Mae Glas Cymru, y cwmni nid-er-elw sy'n berchen ar Dŵr Cymru, wedi cyhoeddi penodiad Syr James Bevan fel Cyfarwyddwr Anweithredol i'w Fwrdd.
Mae Syr James yn dod ag ystod sylweddol o arbenigedd i gefnogi darpariaeth Dŵr Cymru o welliannau i wasanaethau, a'i raglen fuddsoddi fwyaf erioed dros 2025-2030.
Mae gan Syr James Bevan brofiad helaeth mewn cysylltiadau â'r llywodraeth, arweinyddiaeth, gweithredu, rheoleiddio, diogelu'r amgylchedd a newid yn yr hinsawdd. Ar ôl gyrfa ddiplomyddol lle bu'n gwasanaethu yn Affrica, Ewrop, yr Unol Daleithiau ac India, ac fel Prif Swyddog Gweithredol y Swyddfa Dramor, ef oedd Prif Weithredwr Asiantaeth yr Amgylchedd rhwng 2015 a 2023. Yn ystod y cyfnod hwn, arweiniodd y gwaith i ddiogelu'r amgylchedd, atal llygredd, lleihau peryglon llifogydd a sychder, a mynd i'r afael ag achosion ac effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Bydd yn ymuno â thri Chyfarwyddwr Anweithredol newydd, Darren James, Darren Pope ac Alison Wilcox a ymunodd â'r Bwrdd ar 1 Ionawr 2025.
Yn dilyn yr apwyntiad, dywedodd Cadeirydd Dŵr Cymru, Jane Hanson:
"Rwy'n falch iawn o groesawu Syr James Bevan i Fwrdd Dŵr Cymru. Bydd ei gyfoeth o brofiad yn gaffaeliad enfawr i'r cwmni wrth i ni gyflawni ein cynllun busnes a chanolbwyntio ar wella perfformiad dros y pum mlynedd nesaf.
"Mae'n gyfnod heriol i'r sector a bydd y penodiad hwn yn sicrhau bod y Bwrdd mewn sefyllfa ddelfrydol i yrru ymrwymiad y cwmni i wella ein perfformiad, cydnerthedd asedau a rhagoriaeth gwasanaeth cwsmeriaid.
"Bydd ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ein rhaglen fuddsoddi fwyaf erioed o £4bn, yn sicrhau buddion sylweddol i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu."
Dywedodd Syr James Bevan:
"Rwy'n falch iawn o ymuno â Bwrdd Dŵr Cymru wrth i'r cwmni baratoi ar gyfer newid sylweddol mewn lefelau buddsoddi rhwng nawr a 2030.
"Mae'n fraint cael ymuno â chwmni sydd wedi ymrwymo i wella ei berfformiad, darparu ar gyfer yr amgylchedd a sicrhau'r lefelau uchaf o wasanaeth i gwsmeriaid.
"Mae nifer o heriau sy'n wynebu'r diwydiant dŵr, o'r argyfwng hinsawdd i alw cynyddol gan gwsmeriaid a rheoleiddio llymach. Fel Bwrdd, byddwn yn sicrhau bod y cwmni yn y sefyllfa orau i wynebu'r heriau a'r cyfleoedd hyn, fel y gallwn gyflawni'n well i'r holl gwsmeriaid a'r lleoedd rydym yn eu gwasanaethu."