“Mae cyhoeddiad Ofwat heddiw yn ymateb i’n cyflwyniad ar gyfer y buddsoddiad mwyaf erioed dros y 5 mlynedd nesaf er mwyn sicrhau gwelliannau sylweddol i’r gwasanaethau a ddarparwn."
“Rydym yn croesawu’r ffaith bod Ofwat wedi ymateb i’r sylwadau a wnaethom ar ôl y Penderfyniad Drafft i ganiatáu mwy o’r hyn yr oeddem wedi gofyn amdano yn ein Cynllun Busnes, gan gydnabod bod rhai targedau perfformiad heriol iawn gan gynnwys lleihau gollyngiadau a gorlifiadau o orlifau storm.
“Bydd y Penderfyniad Terfynol a gyhoeddwyd y bore yma yn gweld biliau cwsmeriaid yn cynyddu’n sylweddol uwch na chwyddiant. Nid yw unrhyw gynnydd mewn prisiau byth yn cael ei groesawu, ac rydym bob amser wedi ceisio cadw’r rhain i’r lleiafswm, fodd bynnag, nid yw cynnydd mewn biliau wedi cadw i fyny â chwyddiant dros y 15 mlynedd diwethaf. Er bod Ofwat wedi ein herio’n galed ar ein cynlluniau ac ar effeithlonrwydd, ni fyddem ni – fel gweddill y sector – yn gallu ariannu’r cynnydd angenrheidiol mewn buddsoddiad mewn modd cynaliadwy heb gynyddu biliau. Fodd bynnag, byddwn yn sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu'r cymorth ariannol mwyaf posibl i gwsmeriaid sy'n cael trafferth gyda'u biliau.
“Rydym yn awyddus i gyflawni yn erbyn ein hamcanion hirdymor i wella perfformiad, addasu ein rhwydweithiau i’r argyfwng hinsawdd er mwyn ymdopi’n well â llawer iawn o ddŵr glaw mewn carthffosiaeth, a gwneud mwy i amddiffyn ein hafonydd a’n moroedd.
“Trwy gydol y broses, rydym wedi ymrwymo i weithio gydag Ofwat, yn ogystal â rhanddeiliaid fel y Cyngor Defnyddwyr Dŵr, yr Arolygiaeth Dŵr Yfed, Cyfoeth Naturiol Cymru a’n Grŵp Her Annibynnol, i sicrhau ein bod yn gallu cyflawni cynllun sy’n diwallu’r anghenion a disgwyliadau ein cwsmeriaid. Bydd hyn yn parhau i fod yn wir wrth i ni ystyried manylion a goblygiadau llawn Penderfyniad Terfynol Ofwat.”
Mae trosolwg o Benderfyniad Terfynol PR24 Dŵr Cymru ar gael yma.