Caiff 40,000 yn rhagor o baneli solar eu gosod yn agos at y gweithfeydd trin i ategu’r 10,000 sydd eisoes ar y safle, a bydd hyn yn cydategu’r injanau cynhyrchu biomethan a’r injanau Gwres a Phŵer Cyfunol sydd yno.
O’u cyfuno, bydd hyn yn cynhyrchu tua 8% o’r trydan a nwy y mae Dŵr Cymru’n ei ddefnyddio’n flynyddol - neu ddigon o ynni i bweru tua 4,500 o gartrefi.
Bydd Dŵr Cymru’n cydweithio ag Innova Renewables ar y prosiect, sef y cwmni ynni adnewyddadwy sy’n datblygu’r safle. Mae gan Innova bortffolio helaeth o asedau ar draws Cymru a Lloegr eisoes.
Mae hunanddigonolrwydd yn rhan bwysig o darged Dŵr Cymru i gyflawni Sero Net erbyn 2040. Mae’r cwmni am gwtogi ar faint mae’n ei wario ar bŵer hefyd er mwyn sicrhau gwerth am arian i’r cwsmeriaid sy’n talu biliau.
Mae safle Pum Rhyd yn prosesu dŵr gwastraff tua 180,000 o gwsmeriaid o bob rhan o’r gogledd yn ogystal. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Dŵr Cymru wedi buddsoddi £36m i droi’r safle’n fodel ar gyfer safleoedd ynni gwyrdd.
Pum Rhyd yw’r safle ynni mwyaf amrywiol yn sector, gan ddefnyddio nifer o dechnolegau arloesol fel “pŵer pŵ”, sef tanwydd nwy adnewyddadwy wedi ei greu o slwtsh carthion trwy ddefnyddio bacteria i gynhyrchu methan o dreulio’r carthion mewn tanciau mawr cynnes heb ocsigen. Mae hyn yn caniatáu i’r bacteria ffynnu a chynhyrchu ynni – trwy broses o’r enw treulio anaerobig.
Dywedodd Andrew Dixon, Pennaeth Effeithlonrwydd Ynni Dŵr Cymru: “Yn 2015, fe rannon ni ein gweledigaeth i droi safle Pum Rhyd yn ‘barc ynni’ gan ddechrau gyda thechnoleg i droi biomethan yn ynni sy’n bwydo’r grid cenedlaethol, a mynd ymlaen i arloesi gydag amryw o dechnolegau ynni adnewyddadwy er lles yr amgylchedd.
“Mae’r datblygiad solar yma’n gam pwysig tuag at wneud Dŵr Cymru’n hunangynhaliol o ran ein hanghenion ynni, gan leihau ein hôl troed carbon ac ychwanegu at y technolegau arloesol sydd yno eisoes. Yn sgil gyflwyno’r dechnoleg yma, bydd Pum Rhyd yn cynhyrchu tua 8% o ofynion ynni blynyddol Dŵr Cymru o ran trydan a nwy, sy’n gam pwysig ar ein siwrnai i Sero Net.”