Dŵr Cymru’n buddsoddi record o £629m yn ei rwydweithiau dŵr a dŵr gwastraff


6 Mehefin 2025

Yn ôl canlyniadau ariannol y cwmni ar gyfer 2024/25, mae Dŵr Cymru wedi buddsoddi record o £629 miliwn yn ei rwydweithiau, sef cynnydd o 31% ar y flwyddyn flaenorol, er mwyn cynnal a gwella ei asedau.

Gyrrodd y rhaglen buddsoddi cyfalaf fwyaf yn hanes y cwmni welliannau ar draws ei rwydweithiau, gan sicrhau bod Dŵr Cymru mewn sefyllfa gadarn i gyflawni ei raglen buddsoddi fwyaf erioed ynghyd â’r targedau gwell o ran gwasanaethau oedd yn ofynnol ar gyfer y cylch buddsoddi newydd rhwng 2025 a 2030.

Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys adeiladu system Trin Dŵr Gwastraff newydd yn Aberteifi, gwella ein safleoedd yn Eign a Rotherwas yn Sir Henffordd, uwchraddio’r rhwydwaith dŵr gwastraff ym Mrynbuga, cynyddu’r capasiti yng ngorsaf bwmpio dŵr gwastraff Lôn y Traeth ym Mangor, a buddsoddi mewn gwaith i adnewyddu ac uwchraddio’r rhwydwaith dŵr yn y Trap a Llandyfan yn Sir Gaerfyrddin.

Mae Dŵr Cymru’n parhau i berfformio gyda’r gorau o ran ymddiriedaeth a boddhad cwsmeriaid, sy’n symbol o ymroddiad ei weithwyr ar draws Cymru a Sir Henffordd. Gwelodd y cwmni welliannau o ran gollyngiadau, digwyddiadau llygru mewnol ac allanol ac o ran ei berfformiad yn erbyn Mynegai Risg Cydymffurfiaeth yr Arolygiaeth Dŵr Yfed hefyd.

Mae’r cwmni wedi cydnabod y bydd angen cynnal a chyflymu’r gwelliannau hyn wrth i’r cwmni geisio gwella gradd ei Asesiad o Berfformiad Amgylcheddol o 2 seren i 3 seren, codi allan o gategori ‘cwmni sydd ar ei hôl hi’ Ofwat, ac ymateb i Raglen Trawsnewid yr Arolygiaeth Dŵr Yfed.

Dros y deuddeg mis diwethaf, mae’r cwmni wedi parhau i fuddsoddi er mwyn lliniaru effeithiau newid hinsawdd, fel tywydd eithafol, trwy adeiladu llithrffordd fwyaf y DU yn argae Llyn Celyn yn y gogledd, ond bu angen iddo reoli effeithiau dau o’r digwyddiadau gweithredol mwyaf heriol i ddod i’w ran ers degawdau hefyd. Cyhoeddwyd hysbysiad ‘berwi dŵr’ dros dro ym mis Tachwedd oherwydd difrod i Weithfeydd Trin Dŵr Tynywaun yng nghwm Rhondda yn sgil Storm Bert, ac ym mis Ionawr, achosodd byrst mewn prif bibell strategol o dan Afon Ddu doriad yng nghyflenwadau 40,000 o eiddo yn ardal Conwy.

Mae’r gwelliannau a gyflawnwyd i 231km o afonydd yn 2024-25 yn adlewyrchu ffocws Dŵr Cymru ar wella ansawdd dŵr afonol. Mae’r cwmni wedi bod yn cydweithio â chyrff eraill, gan gynnwys Byrddau Rheoli Maethynnau, i gynorthwyo gwelliannau mewn afonydd sydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.

