Dŵr Cymru yn adrodd y buddsoddiad cyfalaf hanner blwyddyn mwyaf erioed am 6 mis cyntaf 2024/25


1 Tachwedd 2024

Cyflawnodd Dŵr Cymru ei fuddsoddiad cyfalaf hanner blwyddyn mwyaf erioed ar gyfer y chwe mis rhwng Ebrill a Medi 2024. Cyfanswm gwariant cyfalaf y cyfnod hwn oedd £295 miliwn ac mae'r cwmni'n rhagweld y bydd yn cwblhau £2.1 biliwn o fuddsoddiad ar gyfer y pum mlynedd hyd at fis Mawrth 2025 (AMP7).

Gan fod y cwmni'n canolbwyntio ar gefnogi ymgyrch y Llywodraeth i wella ansawdd ein hafonydd, rhan o'r buddsoddiad hwn oedd y £80 miliwn a wariwyd dros y pedair blynedd diwethaf i wella afon Gwy a £20 miliwn ar afon Wysg. Mae hyn ar ben prosiectau parhaus sy'n cynnwys £19 miliwn i wella ansawdd dŵr y Fenai a £9.4 miliwn ar afon Cleddau.

Ar ôl 3 blynedd, dychwelodd y cwmni yn llwyddiannus i farchnadoedd cyfalaf y DU, gan gyhoeddi £600m o fondiau gwyrdd i fuddsoddwyr ym mis Medi a atgyfnerthodd ei safle fel prif gredyd yn y sector dŵr, gan ganiatáu iddo sicrhau cyllid am gost is na'i gymheiriaid.

Fel y mae wedi adrodd, mae Dŵr Cymru yn cydnabod yn glir bod meysydd allweddol lle mae ei berfformiad y tu ôl i'r targed, gan gynnwys nifer yr achosion o lygredd, lefelau gollyngiadau, a hyd yr amser y mae cwsmeriaid yn profi tarfu ar gyflenwadau dŵr.

Mae'r cwmni eisoes yn gweithredu cynlluniau manwl i adfer ar ôl cael 2 seren yn ei Asesiad Perfformiad Amgylcheddol a chael ei gategoreiddio gan Ofwat fel cwmni sydd 'ar ei hôl hi'.

Bydd sicrhau'r adferiad hwn ar draws cyfnod o gynnydd parhaus yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol i wella cydnerthedd ei asedau. Os cânt eu cymeradwyo, bydd cynlluniau'r cwmni ar gyfer y pum mlynedd rhwng 2025 a 2030 yn arwain at ei raglen gwariant cyfalaf fwyaf erioed gwerth £4 biliwn, gyda £2.5 biliwn o'r cyfanswm hwnnw wedi'i fuddsoddi i wella'r amgylchedd. Disgwylir i Ofwat gyhoeddi ei Benderfyniad Terfynol ar gyfer AMP8 ym mis Rhagfyr.

Bydd gan Dŵr Cymru £400 miliwn o gynlluniau sy’n barod i’w gweithredu yn ystod deuddeg mis cyntaf y cylch buddsoddi nesaf.

Nid yw'r cynnydd mawr ei angen hwn mewn buddsoddiad yn bosibl heb gynnydd ym miliau dŵr cwsmeriaid, ond mae'r cwmni wedi ymrwymo i barhau i helpu ei gwsmeriaid mwyaf difreintiedig yn ariannol.

Mae popeth y mae'r cwmni'n ei dderbyn gan gwsmeriaid yn cael ei roi ar waith yn y busnes o dan fodel "nid-er-elw" Dŵr Cymru. Mae hyn yn golygu nad yw'n talu difidendau i gyfranddalwyr ac mae'n gallu sicrhau bod £14 miliwn y flwyddyn ar gael i gefnogi ei gwsmeriaid mwyaf agored i niwed.

Nododd yr adroddiad interim hefyd fod dros 130,000 o gwsmeriaid yn cael eu cefnogi gan Dariffau Cymdeithasol Dŵr Cymru, sy'n capio'r swm y maent yn ei dalu am eu biliau.

Dywedodd Cadeirydd Glas Cymru, Alastair Lyons:

"Mae Dŵr Cymru yn buddsoddi'n helaeth i uwchraddio ein seilwaith, gwella ein prosesau, a defnyddio atebion arloesol.

"Rydym wedi ymrwymo i wneud y peth iawn, cydnabod ein diffygion a mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r heriau sy'n ein hwynebu, gyda thryloywder a chynlluniau clir ar gyfer gwella.

"Wrth i mi baratoi i ymddeol fel Cadeirydd ar ddiwedd y flwyddyn, hoffwn ddiolch i bawb yn y busnes am eu cefnogaeth a'u hymroddiad dros y blynyddoedd."

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry:

"Mae popeth a wnawn fel cwmni yn cael ei ysgogi gan ymrwymiad cryf i wasanaethu ein cymunedau a diogelu'r amgylchedd.

"Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifrif a byddwn yn ymateb i'r her yn y meysydd hynny lle nad yw ein perfformiad wedi cyrraedd y safonau uchel yr ydym yn eu disgwyl gennym ni ein hunain, neu y mae cwsmeriaid yn eu disgwyl gennym ni.

"Mae ein staff wedi gweithio'n galed dros y chwe mis diwethaf i roi'r cwmni yn y sefyllfa orau bosibl wrth i ni baratoi ar gyfer ein rhaglen fuddsoddi newydd ar gyfer 2025-2030.

"Nod y rhaglen fuddsoddi hon fydd lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd a chanolbwyntio ar ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cwsmeriaid."

Generic Document Thumbnail

Interim Report and Accounts for the six months ended 30 September 2024

PDF, 683.4kB