Dŵr Cymru’n galw am “Llai o goncrit, mwy o natur” i yrru gwelliannau i afonydd


22 Ebrill 2025

Mae Dŵr Cymru’n galw am ddefnyddio llai o goncrit a chemegolion yn yr ymgyrch i wella ansawdd afonydd, gyda mwy o bwyslais ar gynlluniau sy’n defnyddio natur i gyflawni’r gwaith.

Mae dibyniaeth ar systemau concrit neu ‘llwyd’ i gynyddu storfeydd storm neu gynyddu triniaeth dŵr gwastraff wedi arwain at atebion carbon uchel a chemegol nad ydynt yn llesol i iechyd hirdymor afonydd a’r amgylchedd ehangach.

Mewn digwyddiad a drefnwyd gan Ddŵr Cymru, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru ac Afonydd Cymru, bydd yna alw am fwy o atebion ‘gwyrdd’ neu’n seiliedig ar natur i wella ansawdd dŵr a chyflawni mwy ar gyfer yr amgylchedd.

Mae Dŵr Cymru wedi cyflawn nifer o brosiectau cydweithredol ac yn seiliedig ar natur dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae rhagor ar y gweill, gan gynnwys ymyraethau gwlypdir a dalgylch yn afon Clwyd yn y gogledd er mwyn tynnu’r ffosfforws o weithfeydd trin dŵr gwastraff Tremeirchion.

Yr ateb gwyrdd yma, sy’n defnyddio gwlypdiroedd i drin dŵr gwastraff, yw’r prosiect cyntaf o’i fath yng Nghymru. Bydd y prosiect yn gweld dros 30,000 o blanhigion gwlypdir yn cael eu plannu, gan wella ansawdd y dŵr yn afon Clwyd, gwella bioamrywiaeth a lleihau’r effeithiau o ran carbon.

Er bod cynlluniau gwyrdd yn gallu bod yn fwy costus nac atebion concrit traddodiadol ar y cychwyn, maen nhw’n cynnig ateb gwydn o ran yr hinsawdd sy’n addas er budd hirdymor yr amgylchedd.

Bydd dros 60 o elusennau, partneriaid a sefydliadau ar draws Cymru, Sir Henffordd a Chaer yn dod ynghyd ar gyfer yr achlysur cyd-gyflawni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.

Bydd ffocws yr achlysur ar gyflawni gwelliannau ar gyfer byd natur, gan gynnwys lleihau effaith gorlifoedd storm, dod o hyd i atebion draenio trefol, gwella gwytnwch ecosystemau ac adfer afonydd trwy leihau faint o ffosfforws sy’n mynd iddynt.

Mae’r llefarwyr yn cynnwys Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ac Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadw Cymru’n Daclus, a bydd aelodau’r panel yn cynnwys Gail Davies Walsh, Prif Weithredwr Afonydd Cymru a Rachel Sharp o Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy’n gyfrifol am Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies: “Gwella iechyd ein hafonydd yw un o’r sialensiau amgylcheddol mwyaf sy’n ein hwynebu ni – ac mae hi’n glir na fydd yr hen ffyrdd yn creu’r newid sydd eu hangen arnom ar eu pennau hunain.

“Mae atebion sy’n seiliedig ar natur yn cynnig dewis arall pwerus yn hytrach na seilwaith traddodiadol. Maent yn gallu gwrthsefyll yr hinsawdd, adfer bioamrywiaeth a chynorthwyo ein cymunedau hefyd. Rwy’n croesawu ymrwymiad Dŵr Cymru i weithio mewn partneriaeth ag eraill ar draws Cymru i roi byd natur wrth galon ein ffordd o ofalu am ein hafonydd. Dim ond trwy gydweithio ar draws sectorau ac ar draws ffiniau y byddwn ni’n diogelu’r afonydd glân ac iach y mae ein hamgylchedd a chenedlaethau’r dyfodol yn ei haeddu.”

Dywedodd Jenny Grubb, Ymgynghorydd Amgylcheddol a Rheolwr Rhanddeiliaid Dŵr Cymru Welsh Water: “Bydd Dŵr Cymru’n buddsoddi £2.5bn mewn prosiectau i wella’r amgylchedd dros y pum mlynedd nesaf. Ni fydd gweithredu gan un sector yn unig yn ddigon i wella ein hafonydd, a rhaid i’r atebion a gynigir amddiffyn rhag y dyfodol ac yn wyneb yr hinsawdd. Rydyn ni’n awyddus i ddod o hyd i brosiectau partneriaeth, a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau sy’n cyflawni gwelliannau amgylcheddol. Rydyn ni’n gobeithio y caiff ein buddsoddiad hwb o weithio gydag eraill i sicrhau bod ansawdd dŵr afonol yn parhau i wella i’r safonau rydyn ni i gyd am eu gweld.”

Dywedodd Rachel Sharp, Prif Weithredwr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru: “Gyda’n hinsawdd yn newid, mae hi’n bwysig ein bod ni i gyd yn defnyddio’r holl offer sydd ar gael i ni i addasu at ddigwyddiadau o dywydd mwy difrifol, boed hynny’n llifogydd neu’n sychder. Mae heddiw am Ddŵr Cymru’n gweithio gyda sefydliadau fel yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt i archwilio rôl atebion sy’n seiliedig ar natur i newid hinsawdd. Mae natur yn ddull sydd wedi ei brofi, y gellir ei ehangu, ac yn bwysicach na dim i’r bobl sy’n talu biliau, fforddiadwy o amsugno effeithiau newid hinsawdd. Mae adfer mawndiroedd tir uchel, plannu coed a chreu gwlypdiroedd oll yn helpu i amsugno dŵr sy’n gallu lleihau llifogydd a rhyddhau dŵr yn araf bach mewn cyfnodau o sychder. Mae heddiw am ddylunio atebion sy’n llesol i bobl ac i fyd natur fel ei gilydd.

Dywedodd Gail Davies Walsh, Prif Weithredwr Afonydd Cymru: “Mae Afonydd Cymru a’r ymddiriedolaethau afonydd rhanbarthol yn falch iawn o fod yn rhan o achlysur cydweithredol Dŵr Cymru. Rhaid i sefydliadau o bob sector gydweithio i ganfod, dylunio a chyflawni atebion realistaidd hirdymor i’r problemau sy’n effeithio ar afonydd yn sgil newid hinsawdd ac effeithiau dynol. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gael gweithio gyda phartneriaid newydd i gyd-ddylunio mewn ffordd newydd ac arloesol er mwyn cyflawni’r deilliannau gorau posibl ar gyfer ein hafonydd a’n cymunedau yng Nghymru. Mae yna gyfleoedd sylweddol i ddefnyddio atebion sy’n seiliedig ar natur ar raddfa dalgylch yng Nghymru i sicrhau afonydd glân ac iach yn y tymor hir.”