Dros 6,500 o Fusnesau Cymru eisoes wedi cofrestru wrth i Ddŵr Cymru lansio Fy Nghyfrif ar gyfer Cwsmeriaid Busnes
4 Ebrill 2024
Mae Dŵr Cymru wedi lansio Fy Nghyfrif ar gyfer cwsmeriaid busnes, ac mae dros 6,500 o gwsmeriaid busnes eisoes wedi cofrestru.
Mae’r gwasanaeth newydd yma’n cynnig cyfle i gwsmeriaid busnes Dŵr Cymru fanteisio i’r eithaf ar ei wasanaethau ar-lein, gan roi cyfle iddynt weld a rheoli eu cyfrifon busnes ar lein, a chael cymorth a chyngor pwrpasol.
Dywedodd Rhian Morris, Rheolwr Gwasanaethau Gwe Dŵr Cymru: “Mae hi’n gyfnod cyffrous i Ddŵr Cymru wrth i ni gymryd camau pellach i gynorthwyo ein cwsmeriaid busnes. Mae cam cyntaf cyflwyno Fy Nghyfrif ar gyfer busnesau’n berffaith i fusnesau â hyd at 30 o safleoedd, sef y mwyafrif o’n cwsmeriaid busnes.
“Yn rhan o’n gwasanaeth Fy Nghyfrif newydd, gall cwsmeriaid busnes o siopau coffi i siopau trin gwallt, o siopau bwyd tecawê i siopau blodau, reoli eu cyfrifon dŵr ar lein, sy’n gallu eu cynorthwyo i arbed amser am fod ganddynt holl fanylion eu cyfrif ar flaen eu bysedd.”
“Allai hi ddim â bod yn haws i fusnesau gofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif, ac ar ôl cofrestru, bydd cwsmeriaid yn gallu rheoli eu biliau dŵr a’u talu’n hollol ddigidol, cael diweddariadau am unrhyw waith sy’n digwydd yn eu hardal, gwneud taliadau cyflymach a haws, a diweddaru manylion eu cyfrif a mwy trwy gymryd ambell i gam syml.”
Dywedodd Rick Jenkins, Rheolwr Ynni a’r Amgylchedd y cwmni cynhyrchion a thechnolegau meddygol Convatec: “Rwy’n credu ei bod hi’n berffaith, mae popeth sydd ei angen arnoch chi yno.”
Ar hyn o bryd, mae Fy Nghyfrif i fusnesau ar gael i fusnesau â hyd at 30 o safleoedd.
I gael rhagor o fanylion am Fy Nghyfrif i fusnesau ewch i cliciwch yma.