Dŵr Cymru’n diolch i gwsmeriaid am helpu i amddiffyn cyflenwadau dŵr yn y tywydd sych estynedig
25 Gorffennaf 2025
Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn diolch i gwsmeriaid am helpu i amddiffyn cyflenwadau dŵr yr haf yma yn dilyn y gwanwyn mwyaf sych ers dros 100 mlynedd, wrth gadarnhau bod y rhan fwyaf o’i gronfeydd mewn sefyllfa iach.
Gyda phedwar cwmni dŵr ar draws Lloegr yn gosod gwaharddiad ar ddefnyddio pibellau dyfrio yn y pythefnos diwethaf, mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau nad oes unrhyw gynlluniau ganddo i gyflwyno cyfyngiadau ar ddefnyddio dŵr ar hyn o bryd.
Mae’r cwmni wedi bod yn canfod ac yn trwsio tua 700 o ollyngiadau pob wythnos ar draws y rhwydwaith dŵr. Mae’r timau’n gweithio ddydd a nos hefyd i sicrhau bod cyflenwad digonol o ddŵr i fodloni’r galw ar adegau brig.
Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Dŵr Cymru statws ‘Sychder yn Datblygu’ ar gyfer rhwydwaith dŵr Canolbarth a De Ceredigion, sy’n cynnwys rhannau o ogledd Sir Gaerfyrddin a gogledd Sir Benfro. Dros y misoedd diwethaf, mae rhaglen i gyflymu gwaith i drwsio gollyngiadau wedi gweld 830 o ddiffygion yn cael eu trwsio yng Ngheredigion. Ochr yn ochr â hyn, mae ymdrechion cwsmeriaid i arbed dŵr wedi helpu i adfer lefelau’r cronfeydd yn yr ardal rhyw ychydig dros y chwech wythnos ddiwethaf.
Fodd bynnag, gwelwyd cwta 56% o’r glawiad hirdymor cyfartalog rhwng Mawrth a Mehefin, ac nid yw hynny wedi bod yn ddigon i wneud gwahaniaeth sylweddol o ran lefelau’r cronfeydd dŵr.
Mae lefel cronfeydd dŵr Pyllau Teifi, sy’n gwasanaethu’r ardal, 28% yn is na’r adeg hon y llynedd. Er nad oes cyfyngiadau mewn grym ar hyn o bryd, mae’r cwmni wedi dwysáu ei ymdrechion i reoli galw cwsmeriaid ac amddiffyn cyflenwadau dŵr.
Mae’r gweithfeydd trin wedi cynyddu eu capasiti er mwyn cynnal lefelau’r cronfeydd a bodloni’r galw brig dros yr haf.
Yn ardal ddosbarthu'r gorllewin, mae ‘tîm Cartref’ Dŵr Cymru - sy’n helpu cwsmeriaid i ddefnyddio dŵr yn fwy effeithlon - wedi cynyddu eu gweithgarwch yn yr ardal yn sylweddol ers Ebrill - gyda bron i 500 o apwyntiadau ac ymweliadau â chwsmeriaid, sy’n cynnwys canfod toiledau sy’n gollwng, a chysylltiadau â chwsmeriaid i hybu effeithlonrwydd dŵr mewn cartrefi a busnesau ar draws y wlad.
Mae’r cwmni wedi bod yn cyfathrebu â pherchnogion busnes ar draws Cymru a Sir Henffordd hefyd er mwyn helpu i rannu negeseuon am effeithlonrwydd dŵr, gyda chwsmeriaid yn cael eu hannog i ddefnyddio dŵr yn ddoeth, ac mae awgrymiadau a chymorth ymarferol ar gael ar lein hefyd er mwyn helpu i leihau defnydd diangen.
Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Dŵr Cymru:
“Rydyn ni’n ddiolchgar i bawb sydd wedi chwarae eu rhan trwy ddefnyddio ychydig bach yn llai o ddŵr, ac rydyn ni’n gofyn i gwsmeriaid ddal ati. Gall y newidiadau lleiaf hyd yn oed wneud gwahaniaeth mawr.”
“Rydyn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i osgoi cyflwyno cyfyngiadau. Mae ein timau’n gweithio’n ddiflino i reoli’r sefyllfa, ac rydyn ni’n gofyn i’n cwsmeriaid ymuno â ni trwy ddefnyddio dŵr mewn ffordd gyfrifol. Mae pob un diferyn sy’n cael ei arbed yn helpu i amddiffyn cyflenwadau dŵr yr ardal.”
“Rydyn ni wedi clywed gan lawer o’n cwsmeriaid sy’n dweud eu bod nhw eisoes wedi gwneud newidiadau i leihau eu defnydd o ddŵr er mwyn helpu i amddiffyn yr amgylchedd, sydd wedi bod yn hyfryd i’w weld.
“Er nad oes angen gwahardd defnyddio pibellau dyfrio eto, rydyn ni’n cadw llygad barcud ar y sefyllfa.”
Mae Dŵr Cymru’n parhau i gydweithio’n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid lleol i fonitro amodau ac ymateb i unrhyw newidiadau’n gyflym.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau bod y gogledd-orllewin wedi dychwelyd i statws ‘tywydd sych estynedig’ ond nad oes yna bryderon o ran cyflenwadau dŵr yr ardal ar hyn o bryd.
I gael diweddariadau a chyngor ar arbed dŵr, ewch i dwrcymru.com/drought.