Yn dilyn yr haf mwyaf poeth ar gofnod yn y DU yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau na fydd angen unrhyw fesurau dros dro ar ddefnydd, neu waharddiadau ar bibellau dyfrio, yn ei ardal weithredu eleni.
Daw’r cadarnhad yma wrth i barth dŵr Canolbarth a De Ceredigion ddychwelyd i statws arferol. Hwn oedd yr unig un o barthau Dŵr Cymru i gyrraedd amodau ‘Sychder yn Datblygu’ yn gynharach yn yr haf oherwydd lefelau isel y cronfeydd dŵr.
Llwyddwyd i osgoi gwaharddiadau ar bibellau dyfrio ar draws ardal weithredu Dŵr Cymru trwy gyfuniad o ddefnydd cyfrifol cwsmeriaid o ddŵr, a’r buddsoddiad parhaus sy’n cael ei wneud i reoli gollyngiadau a gwella’r seilwaith. Fodd bynnag, gyda hafau mwy poeth a sych yn dod yn fwyfwy cyffredin, mae Dŵr Cymru’n pwysleisio bod glawiad cyson, a chymorth parhaus cwsmeriaid, yn hanfodol i helpu’r cronfeydd dŵr i ymadfer dros fisoedd y gaeaf.
Mae cyflymu rhaglen trwsio gollyngiadau Dŵr Cymru wedi cael effaith sylweddol wrth gynnal cyflenwadau dŵr ar draws Cymru, gyda dros 16,000 o atgyweiriadau’n cael eu cyflawni ar draws yr ardal weithredu ers dechrau’r flwyddyn – gan gynnwys 817 yng Ngheredigion rhwng Ebrill ac Awst.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi bod y rhan fwyaf o Gymru o dan sychder amgylcheddol, gan ddatgan er bod y glawiad diweddar wedi lleddfu rhywfaint ar y pwysau sy’n deillio o’r gwanwyn a’r haf sych a phoeth, nid yw hyn wedi bod yn ddigonol i sicrhau adferiad llawn o’r sychder hyd yn hyn. Mae pum rhanbarth yn Lloegr yn dal i fod dan amodau ‘sychder’ swyddogol yn dilyn y chwe mis mwyaf sych ers 1976. Mae gwaharddiadau ar ddefnyddio pibellau dyfrio’n dal i fod mewn grym yno gan effeithio ar filiynau o aelwydydd, ac mae’r Grŵp Sychder Cenedlaethol wedi disgrifio’r sefyllfa sydd ohoni o ran diffyg dŵr yn Lloegr fel ‘digwyddiad o bwys cenedlaethol'.
Dywedodd Marc Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Dŵr Cymru:
"Mae’r tywydd sych eleni wedi rhoi straen mawr ar ein rhwydwaith dŵr a’n systemau cyflenwi. Er gwaethaf hyn, rydyn ni wedi cynnal y cyflenwadau heb gyflwyno cyfyngiadau diolch i ymdrechion ein cwsmeriaid i ddefnyddio dŵr yn ddoeth, a gwaith rhagweithiol ein timau, sydd wedi bod yn trwsio tua 700 o ollyngiadau'r wythnos trwy gydol yr haf. Mae pob diferyn wir yn cyfri, ac rydyn ni’n ddiolchgar dros ben i gwsmeriaid sydd wedi cymryd camau syml i leihau eu defnydd. Mae gwneud y pethau bach gyda’n gilydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr.
“Gyda hafau mwy poeth a sych yn dod yn norm, rydyn ni’n gofyn i bawb barhau i ddefnyddio dŵr yn ddoeth fel y gall ein cronfeydd dŵr ymadfer yn llwyr dros y gaeaf, a bod yn barod ar gyfer y flwyddyn nesaf.”
Ar ddiwrnod cyffredin, mae’r cwmni’n trin ac yn dosbarthu tua 850 miliwn litr o ddŵr glân i’w dair miliwn o gwsmeriaid – sy’n cyfateb yn fras â llenwi 320 pwll nofio maint Olympaidd. Y tro diwethaf i’r tymheredd fynd dros 30 gradd yn gynharach yn yr haf, roedd y galw pob dydd yn fwy nag 1 biliwn litr. Roedd y cynnydd yma’n arbennig o amlwg yn ein hardaloedd mwy gwledig a’r rhai lle mae llawer o dwristiaeth.
Mae ein fflyd o danceri dŵr wedi bod yn symud dŵr o gwmpas y rhwydwaith er mwyn ategu’r tanciau dŵr yfed mewn ardaloedd lle mae’r galw’n uchel.
Os yw cwsmeriaid yn gweld dŵr yn gollwng yn eu cymuned, gallant fynd yma.
Mae Dŵr Cymru’n annog cwsmeriaid i barhau i ddefnyddio dŵr yn ddoeth. Mae’r camau syml yn cynnwys:
- Cael cawod yn lle bath
- Llenwi’r peiriannau golchi llestri a dillad cymaint â phosibl cyn eu cynnau
- Defnyddio can dyfrio yn lle pibell ddyfrio yn yr ardd
- Trwsio gollyngiadau domestig yn brydlon
- I gael diweddariadau a chyngor ar arbed dŵr, ewch i dwrcymru.com/arbeddwr.