“Lapiwch eich cartref yn gynnes”: Dŵr Cymru Welsh Water yn cynnig cyngor a phecynnau lagio am ddim gyda’r tywydd oer yn nesau
30 Rhagfyr 2025
Gyda rhybuddion iâ mewn grym ar draws Cymru’r wythnos hon, mae Dŵr Cymru’n annog cwsmeriaid i amddiffyn eu cartrefi a’u busnesau rhag y tywydd oer. Un o’r problemau mwyaf yw pibellau sy’n agored i amodau oer iawn yn rhewi ac yn byrstio.
Mae dŵr yn chwyddo wrth rewi, ac mae hyn yn gallu cracio’r pibellau metel cryfaf hyd yn oed. Mae’n bosibl na fydd cwsmeriaid yn sylwi ar y difrod i’w pibellau cyflenwi, ac ni fyddan nhw’n sylweddoli bod problem nes bod yr ia yn y bibell yn dadmer a’r dŵr yn dechrau dianc trwy’r hollt.
Gall cwsmeriaid domestig hawlio pecynnau lagio a gorchuddion tap am ddim i amddiffyn eu pibellau a’u tapiau trwy fynd i GetWaterFit. Mae Dŵr Cymru’n cynnig ymweliadau cartref effeithlonrwydd dŵr i’w holl gwsmeriaid domestig hefyd - a gellir gosod y pecyn lagio a’r gorchuddion tap am ddim yn rhan o’r ymweliad hwnnw. Mae rhagor o wybodaeth ar gael trwy fynd yma.
Gall cwsmeriaid annomestig elwa ar amrywiaeth o wasanaethau hefyd, gan gynnwys pecynnau lagio ac ymweliadau safle am ddim. Mae rhagor o fanylion yma.
Mae pibellau a thapiau allan yn yr awyr agored neu mewn mannau heb wres fel yr atig, y garej neu gypyrddau’r gegin mewn mwy o berygl o rewi a byrstio. Os bydd hynny’n digwydd, mae’n gallu gadael cartrefi a busnesau heb gyflenwad dŵr na gwres, neu, yn yr achosion gwaethaf, dan lifogydd costus.
Mae adeiladau ac eiddo sy’n cael eu gadael yn wag am gyfnodau estynedig dros y gaeaf - fel safleoedd busnes, ysgolion, ail gartrefi a charafanau – mewn perygl yn y tywydd oer hefyd.
Nid yw llawer o gwsmeriaid yn gwybod taw eu cyfrifoldeb nhw yw cynnal y pibellau cyflenwi, sef y pibellau o dan y ddaear sy’n cludo’r dŵr o’r brif bibell yn y stryd i mewn i’w heiddo.
Yn y gaeaf, mae gollyngiadau ar bibellau cyflenwi danddaear yn fwy cyffredin oherwydd y tymheredd oer iawn. Yn yr achosion gwaethaf, mae hyn yn gallu golygu bod cwsmeriaid yn colli eu cyflenwad am gyfnod. Mae Dŵr Cymru’n annog ei gwsmeriaid i fwrw golwg dros eu dogfennau yswiriant cartref i weld a yw’r polisi’n cynnwys trwsio pibellau cyflenwi ai peidio.
Dywedodd Euan Hampton, Rheolwr Galw - Cyflenwi Dŵr Dŵr Cymru:
“Rydyn ni’n annog ein holl gwsmeriaid i baratoi am y gaeaf a’r tywydd oer. Po fwyaf rhagweithiol y gallwn ni i gyd fod, po fwyaf parod ydyn ni.
“Dyna pam ein bod ni’n cynghori cwsmeriaid i sicrhau bod eu cartref neu eu busnes wedi ei lapio’n gynnes yn barod am y gaeaf trwy ddefnyddio pecyn lagio i orchuddio pibellau neu dapiau sydd allan yn yr awyr agored. Dylent fwrw golwg dros eu dogfennau yswiriant cartref i sicrhau eu bod yn cynnwys pibellau cyflenwi danddaear, a sicrhau eu bod nhw’n deall pa bibellau sy’n eiddo i bwy. Gallai hynny helpu i atal llwyth o anghyfleustra a chost ar yr adeg waethaf o’r flwyddyn i ddelio â’r fath drafferthion.
“Bydd ein timau’n gweithio rownd y cloc i gadw’r dŵr yn llifo, ond mae angen ychydig bach o help gan ein cwsmeriaid hefyd trwy sicrhau bod eu cartrefi a’u busnesau’n barod am y gaeaf.”
Rhestr gyfeirio amddiffyn rhag y gaeaf
Mae Dŵr Cymru’n annog cwsmeriaid i gymryd y mesurau atal yma er mwyn amddiffyn eu cartrefi a’u busnesau’r gaeaf hwn:
- Lagio tapiau a phibellau – Insiwleiddiwch neu lagiwch bibellau er mwyn amddiffyn pibellau a thapiau mewn llefydd oer. Caewch y falf ar bibellau a thapiau sydd allan yn yr awyr agored, a draeniwch nhw er mwyn osgoi difrod iddynt.
- Clirio’r gwteri – Mae hyn yn helpu i’w hatal rhag blocio a gorlifo, sy’n gallu achosi gollyngiadau a difrod dŵr.
- Dod o hyd i’ch stoptap – Sicrhewch eich bod chi’n gwybod ble mae’ch stoptap rhag ofn bod angen ei gau er mwyn atal y cyflenwad dŵr os bydd pibell yn rhewi neu’n byrstio.
- Atal diferu – Gall tapiau sy’n diferu gynyddu’r perygl o rewi, felly atgyweiriwch nhw nawr.
- Mynd i ffwrdd? – Os ydych chi’n gadael eich eiddo’n wag, caewch y falf a draeniwch y system fel nad oes unrhyw ddŵr yn y system i rewi.
- Gwirio’r yswiriant – Adolygwch eich yswiriant cartref er mwyn sicrhau ei fod yn cynnwys pibellau cyflenwi danddaear, a’ch bod chi’n deall pwy sy’n gyfrifol am ba bibellau.
Mae cyngor mwy manwl yma.