Llythyr agored i'n cwsmeriaid yn Sir y Fflint


14 Awst 2025

Annwyl Gwsmer,

Mae'r aflonyddwch presennol i gyflenwadau dŵr ein cwsmeriaid yn Sir y Fflint yn heriol ac yn rhwystredig i'n cwsmeriaid. Mae'n ddrwg iawn gennym ac yn gwerthfawrogi'r anghyfleustra a'r pryder y mae hyn wedi'i achosi, yn enwedig i'r cwsmeriaid hynny a gafodd broblemau gyda'u cyflenwad dŵr y penwythnos blaenorol.

Yn dilyn byrst ar y brif bibell ddŵr yfed sy'n bwydo gogledd Sir y Fflint ym Mrychdyn ddydd Sadwrn 9fed Awst, cynhaliodd ein tîm gwaith atgyweirio dros dro er mwyn adfer cyflenwadau dŵr cyn gynted â phosibl. Roedd hyn yn caniatáu inni ail-lenwi'r rhwydwaith gyda'r nod o roi digon o amser storio inni fynd yn ôl a chwblhau'r atgyweiriad parhaol heb unrhyw effaith ar gyflenwadau.

Yn anffodus, ni pharhaodd yr atgyweiriad dros dro yn ddigon hir i'r system ailgyflenwi'n llawn. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i ni ddechrau atgyweiriad brys neithiwr. Mae'n heriol gan fod y bibell wedi byrstio 4 metr o dan ddaear ac mae’n agos at geblau trydan felly oedd angen gofal ychwanegol.

Mae ein timau'n gweithio'n ddiflino i gyflawni'r gwaith atgyweirio'n ddiogel a chyn gynted ag y gallent fel y gellir adfer cyflenwadau i gartrefi a busnesau yn yr ardal. Mae gennym hefyd fflyd o danceri yn symud dŵr o amgylch y rhwydwaith yn yr ardal i leihau'r aflonyddwch i gynifer o gwsmeriaid ag y gallent.

Rydym yn dosbarthu poteli dŵr i'n cwsmeriaid mwyaf bregus ac yn cynnal cyflenwadau i ddau ysbyty ac 20 o gartrefi gofal. Rydym wedi sefydlu sawl gorsaf poteli dŵr a hoffem ddiolch i bob cwsmer am eu hamynedd yn y mannau casglu ac i'r holl wirfoddolwyr a helpodd yn y safleoedd.

Nid ydym yn rhagweld y bydd cyflenwadau dŵr yn dechrau adfer i lefelau arferol tan yfory ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i reoli a lleihau'r effaith a chefnogi cwsmeriaid heb ddŵr.

Byddwn yn talu iawndal yn awtomatig i gyfrifon banc cwsmeriaid (lle mae gennym eu manylion neu drwy siec os nad oes). Bydd cwsmeriaid domestig yn derbyn £30 am bob 12 awr y maent wedi bod oddi ar y cyflenwad. Bydd cwsmeriaid busnes yn cael taliad awtomatig o £75 am bob 12 awr a byddant hefyd yn gallu hawlio am unrhyw golled incwm – mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan a bydd y broses ymgeisio ar agor cyn gynted ag y byddwn yn adfer yr holl gyflenwadau a bod y digwyddiad wedi dod i ben.

Byddwn yn cynnal adolygiad llawn o'r digwyddiad a phob agwedd ar ein hymateb. Hoffwn ddiolch am yr holl gefnogaeth a dderbyniwyd gan drigolion lleol, cwsmeriaid, busnesau a'r holl wirfoddolwyr sydd wedi ein helpu yn ystod y digwyddiad hwn.

Hoffwn ddiolch i chi am eich dealltwriaeth a derbyniwch fy ymddiheuriadau diffuant am yr aflonyddwch a achoswyd.

Yn gywir,

P.Perry

Prif Weithredwr

Dŵr Cymru