Annwyl Gwsmer,
Mae'r wythnos ddiwethaf wedi bod yn hynod o heriol i'n cwsmeriaid mewn cartrefi a busnesau mewn rhannau o Sir y Fflint a gafodd eu heffeithio wedi byrst ar y brif bibell ddŵr ym Mrychdyn. Hoffwn ymddiheuro eto, am yr aflonyddwch ac anghyfleustra mawr yn ogystal â’r pryder a'r rhwystredigaeth y mae hyn wedi ei achosi, yn enwedig i'n cwsmeriaid a gafodd broblemau gyda'u cyflenwad dŵr y penwythnos diwethaf hefyd.
Yn dilyn byrst ar y brif bibell ddŵr yfed ym Mrychdyn ddydd Sadwrn 9fed Awst, fe drwsiodd y tîm y bibell dros dro er mwyn adfer cyflenwadau dŵr cyn gynted â phosibl o ystyried yr amodau tywydd poeth a'r gwres llethol oedd ar ei ffordd. Caniataodd hyn i ni ail-lenwi'r rhwydwaith gyda'r nod o roi digon o amser storio yn y system cyn i ni fynd yn ôl a chwblhau gwaith trwsio parhaol heb effeithio ar gyflenwadau.
Yn anffodus, ni pharhaodd yr atgyweiriad dros dro yn ddigon hir i'r system ail-lenwi'n llawn. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i ni gynnal gwaith trwsio brys. Roedd y gwaith yn heriol iawn gan fod y bibell wedi byrstio 5 metr o dan y ddaear yn agos at nifer o gartrefi ac yn agos at geblau trydan a oedd angen gofal ychwanegol.
Mae cyflenwadau dŵr wedi'u hadfer i bob ardal, ond mae gennym dimau wrth law i ddelio ag unrhyw broblemau wrth i'r rhwydwaith setlo ac i bethau fynd nôl i’r arfer.
Mae ein timau wedi gweithio'n ddiflino i wneud y gwaith trwsio y bibell yn ddiogel a chyn gynted ag y gallent er mwyn adfer cyflenwadau i gartrefi a busnesau yn yr ardal. Roedd gennym hefyd fflyd o danceri yn symud dŵr o amgylch y rhwydwaith yn yr ardal i leihau'r aflonyddwch i gynifer o gwsmeriaid â phosibl ac i ddarparu cyflenwad dŵr i ddau ysbyty a chartrefi gofal yn yr ardal. Roedd gennym dimau'n gweithio 24 awr y dydd yn dosbarthu poteli dŵr i gwsmeriaid bregus ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaethol a chanolfannau cymunedol lleol yn ogystal â helpu cwsmeriaid mewn 3 o'n mannau casglu potel dŵr. Gyda chyflenwadau dŵr bellach wedi'u hadfer, bydd y gorsafoedd dŵr potel a'r danfoniadau cartref yn dod i ben.
Hoffem ddiolch i gwsmeriaid am yr haelioni maen nhw wedi'i ddangos i'n staff a'n contractwyr sy'n gweithio ar y safle ac yn y gorsafoedd poteli dŵr – mae'r ymateb wedi bod yn wirioneddol galonogol.
Yn ystod y digwyddiad hwn, rydym wedi parhau i ymrwymo i ddarparu cefnogaeth i gwsmeriaid a busnesau. Dyma pam y gwnaethom gadarnhau'n gyflym y bydd pob aelwyd yn derbyn £30 am bob 12 awr y maent wedi bod heb ddŵr. Byddwn yn talu iawndal yn awtomatig i gyfrifon banc cwsmeriaid (lle mae gennym eu manylion neu drwy siec os nad oes). Bydd cwsmeriaid busnes yn cael taliad awtomatig o £75 am bob 12 awr a byddant hefyd yn gallu hawlio am unrhyw golled incwm. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein gwefan a bydd y broses ymgeisio ar agor o hanner dydd, dydd Mawrth, Awst 19eg, 2025.
Byddwn yn cynnal adolygiad llawn o'r digwyddiad a phob agwedd o’n ymateb. Rydym hefyd yn gwybod y gallwn bob amser wneud pethau i wella sut rydym yn rheoli'r math hwn o ddigwyddiad. Felly, dros yr ychydig wythnosau nesaf byddwn yn cysylltu â detholiad o gwsmeriaid yr effeithiwyd arnynt fel y gallwn ddysgu gwersi a fydd yn llywio sut rydym yn delio â digwyddiadau ar raddfa fawr fel hyn yn y dyfodol.
Hoffwn ddiolch am yr holl gefnogaeth a gawsom gan drigolion lleol, cynrychiolwyr etholedig a gwirfoddolwyr yn ogystal ag asiantaethau allweddol fel Cyngor Sir y Fflint, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.
Yn olaf, hoffwn ymddiheuro eto am yr anghyfleustra y mae hyn wedi'i achosi a diolch i chi eto am eich amynedd ac am weithio gyda ni.
Yn gywir,
P.Perry
Prif Weithredwr
Dŵr Cymru