaf, mae newid hinsawdd wedi parhau i effeithio ar wasanaethau’r cwmni. Er gwaethaf y cyfnodau estynedig o dywydd sych dros y gwanwyn a’r haf, trwy reoli cyflenwadau dŵr yn ofalus llwyddwyd i osgoi gorfodi cyfyngiadau dros dro neu ‘waharddiadau ar bibellau dyfrio’ ar draws ardal weithredu Dŵr Cymru - yn wahanol i sawl rhan o Loegr.

Yn y 6 mis rhwng Ebrill a Medi 2025, gwnaeth y cwmni gynnydd da wrth leihau digwyddiadau o lygredd mewnol ac allanol, gwella ansawdd dŵr afonol a digwyddiadau llygru yn gyffredinol, gan adeiladu ar y 576km o afonydd a gafodd eu gwella rhwng 2020 a 2025.

Er y bydd Asesiad y cwmni o Berfformiad Amgylcheddol yn aros ar lefel dwy seren, nodwyd gwelliannau mewn pedair o saith elfen y mesur EPA dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda’r nifer leiaf ond un o ddigwyddiadau llygru yn y diwydiant.

Mae’r cwmni’n cydnabod bod angen parhau i wneud newidiadau mewn rhai meysydd o’i berfformiad, ac mae ganddo gynlluniau manwl i fynd i’r afael â hyn, gan gynnwys gwella cydymffurfiaeth â’r trwyddedau yn y gweithfeydd trin dŵr gwastraff, a lleihau digwyddiadau llygru difrifol.

Cododd Dŵr Cymru gwerth £450 miliwn o gyfalaf gan fuddsoddwyr ym mis Medi, ac mae wedi dechrau rhaglen trawsnewid ar draws y cwmni â’r nod o wella ein prosesau, defnyddio technoleg yn well, a sicrhau bod cronfeydd y cwmni’n cael eu gwario ar ddarparu gwasanaethau’r rheng flaen. Mae gan y cwmni statws credyd da o hyd, ac mae’r trawsnewid, sydd wedi hen gychwyn, yn rhan allweddol o gynnal y statws yma. Yn gynharach eleni, cynyddwyd bil yr aelwyd gyfartalog 27%, a bydd y rhaglen trawsnewid yn adolygu sut mae’r cwmni’n gwario arian cwsmeriaid a pha mor effeithlon yw ei brosesau, ac yn sicrhau gwerth am arian ar draws y gadwyn gyflenwi i gyd.

Bydd Peter Perry, y Prif Weithredwr, yn ymddeol yng ngwanwyn 2026 ar ôl gyrfa 45-mlynedd yn y sector, gyda’r darpar-Brif Weithredwr, cyn Brif Weithredwr Sydney Water, yn cymryd y llyw ym mis Ionawr.

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru Welsh Water, Peter Perry: “Er ein bod ni’n wynebu sialensiau lu heddiw, mae perfformiad gweithredol yn anghymharol â’r sefyllfa pan ddaeth Dŵr Cymru’n gwmni nid-er-elw bron i 25 mlynedd yn ôl. Mae’r targedau y mae angen i ni eu cyflawni’n parhau i dynhau wrth i’r rheoleiddiwr fynnu, yn briodol ddigon, safonau uwch, ond mae cynnal asedau sy’n heneiddio, ac yn wyneb effeithiau gwirioneddol newid hinsawdd, yn ei gwneud hi’n anos byth taro cydbwysedd derbyniol rhwng gwella perfformiad a meithrin gwytnwch at y dyfodol, a’r cyfan ar gost sy’n dderbyniol i’n cwsmeriaid. Ni allwn ni wneud popeth, ym mhob man yr un pryd – byddai’n amhosibl fforddio na chyflawni hynny, felly rhaid i ni weithio’n fwyfwy agos â’n cwsmeriaid i gytuno sut i flaenoriaethu adnoddau cyfyngedig.

“Yn Dŵr Cymru, dydyn ni ddim wedi cuddio wrth y sialensiau hyn, ac rydyn ni’n chwilio’n barhaus am ffyrdd o wella perfformiad ar gyfer ein cwsmeriaid a’r amgylchedd.

“Mae’r adroddiad interim yn dangos cynnydd cadarn mewn buddsoddiad wrth i ni ddechrau cyflawni ein cynlluniau ar gyfer y pum mlynedd nesaf, a’r uchelgais sy’n pwysleisio ein cenhadaeth.

“Wrth i fy amser gyda’r cwmni ddirwyn i ben, rwy’n hynod ddiolchgar i’n gweithwyr, y bwrdd, ein rhanddeiliaid a’r holl gwmnïau partner sydd wedi fy nghefnogi dros y blynyddoedd.”

Dywedodd Cadeirydd Glas Cymru, Jane Hanson CBE: “Mae ein model nid-er-elw yn sicrhau taw ein nod yw darparu’r gwasanaeth gorau posibl ar gyfer ein cwsmeriaid ar draws ein hardal weithredu bob amser.

“Wrth i’r diwydiant dŵr ffeindio’i ffordd trwy fyd o newidiadau sylweddol, mae ein ffocws yn Dŵr Cymru ar wella perfformiad a sicrhau bod pob ceiniog o filiau ein cwsmeriaid yn cael ei ddefnyddio er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf.

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i roi teyrnged i Peter Perry, y mae ei arweinyddiaeth wedi bod yn ddylanwadol dros y pum mlynedd diwethaf.

“Ar ran y Bwrdd a phawb yn Dŵr Cymru, hoffwn ddymuno pob hapusrwydd i Pete yn ei ymddeoliad, gan ddiolch o waelod calon iddo am ei flynyddoedd o wasanaeth neilltuol i’r cwmni.”