Dirprwy Brif Weinidog Cymru’n agor gorlif storm gwlyptir a gwely brwyn cyntaf y DU yn Nhorfaen
21 Hydref 2025
Mae Dŵr Cymru wedi agor gorlif storm gwlyptir a gwely brwyn arloesol gwerth £13 miliwn ym Mhont-y-felin, Torfaen – y prosiect cyntaf o’i fath yn y DU.
Daeth Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru, i ymweld â’r safle dydd Iau, ochr yn ochr â Phrif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry.
Mae’r gwlyptir newydd sbon wedi cael ei adeiladu gan ddefnyddio rhwydwaith o welyau brwyn a phyllau lle bydd planhigion gwlyptir yn hidlo’r llygryddion ac yn glanhau’r dŵr yn naturiol.
Fel arfer, bydd gorlif storm yn rhyddhau cyfuniad o wastraff a dŵr glaw i’r afonydd mewn glaw trwm. Ond yma, caiff ei gyfeirio trwy’r gwlyptir adeiledig cyn i’r dŵr wedi ei drin gael ei ryddhau’n ddiogel i Afon Lwyd. Bydd hyn yn lleihau’n sylweddol yr effaith ar yr afon ac ar Afon Wysg (sy’n Ardal Cadwraeth Arbennig) i lawr y llif.
Trwy ddisodli ateb peirianegol traddodiadol, fel gosod tanciau storio mawr o goncrit, â’r dyluniad yma sy’n seiliedig ar natur, mae Dŵr Cymru wedi arbed £40 miliwn ac wedi osgoi dros 3,000 tunnell o allyriannau carbon. Y canlyniad yw model carbon isel, y gellir ei ehangu ac sy’n llesol i’r amgylchedd, a fydd yn dod â manteision hirdymor i gymunedau lleol a bywyd gwyllt.
Mae’r prosiect yn rhan o fuddsoddiad £2.5bn Dŵr Cymru mewn prosiectau i wella’r amgylchedd, lleihau gorlifoedd storm, adfer iechyd afonydd a chryfhau gwytnwch ecosystemau dros y pum mlynedd nesaf.
Mae'r safle bellach yn weithredol ac yn trin gorlifoedd storm. Dros yr wythnosau nesaf, bydd y safle'n agor i'r gymuned ehangach er mwyn iddynt allu ei fwynhau hefyd.
Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog ar faterion Newid Hinsawdd:
“Mae prosiectau fel Pont-y-felin yn dangos beth sy’n bosibl wrth weithio gyda phrosesau naturiol yn hytrach nac yn eu herbyn – gan gyflawni atebion eofn yn seiliedig ar natur sy’n creu dŵr mwy glân, allyriannau is, a gwerth gwirioneddol i’r gymuned.
“Rydyn ni am weld mwy o hyn ar draws Cymru; prosiectau sy’n amddiffyn ein dyfrffyrdd gwerthfawr, yn cynnal bioamrywiaeth, ac yn creu buddion hirdymor ar gyfer ein cymunedau – gan sicrhau ein bod ni’n creu Cymru fwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Ychwanegodd Pete Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru:
“Rydyn ni’n falch o fod yn chwarae rhan flaenllaw wrth adfer ac amddiffyn dyfrffyrdd Cymru. Mae Pont-y-felin yn esiampl bwerus o sut y gallwn ni weithio gyda byd natur i wella ansawdd dŵr afonol a meithrin gwytnwch yr hinsawdd.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu rhagor o brosiectau gwyrdd arloesol fel hyn - atebion sy’n llesol i’r amgylchedd ac i genedlaethau’r dyfodol.”
Yn ogystal â’r manteision ecolegol, mae’r safle’n cynnwys llwybrau newydd, mannau eistedd, ac arwyddion addysgiadol, gan greu lle gwyrdd byw ar gyfer trigolion ac ymwelwyr.