Bydd bil cwsmer preswyl cyffredin Dŵr Cymru yn cynnyddu o 27% ar gyfer 2025-26, gyda bil aelwyd yn codi o £503 i £639 ar gyfartaledd.
Daw hyn wrth i’r cwmni baratoi ar gyfer cyfnod buddsoddi newydd yn 2025-30, a fydd yn gweld newid sylweddol mewn buddsoddiad. Bydd mwy na £4bn yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau, gan gynnwys £2.5bn ar brosiectau i wella’r amgylchedd.
Daw’r cynnydd mewn prisiau yn dilyn cyfnod o bymtheg mlynedd pan gadwodd y cwmni brisiau islaw’r gyfradd chwyddiant, ac mae’n cymharu â chynnydd o 26% ar gyfartaledd yn y diwydiant.
Bydd cwsmeriaid nawr yn talu £1.75 y dydd ar gyfartaledd am ddŵr yfed sy'n cael ei ystyried yn gyson ymysg yr ansawdd uchaf yn y byd.
Bydd y buddsoddiad hwn yn ariannu gwaith i leihau llygredd, uwchraddio ac adeiladu asedau hanfodol newydd, lleihau gollyngiadau, a gwella ansawdd dŵr. Bydd y gwaith yn creu 2,000 o swyddi newydd yn ein cadwyn gyflenwi.
Mae rhai o'r cynlluniau a fydd yn dechrau yn 2025-26 yn cynnwys gwella ansawdd afonydd yng Nghorwen, Llan-ffwyst, Letterston a Llanbedr Pont Steffan, gwaith ar 23 o orlifiadau stormydd, 75km o brif bibellau dŵr newydd yn bennaf yng ngorllewin Cymru, a gwaith i uwchraddio'r argaeau yng Nghwm Celyn, Brynbuga, Tŵr Cwmwernderi a Craig Goch.
Mae Dŵr Cymru yn cynnig amrywiaeth o gymorth i gwsmeriaid sy’n ei chael hi’n anodd talu eu biliau.
Mae’r cwmni’n cyfrannu £14m y flwyddyn i gynnal ei gynlluniau tariffau cymdeithasol sy’n helpu’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd, drwy gyfyngu ar y swm maen nhw’n ei dalu.
Ar hyn o bryd, mae’r cynlluniau’n darparu cymorth i 150,000 o gwsmeriaid, gyda model nid-er-elw Dŵr Cymru yn ariannu £73m dros y 5 mlynedd nesaf ar gyfer ein pecynnau cymorth ariannol. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae £64m wedi cael ei ddefnyddio i ariannu tariffau cymdeithasol.
Gall cwsmeriaid sy’n derbyn budd-daliadau wneud cais am dariff HelpU sy’n helpu’r aelwydydd â’r incwm isaf, tra bod tariff WaterSure Cymru yn rhoi cap ar y bil mesuredig blynyddol, fel na fyddwch chi’n talu mwy na swm penodol ar gyfer y flwyddyn.
Mae cymorth ar gael hefyd i aelwydydd sy’n gweithio sy’n ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd drwy gynllun Cymuned.
Un cwsmer sydd wedi cael budd o dariffau cymdeithasol Dŵr Cymru yw Bianca Lepore o Gaerdydd.
Dywedodd Bianca:
“Rwy’n arbed dros £280 y flwyddyn ar fy mil dŵr drwy WaterSure Cymru. Mae gen i fesurydd dŵr, ac mae’r cynllun yn rhoi cap ar y swm rwy’n ei dalu.
“Mae’r cymorth hwn yn gymaint o help i’n teulu ni. Rwy’n fam sy’n gweithio’n rhan-amser, mae gen i blentyn ag anabledd, ac ry’n ni’n defnyddio mwy o ddŵr na’r cyfartaledd.
“Byddwn i’n annog unrhyw un sy’n credu y gallen nhw fod yn gymwys i gael tariff cymdeithasol i siarad â’r tîm yn Dŵr Cymru.”
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Dariffau Cymdeithasol Dŵr Cymru yn dwrcymru.com neu drwy ffonio ein tîm ar 0800 052 0145.
Mae’r cwmni yn cynghori unrhyw un sy’n cael trafferth talu eu biliau i gysylltu.
Gallai cwsmeriaid arbed arian ar eu biliau hefyd drwy osod mesurydd dŵr. Nid oes tâl ar gyfer gosod mesurydd a byddwch chi ond yn talu am y dŵr rydych chi’n ei ddefnyddio.
Dywedodd Prif Swyddog Ariannol Dros Dro Dŵr Cymru, Samantha James:
“Rydym yn deall y pwysau ariannol y mae rhai o’n cwsmeriaid yn eu hwynebu, ac rydym yn gwneud mwy nag erioed o’r blaen i helpu’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd.
“Os ydych yn cael trafferth talu eich bil, cysylltwch â ni. Mae gennym dîm ymroddedig a all eich helpu i ddod o hyd i'r hyn y mae gennych hawl iddo. Mae gennym hanes cryf o ddarparu cymorth ariannol i'r rhai sydd ei angen.
“Dros y 15 mlynedd diwethaf, rydym wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw biliau’n isel ac yn fforddiadwy i’n cwsmeriaid, gan ddarparu pecynnau cymorth ariannol i sicrhau bod pob un o’n cwsmeriaid yn gallu defnyddio ein gwasanaethau.
“Ond nawr mae’n amser ar gyfer newid sylweddol mewn buddsoddiad, er mwyn gwella perfformiad a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu, addasu ein rhwydweithiau i’r argyfwng hinsawdd, a gwneud mwy i ddiogelu ein hafonydd a’n moroedd.
“Bydd y buddsoddiad hwn, y mwyaf erioed, yn sicrhau’r gwelliannau y mae ein cwsmeriaid eisiau eu gweld.”