Annog cwsmeriaid i feddwl am eu defnydd o ddŵr wrth i’r tywydd sych barhau


1 Mai 2025

Mae pobl ar draws Cymru’n cael eu hannog i feddwl am eu defnydd o ddŵr wrth i’r wlad baratoi ar gyfer y dechrau Mai mwyaf poeth ar gofnod

Mawrth 2025 oedd y mis Mawrth mwyaf sych ond tri yn hanes Cymru, gyda lefelau glawiad 30% yn is na 2022, sef y tro diwethaf i rannau o Gymru wynebu cyfyngiadau ar eu defnydd o ddŵr.

Er bod lefelau’r cronfeydd dŵr ond ychydig bach yn is na’r lefelau a ddisgwylir ar yr adeg hon o’r flwyddyn ar hyn o bryd, a’r adnoddau dŵr mewn sefyllfa dda yn gyffredinol ar draws y wlad, mae yna rybudd i gwsmeriaid fod yn bwyllog yn eu defnydd o ddŵr..

Er mwyn paratoi, mae’r cwmni wedi dwysáu cynhyrchiant yn ei weithfeydd trin dŵr er mwyn symud dŵr o gwmpas y system mewn ymdrech i gynnal y lefelau lle mae’r galw ar ei uchaf.

Mae’r data diweddaraf yn dangos bod 61 gwaith trin y cwmni wedi cynhyrchu 7 miliwn litr ychwanegol o ddŵr y dydd ar rai o’r diwrnodau poethaf yr wythnos hon – mae hynny fel llenwi tua 35,000 llond bath yn ychwanegol y dydd.

Mae Dŵr Cymru’n gwneud ei orau glas i gwtogi ar faint o ddŵr sy’n cael ei golli o’r system hefyd, gyda thimau’n gweithio o Fôn i Fynwy yn trwsio gollyngiadau cyn gynted ag y gallan nhw. Ar hyn o bryd, mae’r timau’n trwsio tua 700 o ollyngiadau pob wythnos, a gall cwsmeriaid helpu trwy roi gwybod i’r cwmni os ydyn nhw’n gweld dŵr yn gollwng.

Dros y pum mlynedd nesaf, bydd y cwmni’n cwtogi ar ollyngiadau o ryw chwarter, ac mae’n cynllunio buddsoddi tua £400m mewn gwaith i adnewyddu pibellau a thrwsio gollyngiadau.

Gall cwsmeriaid elwa hefyd ar gynllun tîm Cartref Dŵr Cymru i drwsio toiledau sy’n gollwng am ddim. Plymwyr cymwys sy’n cyflawni’r ymweliadau effeithlonrwydd dŵr yma er mwyn helpu i gwtogi ar ddefnydd cwsmeriaid o ddŵr.

Mae Dŵr Cymru’n cynnig awgrymiadau a chynghorion defnyddiol yn hyn o beth. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Peidio â gadael y tap yn rhedeg wrth olchi dwylo neu frwsio dannedd.
  • Cael cawod yn lle bath.
  • Aros nes bod y peiriannau golchi dillad a llestri’n llawn cyn eu cynnau.
  • Peidio â llenwi’r pwll padlo i’r top – a defnyddio’r dŵr i ddyfrio’r planhigion yn yr ardd ar ôl gorffen â’r pwll.
  • Osgoi defnyddio taenellwr i gadw’r lawnt yn wyrdd - daw’r lliw nôl o fewn dim pan ddaw’r glaw.
  • Defnyddio ein cyfrifiannell 'Get Water Fit’ i helpu gyda ffyrdd o arbed dŵr ac arian – ac mae cynnyrch ar gael am ddim wrth gofrestru hefyd.

Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr, Cynllunio Asedau a Chyflawni Cyfalaf Dŵr Cymru: “Gyda’r glawiad mor isel, rydyn ni’n gweithio ddydd a nos i sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn ni i gael cymaint o ddŵr wedi ei drin â phosibl i mewn i’r system, ac mae ein tîm allan yn trwsio tua 700 o ollyngiadau yr wythnos. Er bod lefelau’r cronfeydd yn ar lefel digon cyffyrddus ar hyn o bryd, rydyn ni’n gofyn i gwsmeriaid ein helpu ni i sicrhau bod y dŵr yn cyrraedd pawb. Mae hi’n hanfodol ein bod ni’n helpu i gynnal y cyflenwadau yn ein cronfeydd dŵr a’n hafonydd ar ôl gwanwyn sych.

“Mae ein cyngor i gwsmeriaid yn syml, defnyddiwch y dŵr sydd ei angen arnoch, ond gofalwch rhag ei wastraffu.”