Dŵr Cymru yn penodi Roch Cheroux yn Brif Weithredwr


27 Awst 2025

Mae Dŵr Cymru Welsh Water, y cwmni dŵr nid-er-elw sy’n gwasanaethu dros dair miliwn o bobl ar draws Cymru, Sir Henffordd a rhannau o Lannau Dyfrdwy, wedi cadarnhau penodiad Roch Cheroux yn brif weithredwr newydd y cwmni.

Mae Roch wedi cyflawni rolau gweithredol ac arweinyddiaeth uwch ar draws Ewrop, Asia ac Awstralia, a bu’n Brif Weithredwr Sydney Water, cyfleustod dŵr mwyaf Awstralia, rhwng 2019 a Mawrth 2025. Gyda dros dri degawd o brofiad yn y diwydiant dŵr, mae’n fawr ei barch am ei ffocws ar gynaliadwyedd, gwasanaethau cwsmeriaid a rhagoriaeth weithredol. Daw ei benodiad ar gyfnod allweddol i Ddŵr Cymru wrth i’r sector ymateb i’r disgwyliadau cynyddol o du’r cyhoedd, pwysau amgylcheddol, a diwygiadau rheoliadol.

Yn ystod ei gyfnod gyda Sydney Water, goruchwyliodd gwadryblu a mwy ym muddsoddiad cyfalaf y cwmni; gwelwyd gostyngiad sylweddol mewn cwynion gan gwsmeriaid er gwaethaf amgylchiadau gweithredol ymestynnol fel Covid, tanau gwyllt, llifogydd a sychder; a chyflawnwyd gwelliannau sylweddol o ran ymgysylltiad staff a digwyddiadau iechyd a diogelwch adroddadwy. Y llynedd, enwyd Sydney Water fel y cwmni cyfleustod y mae pobl yn ymddiried y mwyaf ynddo yn Awstralia.

Mae Roch yn olynu Peter Perry, sydd wedi gwasanaethu fel Prif Weithredwr Dŵr Cymru ers 2020. Ar ôl gyrfa 45 mlynedd yn y diwydiant dŵr, ym mis Ebrill eleni, cyhoeddodd Peter Perry ei gynlluniau i ymddeol yng ngwanwyn 2026.

Cyn cymryd ei rôl gyda Sydney Water, bu Roch yn Brif Weithredwr Corfforaeth Dŵr De Awstralia, a chyn hynny cyflawnodd rolau gweithredol gyda SUEZ (yn Awstralia ac Asia), United Utilities Awstralia (yn Awstralia ac Asia), Dŵr Tallinn (Estonia) a gyda Grŵp Bouygues yn Ffrainc.

Bydd Roch yn ymuno â’r cwmni ar 6 Hydref, ac yn cymryd rôl Prif Weithredwr yn ffurfiol yn y flwyddyn newydd. Bydd Pete Perry yn ymddeol yn y gwanwyn.

Wrth drafod ei benodiad, dywedodd Roch Cheroux: “Mae hi wir yn anrhydedd cael ymuno â Dŵr Cymru – cwmni â phwrpas cyhoeddus clir a model nid-er-elw unigryw sy’n rhoi cwsmeriaid a chymunedau’n gyntaf. Bu ei fodel unigryw yn ffactor arwyddocaol yn fy mhenderfyniad i symud i Ddŵr Cymru.

“Mae hi’n gyfnod allweddol i’r cwmni ac i’r sector. Mae’r diwygiadau helaeth y mae’r Comisiwn Dŵr Annibynnol yn eu cynnig, ynghyd â rhaglen buddsoddi uchelgeisiol Dŵr Cymru ar gyfer y pum mlynedd nesaf, yn golygu ei bod hi’n amser cyffrous i ymuno â’r cwmni. Rwy’n edrych ymlaen at gael gweithio gyda’r tîm, Llywodraethau, rheoleiddwyr a’n cwsmeriaid i gyflawni’r deilliannau gorau posibl ar gyfer ein cwsmeriaid, cymunedau a’r amgylchedd.”

Dywedodd Cadeirydd Glas Cymru, Jane Hanson CBE: “Mae Roch yn dod â phrofiad rhyngwladol cryf o arwain cwmnïau dŵr sy’n perfformio ar lefel uchel, ac sydd â ffocws ar y cwsmer. Bydd ei brofiad yn amhrisiadwy wrth i ni ffeindio’n ffordd trwy newidiadau sylweddol yn nhermau diwygio’r sector dŵr, a bydd yn cydweithio’n agos â’r Bwrdd i sicrhau bod yna ffocws tynn iawn ar wella perfformiad, a bod pob un geiniog o filiau ein cwsmeriaid yn cael eu defnyddio i gael yr effaith fwyaf bosibl.

“Rydyn ni wrth ein bodd i groesawu Roch i Ddŵr Cymru ar gyfnod sydd mor dyngedfennol i’r cwmni. Roedd ein hymarfer recriwtio trylwyr yn cynnwys proses ddethol helaeth – gan ystyried ymgeiswyr o safon uchel o Gymru, gweddill y DU ac o bedwar ban y byd, gan sicrhau ein bod ni’n penodi’r ymgeisydd gorau posibl i gyflawni ein cynllun busnes mwyaf uchelgeisiol erioed.

“Hoffwn roi teyrnged hefyd i Peter Perry, y mae ei arweinyddiaeth wedi bod yn allweddol dros y pum mlynedd diwethaf. O dan ei arweiniad, mae Dŵr Cymru wedi aros yn gadarn trwy’r pandemig COVID-19, rhai o’r digwyddiadau gweithredol mwyaf ymestynnol ers degawdau, ac yn wyneb pwysau amgylcheddol cynyddol – a’r cyfan wrth gyflawni dros gwsmeriaid ac aros yn driw i’w werthoedd nid-er-elw. Ar ran y Bwrdd a’r busnes ehangach, hoffwn ddiolch i Peter am ei gyfraniad neilltuol, a dymuno pob llwyddiant iddo at y dyfodol.”