I ariannu ei restr o fuddsoddiadau dros y pum mlynedd nesaf, cadarnhaodd y cwmni ym mis Chwefror bod angen cynyddu'r bil cartref cyfartalog ar gyfer 2025-26 gan 27%, gan gydnabod y baich cynyddol a fyddai hyn yn ei roi ar gwsmeriaid. Cadarnhaodd y cwmni hefyd ei fod yn darparu cymorth ariannol i 153,000 o gwsmeriaid bregus sy'n cael trafferth i dalu eu biliau dŵr, sy’n record i’r cwmni.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Dŵr Cymru wedi hybu ei arweinyddiaeth, gwella ei lywodraethiant, ac wedi tynhau ei ffocws strategol a gweithredol er mwyn darparu gwell eglurder, atebolrwydd a momentwm. Cafodd y Bwrdd hwb o ran sgiliau ac arbenigedd yn sgil penodi pedwar Cyfarwyddwr Anweithredol newydd i Glas Cymru: Syr James Bevan, Darren James, Darren Pope, ac Alison Wilcox. Bydd eu sgiliau a’u harbenigedd yn helpu i gynnal, herio a llywio’r cwmni trwy’r cylch buddsoddi nesaf.

Mae’r cwmni yn parhau i ganolbwyntio ar drawsnewid sut mae’n gweithio er mwyn gwneud cynnydd ystyrlon tuag at gyflawni’r gwelliannau y mae cwsmeriaid, cymunedau a’r amgylchedd yn eu disgwyl.

Dywedodd Cadeirydd Glas Cymru, Jane Hanson CBE: “Bydd y 12 mis nesaf yn allweddol i’r cwmni wrth i ni ddiogelu’r sylfeini ar gyfer y tro ar fyd sydd ei angen o ran perfformiad.

“Ein Cynllun Busnes ar gyfer AMP8 yw’r mwyaf uchelgeisiol hyd yn hyn, gyda chyfanswm gwariant o £6 biliwn a gwerth £4.2 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf. Mae hyn yn cynnwys ehangu ein cadwyn gyflenwi a chefnogi 2,000 o rolau eraill, ond does yna ddim ateb cyflym - rydyn ni’n cydnabod maint y dasg sydd o’n blaenau, a bydd y cynnydd yna’n cymryd amser. Ond rydyn ni’n gosod y sylfeini cywir i wneud hyn: trwy gryfhau arweinyddiaeth, tynhau ffocws ein perfformiad, buddsoddi mewn seilwaith hanfodol, cynnal perthnasau cadarn â rhanddeiliaid, a sefydlu diwylliant o atebolrwydd a gwasanaeth.

“Gydag ymrwymiad a chydweithio parhaus ar draws y sefydliad, rwy’n hyderus y bydd modd i ni wneud cynnydd ystyrlon tuag at gyflawni’r gwelliannau y mae ein cwsmeriaid, cymunedau a’r amgylchedd yn eu disgwyl.”

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: “Wrth i ni gychwyn y cyfnod buddsoddi newydd ar gyfer 2025 i 2030, rydyn ni’n gwybod y bydd angen i ni gyflawni rhagor, a hynny’n gynt, er mwyn cyflawni’r tro ar fyd o ran perfformiad sy’n angenrheidiol er mwyn i ni fodloni anghenion esblygol ein cwsmeriaid, cymunedau a rhanddeiliaid.

“Rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i wella’r meysydd perfformiad, ac rydyn ni eisoes wedi gweld cynnydd mewn nifer ohonynt dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn cynnwys meysydd fel gollyngiadau, lle’r ydyn ni wedi lleihau gollyngiadau dros y 12 mis diwethaf, sy’n ein helpu ni i reoli cyflenwadau dŵr, yn enwedig o ystyried taw Chwefror i Ebrill eleni oedd un o’r cyfnodau mwyaf sych ar gofnod am yr adeg honno o’r flwyddyn. Mae cynnydd o’r math yma’n cael ei hwyluso gan gynlluniau gweithredu clir â’r nod o fanteisio i’r eithaf ar alluoedd ein pobl, technoleg a lefelau uwch o fuddsoddiad yn ein seilwaith.

“Bydd y 12 mis nesaf yn hanfodol i lywio gwelliannau mewn gwasanaethau, ynghyd â chyfleu manteision ein model nid-er-elw yn effeithiol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau ein bod ni’n chwarae ein rhan wrth osod y sylfeini cadarn sydd eu hangen ar gyfer 25 mlynedd nesaf Glas Cymru.”