Dŵr Cymru yn lansio Cronfa Gymunedol Aberteifi newydd gwerth £20,000 i nodi buddsoddiad o £20 miliwn
29 Rhagfyr 2025
Mae Dŵr Cymru yn lansio Cronfa Gymunedol newydd yn Aberteifi i fuddsoddi yn y dref tra bydd yn cwblhau y gwaith uwchraddio gwerth £20 miliwn yn ei waith trin dŵr gwastraff.
- Cyfle i Grwpiau cymunedol wneud cais am hyd at £5,000
- Buddsoddiad o dros £20m i uwchraddio Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Aberteifi
- Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau yng ngwanwyn 2027
Bydd grwpiau cymunedol, elusennau a sefydliadau nid-er-elw yn Aberteifi a'r ardaloedd cyfagos yn cael cyfle i wneud cais am gyfran o £20,000 i helpu i wireddu eu prosiectau cymunedol.
Ar hyn o bryd mae'r cwmni nid-er-elw yn uwchraddio'r broses yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff Aberteifi ac ar ôl ei chwblhau, bydd y broses newydd yn sicrhau y gall y gwaith ymdopi'n well â'r mewnlifiad o ddŵr môr o lanw Afon Teifi, gan helpu i leihau amlder gorlif o'r safle.
Dechreuodd y gwaith hanfodol yng ngwanwyn 2025 a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd gwanwyn 2027.
Mae'r gwaith yn Aberteifi hyd yma wedi cynnwys dargyfeirio gwasanaethau, gwaith paratoi ar gyfer y broses trin arnofio aer tawdd newydd (DAF), a draenio a glanhau'r tanciau presennol ar y safle yn Aberteifi. Bydd hyn yn caniatáu iddynt gael eu troi'n danc cydbwyso newydd a bioadweithydd gwely symudol, tra bod dau danc gwaddodion cychwynnol, 15 metr mewn diamedr, newydd wedi eu gosod hefyd - elfennau allweddol o'r broses trin dŵr gwastraff.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru, Steve Wilson:
“Rydym yn falch o fod yn gwneud cynnydd da ar ein gwaith hanfodol i uwchraddio'r broses yng ngwaith Trin Dŵr Gwastraff Aberteifi.
“Bydd y buddsoddiad mawr hwn yn helpu i sicrhau bod gennym gapasiti ar y safle i gymryd dŵr gwastraff a gweithredu mesurau i atal mewnlifiad dŵr hallt. Bydd hyn yn ei dro yn sicrhau ein bod yn trin dŵr gwastraff yn effeithlon ac yn lleihau nifer y gorlifiadau o'r safle hwn i'r aber.
“Nawr, hoffem ddweud diolch drwy roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned leol drwy lansio Cronfa Gymunedol Aberteifi, fydd yn rhoi cyfle i grwpiau lleol wneud cais am hyd at £5,000 o gyllid i wireddu eu prosiectau budd cymunedol.”
Bydd Cronfa Gymunedol Aberteifi ar agor ar gyfer ceisiadau o ddydd Llun, 5 Ionawr 2026 tan ddiwedd Chwefror 2026, a bydd grwpiau yn gallu gwneud cais am symiau amrywiol o £250 hyd at £5,000 i helpu i wella'r ardal y maent yn byw ynddi.
Er mwyn dyfarnu'r arian i brosiectau cymunedol lleol, bydd Dŵr Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus lleol a fydd yn rhan o banel y gronfa gymunedol.
I fod yn gymwys i gael cyllid, rhaid i sefydliadau a grwpiau dielw fod wedi'u lleoli mewn ardal sy'n cael ei gwasanaethu gan Waith Trin Dŵr Gwastraff Aberteifi, sef Aberteifi, Llandudoch, Penparc a Gwbert. Gallant wneud cais am y cyllid i'w helpu i ddatblygu, lansio neu gynnal prosiect cymunedol, y byddant yn ei reoli a'i gyflawni.
Os hoffai unrhyw un gael rhagor o wybodaeth am y gronfa hon, gallant e-bostio Cardigancommunityfund@dwrcymru.com a gellir gwneud ceisiadau yma o ddydd Llun, 5 Ionawr 2026.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 5pm ddydd Sadwrn, 28 Chwefror 2026..