Peter Perry i Ymddeol fel Prif Weithredwr Dŵr Cymru


29 Ebrill 2025

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cyhoeddi y bydd Peter Perry’n ymddeol o’i rôl fel Prif Weithredwr yng ngwanwyn 2026.

Daw hyn ar ddiwedd gyrfa yn y sector dŵr a ddechreuodd dros 45 mlynedd yn ôl. Ymunodd Peter â Dŵr Cymru fel prentis ddechrau’r 1980au, gan ddatblygu trwy nifer o rolau gweithredol ac arwain cyn dod yn Brif Swyddog Gweithredu yn 2013, yn Rheolwr Gyfarwyddwr yn 2017 ac wedyn yn Brif Weithredwr yn 2020.

Ers hynny, mae Peter wedi arwain y cwmni trwy un o’r cyfnodau mwyaf ymestynnol a thrawsnewidiol yn ei hanes. Mae hyn wedi cynnwys y pandemig COVID-19, pwysau amgylcheddol cynyddol a sialensiau ariannol ar draws y sector, a’r cyfan wrth gadw’r ffocws ar gyflawni ar ran cwsmeriaid a chymunedau ar draws Cymru a Sir Henffordd.

Mae e wedi chwarae rôl arwain allweddol ar gyfer y diwydiant dŵr ar lefel DU-eang hefyd, gan arwain ar nifer o weithgareddau cynllunio wrth gefn pwysig, fel y cynlluniau ar gyfer Brexit a’r risg canlyniadol i gadwyni gyflenwi.

O dan ei arweinyddiaeth, mae Dŵr Cymru wedi buddsoddi mwy nag erioed mewn gwelliannau i’w seilwaith a’i wasanaethau, ac erbyn hyn mae’n darparu mwy o gymorth nag erioed ar gyfer cwsmeriaid bregus. Mae’r cwmni wedi parhau i flaenoriaethu anghenion cwsmeriaid, yr amgylchedd a chenedlaethau’r dyfodol trwy ddiogelu ei raglen fuddsoddi fwyaf uchelgeisiol erioed ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Wrth drafod ei benderfyniad, dywedodd Peter: “Mae Dŵr Cymru wedi bod yn rhan o fy mywyd ers i mi adael yr ysgol. Rwy’n hynod o falch o fod wedi cael treulio fy ngyrfa mewn sefydliad sy’n chwarae rhan mor allweddol wrth amddiffyn iechyd y cyhoedd ac sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol bob un dydd.

Mae’r cyfle i arwain y cwmni fel Prif Weithredwr, a gweld gwaith diflino ac aberth cydweithwyr wrth geisio cynnal ein gwasanaethau, yn enwedig mewn digwyddiadau tywydd eithriadol o arw wedi bod yn anrhydedd o’r mwyaf i mi. Rwy’n falch o’r hyn rydyn ni wedi ei gyflawni gyda’n gilydd a’r sylfeini cadarn rydyn ni wedi eu gosod ar gyfer y pum mlynedd nesaf a’r tu hwnt. Rwy’n hollol hyderus y bydd Dŵr Cymru’n parhau i fynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd sydd i ddod a byddaf yn parhau i ysgogi gwelliant o'r fath tan fy ymddeoliad.”

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Jane Hanson CBE: “Mae stori Peter yn wirioneddol ysbrydoledig - o brentis i Brif Weithredwr, mae ei siwrnai’n ymgorffori popeth y mae Dŵr Cymru’n ei gynrychioli yn nhermau gwerthoedd. Mae ei arweinyddiaeth wedi cael ei ddiffinio gan ddealltwriaeth ddofn o’r busnes, gofal go iawn dros ein pobl a’n cwsmeriaid, ac ymrwymiad i wneud y peth cywir nawr ac yn yr hir dymor. Ar ran y Bwrdd a phawb yn Dŵr Cymru, hoffwn ddiolch o waelod calon i Peter am ei wasanaeth neilltuol, a dymuno pob hapusrwydd iddo yn ei ymddeoliad.”

Bydd y gwaith o chwilio am olynydd yn dechrau ar unwaith. Penodwyd cwmni chwilio a recriwtio gweithredwyr eisoes, a chaiff y rôl ei hysbysebu mewn cyhoeddiadau perthnasol. Caiff ymgeiswyr mewnol ac allanol eu hystyried ar gyfer y rôl. Disgwylir i’r broses gymryd sawl mis, a bydd Peter yn aros yn ei swydd trwy gydol y broses benodi.

Yn ogystal â bod yn Brif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter yw Cadeirydd Busnes yn y Gymuned Cymru, ac mae’n ymgynghorydd ar Fforwm Gwytnwch y DU lle mae e wedi bod yn gadeirydd ar Grŵp Rheoli Digwyddiadau Platinwm strategol sector dŵr y DU.