Dŵr Cymru yn rhagweld cynnydd o hyd at 20% yn y galw am ddŵr yn y tywydd poeth


11 Gorffennaf 2025

Mae Dŵr Cymru yn rhagweld cynnydd o hyd at 20% yn y galw am ddŵr ar draws ei rwydwaith rhwng dydd Gwener a dydd Sul oherwydd y tywydd poeth sydd wedi ei ddarogan gan y Swyddfa Dywydd.

Dywedodd y cwmni ei bod am i bobl ddefnyddio'r dŵr sydd eu hangen arnynt i gadw'n iach, ond i osgoi gwastraffu dŵr er mwyn helpu i amddiffyn cyflenwadau a'r amgylchedd.

Gall y tymheredd gyrraedd 32 gradd mewn rhannau o Gymru a Swydd Henffordd. Mae disgwyl i gwsmeriaid ddefnyddio mwy o ddŵr i’w yfed, i ymolchi, i lenwi pyllau nofio a’i ddefnyddio mewn systemau dyfrio gerddi. Dyma’r drydedd don o wres poeth o'r flwyddyn, yn dilyn y Gwanwyn sychaf erioed.

Ym Mehefin cyhoeddwyd statws 'Sychder yn datblygu' gan y cwmni ar gyfer Canol a De Ceredigion ynghyd â rhannau o Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, gan fod y cronfeydd dŵr wedi mynd yn is na'r lefel arferol yr adeg hon o'r flwyddyn.

Er nad oes unrhyw ardal arall o bryder ar hyn o bryd, mae'r cwmni'n annog pobl i beidio gwastraffu’r cyflenwadau sydd ar gael.

Ar ddiwrnod arferol, mae'r cwmni yn trin ac yn cyflenwi tua 850 mega litr o ddŵr ffres, glân i'w dair miliwn o gwsmeriaid. Mae hyn tua’r un faint o ddŵr sydd ei angen i lenwi 320 o byllau nofio Olympaidd. Y tro diwethaf i’r tymheredd godi’n uwch na 30 gradd, roedd y lefel hon yn fwy na 970 mega litr y dydd.

I gadw i fyny â'r galw, mae gan y cwmni dîm o beirianwyr sy'n gweithio bob awr o’r dydd i sicrhau bod y broses trin dŵr yn diwallu'r galw, ac mae nhw hefyd yn trwsio 700 o ollyngiadau o bibau’r cwmni bob wythnos. Mae dŵr yn cael ei symud o gwmpas y rhwydwaith mewn fflyd o loriau er mwyn cadw tanciau dŵr yfed tanddaearol yn llawn yn yr ardaloedd lle mae’r galw ar ei uchaf.

Mae galw ychwanegol yn ei gwneud hi'n her i gael dŵr trwy'r pibellau'n ddigon cyflym ac mae’n achosi’r dŵr i ddraenio yn gyflymach o'r cronfeydd a'r afonydd sy'n darparu'r dŵr.

Mae'r cwmni hefyd yn rhybuddio pobl i beidio â nofio mewn cronfeydd dŵr lle nad oes hawl i nofio, oherwydd y perygl.

Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Cymru, “Rydym ni eisiau i bawb fwynhau'r tywydd cynnes, i yfed digon o ddŵr, ag i aros yn saff. Peidiwch â chael eich temtio i nofio mewn cronfeydd lle nad oes hawl i nofio, gan eu bod yn llawn peryglon cudd a pheiriannau tanddwr all achosi problemau i hyd yn oed y nofwyr cryfaf.

“Wrth inni wynebu'r drydedd don o dywydd poeth y flwyddyn yma, byddwn yn gweld galw mawr am ddŵr. Fe welwch chi ein peirianwyr yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein systemau yn gweithio yn effeithiol wrth i'r tywydd poethaf gyrraedd. Bydd gennym hefyd dimau yn gweithio dros y penwythnos i gynnal cyflenwadau. Er ein bod yn gwneud popeth posib, rydym yn gofyn i gwsmeriaid i helpu eu cymunedau drwy chwarae eu rhan i osgoi gwastraffu dŵr a’i arbed lle bo modd.

“Systemau dyfrio gerddi yw un o'r defnyddwyr mwyaf o ddŵr gan ddefnyddio ar gyfartaledd 1,000 litr o ddŵr bob awr. Mae hyn yr un faint â'r hyn y byddai teulu arferol yn ei ddefnyddio yn eu cartref mewn dau ddiwrnod.

“Un ffordd arall y gall cwsmeriaid ein helpu yw gadael i ni wybod yn syth os ydyn nhw yn sylwi ar ollyngiadau o’n rhwydwaith. Gallwn wedyn gael tîm allan yn syth i’w trwsio. Trwy weithio gyda'n gilydd gallwn helpu i sicrhau ein bod yn cadw'r dŵr yn llifo trwy'r haf.”