Dŵr Cymru’n ategu ei ymddiheuriad am gam-adrodd data ar berfformiad o ran gollyngiadau a defnydd fesul pen yn sgil cyhoeddi canfyddiadau ymchwiliad Ofwat


14 Mawrth 2024

Yn sgil cyhoeddi adroddiad Ofwat ar gam-adrodd data perfformiad am ollyngiadau a defnydd fesul pen, mae Dŵr Cymru wedi ategu ei ymddiheuriad am y broblem y tynnodd sylw Ofwat ati ac y dechreuodd ymchwilio iddi yn 2022.

Mae canfyddiadau allweddol adroddiad Ofwat yn gyson ag ymchwiliad Dŵr Cymru ei hun a rannwyd â’r rheoleiddiwr ym mis Mai 2023. Ym mis Mawrth 2023, cynigiodd Dŵr Cymru becyn unioni gwerth £30m i’r rheoleiddiwr, a oedd yn cynnwys ad-daliad o £10 i gwsmeriaid, a roddwyd hyn ar waith yn 2023. Yn ogystal, cynigiodd gwerth £59 miliwn o wariant i wella perfformiad o ran gollyngiadau a defnydd fesul pen. Mae Ofwat wedi derbyn y cynigion hyn gan godi cosb o £1 ar y cwmni.

Clustnodwyd y broblem o ran cam-adrodd data trwy broses sicrwydd flynyddol Dŵr Cymru’n wreiddiol, a thynnwyd sylw Ofwat ati yn 2022. Clustnododd ymchwiliad y cwmni ddiffygion yn ei brosesau ar gyfer cadw trosolwg ar lywodraethiant a rheolaeth. Aeth Dŵr Cymru ati wedyn i newid ei brosesau a’i strwythurau gweithredu er mwyn mynd i’r afael â’r materion a oedd wrth wraidd y problemau hyn.

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Pete Perry:

“Mae’n ddrwg iawn gennym fod hyn wedi digwydd. Fe fuom yn rhagweithiol wrth dynnu sylw Ofwat at y mater yn Ebrill 2022 ar ôl iddo ddod i’n sylw trwy ein proses sicrwydd ansawdd flynyddol. Mae canfyddiadau allweddol Ofwat o ran beth aeth o’i le yn gyson â’n hymchwiliadau ni ein hunain a rannwyd ag Ofwat, ynghyd â’n cynigion ar gyfer gwneud iawn i’r cwsmeriaid a’r buddsoddiad ychwanegol i daclo gollyngiadau a defnydd fesul pen. Talwyd ad-daliadau i 1.4 miliwn o gwsmeriaid eisoes.

"Canfu ein hadolygiad taw diffygion o ran goruchwylio llywodraethiant a rheolaeth a arweiniodd at y problemau a glustnodwyd, ac mae’r rhain bellach wedi eu datrys. Bydd cyflawni’r gostyngiad cynlluniedig mewn gollyngiadau’n sialens, ond rydyn ni wedi ymrwymo i gynyddu’r gwariant yn y maes yma’n sylweddol, ac wedi cryfhau’r timau gweithredol perthnasol er mwyn adfer perfformiad.”

Nodiadau i’r golygydd:

Mae datganiad Ofwat yn cyfeirio at daliadau o £40m “er budd ei gwsmeriaid”, sy’n cynnwys:

  • Ad-daliad i gwsmeriaid (£10 y cwsmer) - £15m
  • Gwariant ychwanegol ar ollyngiadau a ymgorfforwyd yn 2020-22 - £15m
  • Cyfanswm y Taliadau Unioni i gwsmeriaid - £30m

  • Taliad am danberfformiad o dan y Cymhelldal Cyflawni Deilliannau (ODI) 2020-22 - £9.4m
  • Cyfanswm y taliadau - £39.4m

  • Gallwch ddarllen ein datganiad i’r wasg ym mis Mai 2023 yma.