Dŵr Cymru’n lledu hwyl yr ŵyl gyda chyfraniadau at elusennau lleol


19 Rhagfyr 2025

Mae staff Dŵr Cymru wedi dod at ei gilydd am y drydedd flwyddyn i gyfrannu anrhegion at elusennau ledled Cymru i helpu teuluoedd i fwynhau’r Nadolig y maent yn ei haeddu.

Cofleidiodd cydweithwyr ysbryd y Nadolig trwy gyfrannu cannoedd o deganau ac anrhegion, o gemau bwrdd a theganau i fabanod i tedi bêrs.

Cyflwynwyd yr anrhegion i elusennau sy’n cynorthwyo teuluoedd llai ffodus, sy’n gweithio i sicrhau bod gan bob plentyn rywbeth arbennig i’w agor ar Ddydd Nadolig. Yn ogystal â theganau, cyfrannwyd dillad ac esgidiau plant at yr achosion da yma hefyd.

Yr elusennau a gynorthwywyd gan staff Dŵr Cymru yw Gwasanaethau Cam-drin Domestig Aberconwy yng Nghyffordd Llandudno, sy’n cynnig lloches a chymorth i’r rhai sy’n ffoi wrth gamdriniaeth yn y gogledd.

Mae Hosbis Tŷ Gobaith yn y gogledd yn cynnig gofal a chymorth i fabanod, plant ac oedolion ag anhwylderau difrifol iawn.

Mae Make a Smile, sy’n gweithredu yn Abertawe, Caerdydd a lleoliadau eraill, yn dod â llawenydd i blant mewn ysbytai trwy eu menter galonogol sy’n rhoi cysur a hapusrwydd i blant mewn wardiau pediatrig.

Mae elusen Canolfan Plant Jig-So yn Aberteifi yn cynnig cymorth ac amgylchedd chwarae diogel i blant, rhieni a gofalwyr, tra bod y Prosiect ToyBox yng Nghaerffili yn casglu teganau newydd ac ail law ac yn eu dosbarthu i deuluoedd a sefydliadau mewn angen ar draws de Cymru.

Dywedodd arweinydd tîm codi arian Tŷ Gobaith, Andy Everley: “Rydyn ni wrth ein bodd fod Dŵr Cymru Welsh Water wedi dewis ein cefnogi ni trwy eu Hapêl Teganau - yn arbennig ar yr adeg hon o’r flwyddyn wrth i ni weithio’n galed i wneud y Nadolig yn amser arbennig i’r teuluoedd rydym yn eu cynorthwyo. Diolch o galon i bawb o’r tîm a gymerodd ran yn y casgliad, rydyn ni wir yn gwerthfawrogi eich haelioni.”

Dywedodd Esther, Rheolwr Digwyddiadau ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Make a Smile: “Mae caredigrwydd Dŵr Cymru wedi ein galluogi ni i ledu llawenydd a hwyl yr ŵyl i’r plant yn Ysbyty Treforys trwy ein Cynllun Toybox a thrwy anfon cymeriadau cyfarwydd i’r wardiau ymweld â nhw. Mae eu haelioni wedi dod â chysur a hapusrwydd i deuluoedd mewn angen, ac rydyn ni’n wirioneddol ddiolchgar am eu cefnogaeth y Nadolig hwn.”

Dywedodd Julie Williams, o Ganolfan Plant Jig-So: “Hoffem ddiolch o waelod calon i dimau Dŵr Cymru am y rhoddion caredig a hael a gawsom ganddynt y wythnos ddiwethaf.

“Diolch i’w haelioni, rydyn ni wedi gallu creu chwe phecyn rhodd i deuluoedd, a fydd yn dod â llawenydd i 17 o blant y Nadolig hwn. Roedd y rhieni’n ddiolchgar dros ben ac maen nhw wir yn gwerthfawrogi’r anrhegion ychwanegol yma ar gyfer eu plant.

“Mae eich cefnogaeth wedi gwneud gwahaniaeth go iawn, ac rydyn ni mor ddiolchgar am yr effaith gadarnhaol rydych chi wedi helpu i’w chreu ar gyfer ein teuluoedd dros dymor yr ŵyl.”

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Cysylltiadau â’r Gymuned yn Dŵr Cymru: “Dyma’r drydedd flwyddyn i’n cydweithwyr yn Dŵr Cymru ddod at ei gilydd trwy ein Hapêl Teganau Nadolig i gynorthwyo elusennau a theuluoedd ar yr adeg arbennig yma o’r flwyddyn. Rydyn ni wrth ein bodd i gynorthwyo teuluoedd sydd angen ychydig bach o gymorth eleni er mwyn sicrhau bod ganddynt anrheg arbennig i’w hagor, a’u bod yn gallu mwynhau’r Nadolig.

“Mae ein timau’n falch iawn o ethos nid-er-elw Dŵr Cymru ac maen nhw’n chwilio bob amser am ffyrdd o ddod â manteision ychwanegol i’n cymunedau. Mae hi wedi bod yn hyfryd gweld pawb yn dod ynghyd i ddangos eu caredigrwydd a’u haelioni. Diolch o galon i bawb sydd wedi cefnogi’r fenter fendigedig yma.”

Yn ogystal â’r Apêl Teganau, helpodd cydweithwyr o Ddŵr Cymru i gynnig gwasanaeth lapio anrhegion elusennol yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant yng Nghaerdydd, gan weithio mewn partneriaeth â City Hospice a SIght Life Cymru i godi arian at ddau achos lleol.

Bydd cydweithwyr yn gwirfoddoli gyda’r ymgyrch Mae Pawb yn Haeddu Nadolig hefyd, gan ddosbarthu hamperi Nadolig i bobl sydd angen cymorth ychwanegol mewn cymunedau ar draws y de.