Cefnogi Wolf Studios i leihau eu defnydd o ddŵr 23%, sy’n cyfateb i bron hanner pwll nofio Olympaidd!
Mae Wolf Studios Wales, stiwdio drama teledu flaenllaw 255,000 o droedfeddi sgwâr yng nghanol Caerdydd, wedi penderfynu y byddant yn canolbwyntio ar fentrau cynaliadwyedd y stiwdios yn 2025 ar y daith i ddod yn sero net erbyn 2030.
Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda ni, Dŵr Cymru, trwy brosiect datblygu a ariannwyd, Gwyrddu’r Sgrîn (Media Cymru and Ffilm Cymru), i leihau’r defnydd o ddŵr ar y safle yn sylweddol.
Ers i’r prosiect hwnnw ddechrau ym mis Hydref 2024, mae newidiadau syml wedi arwain at ostyngiad o 23% yn y dŵr a ddefnyddir (sy’n cyfateb i 1.1 miliwn o litrau o ddŵr) yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2025 o gymharu â’r un cyfnod yn 2023-2024.
Yn dilyn ymweliad â’r safle gan ein cydweithwyr, rhoddwyd newidiadau ar waith yn cynnwys; gosod cofnodwr data newydd; is-fesuryddion ar draws y safle; addysg a hyfforddiant staff; amseryddion troethfeydd; tapiau gwthio a newidiadau yn ymddygiad y criw trwy’r timau cynaliadwyedd cynyrchiadau ar y safle.
“Daeth Wolf Studios yn ymwybodol ein bod ni’n defnyddio tua 4.8 miliwn o litrau o ddŵr y flwyddyn, a gwnaethpwyd y penderfyniad i wneud newidiadau i leihau’r swm hwnnw,” dywedodd Lee Jackson, Rheolwr y Stiwdio.
“Rydym yn awyddus i ddibynnu llai ar adnoddau naturiol, i gael llai o effaith ar y seilwaith dŵr cenedlaethol ac i helpu’r rhai sy’n gweithio yn y Stiwdio i ddeall sut y gallan nhw wneud newidiadau bach yn y gwaith a gartref i leihau’r dŵr maen nhw’n ei ddefnyddio. Mae casglu data sy’n ymwneud â’n defnydd o ddŵr a mynd ati i ddeall y data hwnnw wedi bod yn hanfodol, ac mae hyn wedi bod yn bosibl gyda chymorth Dŵr Cymru ac arbenigedd Aquasafe.”
Bydd y prosiect lleihau dŵr yn Wolf Studios Wales yn parhau i fynd rhagddo tan fis Hydref 2025, a bwriedir rhoi newidiadau eraill ar waith yn yr haf.
Dywedodd Charlotte Harris, Rheolwr Prosiect Effeithlonrwydd Dŵr yn Dŵr Cymru, “Mae’n wych cael gweithio gyda sefydliadau fel Wolf Studios Wales, sy’n awyddus i archwilio ffyrdd arloesol o leihau eu dibyniaeth ar adnoddau naturiol a helpu i greu cyflenwad dŵr cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Trwy ein partneriaeth gydweithredol, mae’r gwaith wedi helpu i arbed swm sylweddol o ddŵr ac rydym yn edrych ymlaen at ddysgu mwy am eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”