Dŵr Cymru’n datgan statws ‘Sychder yn Datblygu’ ar gyfer canolbarth a de Ceredigion
12 Mehefin 2025
Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi datgan statws ‘Sychder yn Datblygu’ ar gyfer ardal rhwydwaith dŵr canolbarth a de Ceredigion oherwydd lefelau’r storfeydd sydd yng nghronfeydd dŵr yr ardal.
Mae rhwydwaith dŵr canolbarth a de Ceredigion yn cwmpasu 32,000 eiddo yn y sir, yn ogystal â rhannau o ogledd Sir Benfro a gogledd Sir Gaerfyrddin. Mae’r ardal yn cwmpasu ardal Llanon, Llangwyryfon a Chwm Ystwyth yng Ngheredigion, i lawr i Grymych, Llanfyrnach a Nanhyfer yng ngogledd Sir Benfro, ynghyd â rhannau o ogledd Sir Gaerfyrddin i lawr i Ffarmers, Pencader a Hermon.
Daw rhwydwaith dŵr yr ardal o gronfeydd dŵr Pyllau Teifi ar ymyl orllewinol Mynyddoedd Cambria, ac o ddŵr sy’n cael ei godi o afon Teifi yng ngweithfeydd trin dŵr Llechryd.
Mae lefelau dŵr y cronfeydd yn yr ardal bellach tua 31% yn is na’r adeg hon y llynedd, ac mae hyn yn golygu bod sychder yn datblygu, a’i bod yn bosibl y bydd angen cyflwyno cyfyngiadau ar ddefnyddio dŵr yn yr ardal dros yr haf.
Mae cronfeydd dŵr Pyllau Teifi wedi gweld cwta 37% o’r glawiad cyfartalog tymor hir disgwyliedig rhwng Mawrth a Mai eleni. Mae’r tir mawnog sy’n amgylchynu’r cronfeydd yma’n dal dŵr ac yn ei ryddhau nôl i’r amgylchedd yn arafach nac mewn ardaloedd eraill. Nid yw’r glaw dros y pythefnos diwethaf wedi gwneud fawr ddim i wella’r sefyllfa yn yr ardal.
Statws ‘Sychder yn Datblygu’ yw’r ail gam o bump y mae Dŵr Cymru wedi eu nodi yn eu Cynllun Sychder statudol ac nid yw’n cyfyngu ar y defnydd o ddŵr. Os na fydd lefelau’r cronfeydd yn yr ardal yn ymadfer yn sgil glaw dros yr wythnosau nesaf, mae’n bosibl y bydd angen i’r cwmni symud i gam tri a chyhoeddi gwaharddiadau dros dro ar ddefnydd – sef gwaharddiadau ar bibellau dyfrio – yn y dyfodol agos.
Er nad oes yna unrhyw risg i gyflenwadau dŵr yr ardal am y tro, mae’n bosibl y bydd angen i Ddŵr Cymru gymryd camau i sicrhau bod digon o ddŵr ar ôl i gyflenwi cwsmeriaid ac amddiffyn yr amgylchedd lleol dros yr haf. Mae’r cwmni wedi bod yn monitro’r sefyllfa yn ofalus ers misoedd ac mae’n cadw llygad barcud ar lefelau dŵr y cronfeydd.
Mae Dŵr Cymru eisoes wedi cyflawni nifer o weithgareddau i helpu i arbed dŵr yn yr ardal, gan gynnwys mwy o waith i ganfod a thrwsio gollyngiadau. Ni fyddai symud dŵr o gronfeydd mewn gwahanol rannau o Gymru i gyflenwi’r rhanbarth yn ymarferol oherwydd topograffeg yr ardal a’r anawsterau a’r gost sydd ynghlwm wrth bwmpio llawer iawn o ddŵr dros dir gwledig.
Mae’r cwmni yn gofyn i gwsmeriaid i feddwl am eu defnydd o ddŵr ac i beidio a’i wastraffu. Mae mwy o wybodaeth ynglŷn ar sut i arbed dŵr ar ein gwefan.
Nid oes unrhyw ran arall o Gymru dan amodau ‘Sychder yn Datblygu’ ac os oes angen i’r cwmni symud i statws ‘Sychder’ yng nghanolbarth a de Ceredigion, bydd Dŵr Cymru’n ysgrifennu at yr holl gwsmeriaid y mae’r cyfyngiadau’n effeithio arnynt i gynnig esboniad pellach. Bydd modd i gwsmeriaid ddefnyddio teclyn ar lein hefyd i gadarnhau a ydynt o fewn yr ardal ‘Sychder yn Datblygu’ ai peidio ar sail eu cod post.
Mae Dŵr Cymru’n cydweithio’n agos â Grŵp Cyswllt Sychder Cymru ac asiantaethau eraill fel Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr Awdurdodau Lleol a’r undebau amaeth.
Dywedodd Marc Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr, Dŵr Cymru: “Rydyn ni’n rhoi rhybudd cynnar i’n cwsmeriaid ein bod ni’n symud i statws ‘Sychder yn Datblygu’ yng nghanolbarth a de Ceredigion am ein bod ni’n awyddus i atal cyfyngiadau pellach yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
“Gyda lefelau glawiad is nag erioed dros y misoedd diwethaf, mae lefelau’r dŵr yn ein cronfeydd yn is na’r disgwyl ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn. Yn dilyn cyfnod mor sych, oni bai ein bod ni’n gweld cyfnod estynedig o dywydd gwlyb yn yr ardal, gyda digon o law, mae hi’n hanfodol ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn ni i gynnal y cyflenwadau yn ein cronfeydd a’n hafonydd.
“Rydyn ni’n ddiolchgar i gwsmeriaid am eu cymorth. Dydyn ni ddim yn gofyn i bobl beidio â defnyddio dŵr, dim ond gofyn iddyn nhw ddefnyddio’r dŵr sydd ei angen arnynt gan osgoi ei wastraffu.
“Yn ogystal â gofyn i gwsmeriaid wneud eu rhan, rydyn ni’n gwneud ein gorau glas hefyd trwy weithio rownd y cloc i sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn ni i gael cymaint o ddŵr wedi ei drin â phosibl i mewn i’r system, ac mae ein timau allan o gwmpas y lle yn trwsio 700 o ollyngiadau yr wythnos ar draws ein hardal weithredu. Cydweithio yw’r ffordd orau i ni amddiffyn cyflenwadau dŵr yfed.”