Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi codi’r hysbysiad ‘berwi dŵr’ rhag ofn sydd wedi bod mewn grym ar gyfer cwsmeriaid mewn rhannau o Rhondda Cynon Taf.
Mae’r hysbysiad yn cael ei godi ar unwaith, sy’n golygu bod cwsmeriaid yn gallu yfed eu dŵr yfed fel arfer.
Cafodd samplu a phrofi ansawdd dŵr yfed ei gynnal drwy gydol y cyfnod, ac mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau bod y profion yn dangos nad oes angen berwi dŵr yfed mwyach.
Bu’r hysbysiad mewn grym ar gyfer cwsmeriaid yn ardaloedd Blaenrhondda, Blaencwm, Tynewydd, Treherbert, Treorci, Cwm-parc, Ton Pentre, y Gelli, rhannau o’r Pentre, Tonypandy ac Ystrad.
Achosodd y glaw trwm yn ystod Storm Bert ar 24 Tachwedd ddifrod llifogydd yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Tyn-y-waun yn Nhreherbert, gyda dŵr wyneb yn llifo oddi ar y bryn ac i mewn i’r tanc storio dŵr gan achosi difrod i’r tanc.
Mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio 24 awr y dydd i drwsio’r difrod, gan gyflawni gwaith clirio helaeth ar y safle a gwaith i amddiffyn y tanciau storio dŵr yfed rhag digwyddiadau tywydd eithafol o’r fath yn y dyfodol.
Mae llawer o’r gwaith yma wedi dibynnu ar dywydd sych i osod pilen anhydraidd o amgylch y tanciau yn llwyddiannus.
Bydd pob aelwyd o fewn cwmpas yr hysbysiad yn derbyn taliad ewyllys da o £250, a bydd pob busnes yn derbyn £500.
Sefydlodd Dŵr Cymru dair gorsaf dŵr potel yn yr ardal, cafodd cwsmeriaid bregus ddŵr potel i’r drws, a dosbarthwyd dŵr i ysbytai, ysgolion a chartrefi gofal hefyd.
Am fod yr holl gwsmeriaid yn gallu yfed eu dŵr fel arfer erbyn hyn, bydd y gorsafoedd dŵr potel yn cael eu cau ar nos Wener a’r gwasanaeth dosbarthu i gartrefi yn dod i ben.
Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru Welsh Water, Peter Perry:
“Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r effaith sylweddol y mae’r hysbysiad wedi ei chael ar nifer o gymunedau yn Rhondda Cynon Taf, ac mae’n flin iawn gennym am hynny.
“Rydyn ni wedi gweithio dydd a nos i unioni pethau, a hoffem ddiolch i’n holl gwsmeriaid am eu hamynedd a’u cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn.
“Rydyn ni’n gwerthfawrogi cefnogaeth a diolchgarwch ein cwsmeriaid i’n cydweithwyr sydd wedi bod yn gweithio yn y cymunedau hyn dros y pythefnos diwethaf.
“Does dim byd yn bwysicach i ni nac iechyd y cyhoedd a darparu’r dŵr yfed gorau posibl ar gyfer ein cwsmeriaid.”