Dŵr Cymru’n cyhoeddi y bydd yn trawsnewid ei weithrediadau er mwyn amddiffyn gwasanaethau a darparu gwerth gwell ar gyfer cwsmeriaid


11 Medi 2025

Heddiw, cyhoeddodd Dŵr Cymru Welsh Water y bydd yn cyflawni rhaglen o drawsnewid sylweddol dros y 18-24 mis nesaf a fydd yn cynnwys ailstrwythuro’r busnes.

Bwriad y rhaglen hon yw diogelu gwasanaethau hanfodol, cryfhau gwytnwch gwasanaethau, lleihau costau ‘swyddfa gefn’ a sicrhau gwell gwerth am arian trwy gyfeirio cymaint â phosibl o gyllid cwsmeriaid at reng flaen y gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff.

Yn rhan o’r rhaglen hon, mae’r cwmni’n adolygu ei gostau yn eu cyfanrwydd, gan gynnwys y nwyddau a’r gwasanaethau y mae’n eu caffael, ac mae’n disgwyl lleihau ei weithlu cyfredol o 4,000 o ryw 12% (hyd at 500 o rolau) dros y 18-24 mis nesaf. Y bwriad yw amddiffyn a gwella gwasanaethau’r rheng flaen, a gwella darbodaeth mewn swyddi ‘swyddfa gefn’ a rheoli.

Ffocws y trawsnewid yma fydd ail-gyflunio’r sefydliad, gan hwyluso gwell defnydd o dechnoleg a data, ac ail-ddylunio prosesau a dulliau o weithio. Nod y rhaglen trawsnewid yw sicrhau’r ddarbodaeth orau bosibl fel y gall pob punt posibl gael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau cwsmeriaid, gwelliannau amgylcheddol, a buddsoddiad hanfodol yn y rhwydwaith. Bydd y rhaglen yn sicrhau bod y busnes yn parhau i fod ar sylfeini ariannol sefydlog a chynaliadwy yn y tymor hir hefyd.

Mae’r newidiadau hyn yn digwydd yn erbyn cefndir o bwysau sylweddol ar y sector dŵr. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r diwydiant wedi cael ei israddio gan asiantaethau statws credyd, a hynny ar adeg pan fo’r anghenion buddsoddi wedi cynyddu er mwyn ariannu gwelliannau yn y seilwaith a’r amgylchedd yn dilyn adolygiad diweddar Ofwat o brisiau. Bydd yr ailstrwythuro yma’n helpu i gynnal gwytnwch ariannol y cwmni, a hynny wrth barhau i wella gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid.

Dywedodd Pete Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru: “Yn briodol ddigon, mae ein cwsmeriaid yn disgwyl i ni fuddsoddi er mwyn gwella ein gwasanaethau a chadw ein costau mor isel â phosibl – a dyna’r union beth y bydd y rhaglen yma’n ei gyflawni. Mae disgwyliadau ein cwsmeriaid, a’n gofynion rheoliadol, wedi newid yn sylweddol mewn blynyddoedd diweddar, ac fel cwmni bydd angen i ni addasu. Gyda biliau cwsmeriaid yn cynyddu, rydyn ni wedi ein herio ein hunain o ddifri i leihau ein costau er mwyn sicrhau bod pob punt a wariwn yn dod â manteision i gwsmeriaid ac yn cynnal ein gwytnwch ariannol mewn cyfnod ymestynnol i’r sector.

“Rwy’n llwyr gydnabod y bydd hi’n gyfnod ansicr i’r cydweithwyr o dan sylw. Dydyn ni ddim wedi cyflawni newidiadau ar y raddfa hon ers dros ddegawd, a byddwn ni’n ymdrin â’r broses â gofal, trugaredd a thegwch. Lle bynnag y bo modd, byddwn ni’n blaenoriaethu ymadawiadau gwirfoddol, ailhyfforddi, ac adleoli, a byddwn ni’n cydweithio’n agos â’n hundebau llafur ac yn darparu cefnogaeth lawn i bob cydweithiwr.

“Rydyn ni’n gweithredu nawr fel y gallwn amddiffyn gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid, buddsoddi rhagor yn ein rhwydweithiau a’r amgylchedd, a sicrhau bod cymaint o arian ein cwsmeriaid â phosibl yn mynd i’r pethau pwysicaf: sef darparu gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff dibynadwy, a chynorthwyo ein cwsmeriaid pan fo angen cymorth arnynt.”