Dŵr Cymru’n cynorthwyo 65 o grwpiau cymunedol gyda dros 470 awr o wirfoddoli ac arian o’r Gronfa Gymunedol


23 Rhagfyr 2025

Mae Dŵr Cymru wedi cynorthwyo 65 o grwpiau cymunedol ac elusennau ar draws Cymru a Sir Henffordd yn 2025.

  • Dŵr Cymru’n cynorthwyo 65 o grwpiau cymunedol yng Nghymru a rhannau o Sir Henffordd
  • Cyflawnwyd dros 470 awr o wirfoddoli gyda 21 grŵp gwahanol yn 2025
  • Cafodd 44 grŵp Cymunedol gymorth trwy’r Gronfa Gymunedol

Mae’r cwmni nid-er-elw wrth ei fodd ei fod wedi cefnogi dros 44 grŵp cymunedol trwy ei Gronfa Gymunedol yn y flwyddyn ddiwethaf, ynghyd ag 470 awr o wirfoddoli gan gynorthwyo 21 o grwpiau a sefydliadau mewn cymunedau lleol.

Torchodd cydweithwyr a chontractwr partner o bob rhan o’r busnes eu llewys i gynorthwyo digwyddiadau yn eu cymuned leol.

Mae’r cwmni’n annog pob cydweithiwr i neilltuo un diwrnod gwaith y flwyddyn i wirfoddoli. Mae’r gweithgareddau’n amrywio o godi sbwriel a phlannu coed i gynorthwyo llochesi anifeiliaid a helpu plant ag anghenion ychwanegol.

Gwelodd un o’r digwyddiadau yn 2025 gydweithwyr yn casglu sbwriel ar hyd Lôn y Goetre ym Merthyr Tudful mewn partneriaeth â Chadw Cymru’n Daclus. Gweithiodd y tîm yn galed wrth gynorthwyo’r gymuned i gasglu 15 llond sach o sbwriel, y rhan fwyaf ohonynt yn sgil tipio anghyfreithlon yn yr ardal leol.

Dywedodd Mark Davies o Gadw Cymru’n Daclus:

“Rwy’n ddiolchgar dros ben am gefnogaeth Dŵr Cymru i Gadw Cymru’n Daclus trwy gydol y flwyddyn. Mae eu gwirfoddolwyr wedi ymuno â ni mewn sawl achlysur codi sbwriel a chymoni cymunedau, gan ddod â llwyth o egni ac ymroddiad. Mae eu cymorth wedi ein cynorthwyo ni i wella amgylcheddau lleol a chryfhau balchder cymunedol ar draws yr ardaloedd lle’r ydyn ni’n gweithio.”

Keep Wales Tidy

Yn ogystal â’r oriau gwirfoddoli, mae Dŵr Cymru wedi ariannu 44 sefydliad nid-er-elw trwy ei Gronfa Gymunedol.

Mae’r Gronfa Gymunedol, a lansiwyd yn 2017, yn darparu grantiau ar gyfer sefydliadau sy’n cynorthwyo eu cymuned leol ac yn hybu addysg neu’r amgylchedd.

Un o nifer o brosiectau a gynorthwywyd trwy’r Gronfa Gymunedol oedd Cymdeithas Gyfeillgar y Merched sy’n cynorthwyo merched i ddatblygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth o oedran ifanc iawn, gan roi’r sgiliau angenrheidiol i ddelio â phwysedd ac wynebu sialensiau bywyd wrth iddynt heneiddio.

Dywedodd Dee o Gymdeithas Gyfeillgar y Merched:

“Yn ogystal â bod yn hwyl, mae profiadau newydd fel hyn yn helpu i ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol fel dyfalbarhad, gwaith tîm a hunanhyder. Mae chwarae ac anturio’n helpu plant i ddatblygu sgiliau datrys problemau a magu hyder. Yn GFS, rydyn ni’n gweld hyn bob dydd, yn arbennig ar benwythnosau fel hyn lle mae’r plant yn dod adref yn cerdded yn fwy talog."

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu Cymunedau Dŵr Cymru:

“Rydyn ni’n falch o fod wedi gallu cefnogi cynifer o achosion hynod. Mae ein Cronfa Gymunedol a’n rhaglen gwirfoddoli’n adlewyrchu ein hymrwymiad i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, gan helpu grwpiau sy’n gweithio’n ddiflino i wella eu milltir sgwâr.”

I gael rhagor o fanylion am y Gronfa Gymunedol, ewch yma.