Mae’r elusen chwaraeon, Panathlon, wedi derbyn rhodd o £5,000 gan Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru 2023 i gydnabod gwaith gwych yr elusen ar draws Gogledd Cymru.
Yn ogystal â derbyn cyllid bydd Dŵr Cymru hefyd yn parhau i gefnogi’r elusen mewn blynyddoedd i ddod drwy weithgareddau gwirfoddoli ledled Cymru.
Mae’r elusen lwyddiannus, Panathlon, yn rhoi cyfle i bobl ifanc ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol gymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol. Mae rhaglenni chwaraeon yr elusen – sy’n cynnwys gweithgareddau aml-sgil fel nofio, pêl-droed, bowlio 10-pin a boccia – yn rhoi’r cyfle i gyfranogwyr gynrychioli eu hysgol mewn cystadlaethau chwaraeon na fyddent yn aml yn gallu fel arall. Galluogodd cyfraniad Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru i’r elusen fuddsoddi mewn offer arbenigol, llogi lleoliadau ar gyfer digwyddiadau chwaraeon, a hyfforddiant staff arbenigol ar gyfer eu rhaglenni chwaraeon.
Mae Dŵr Cymru hefyd yn falch o barhau i gefnogi'r elusen gyda gweithgareddau gwirfoddoli yn y dyfodol. Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf ym Mhlas Madoc, Wrecsam, lle bu 4 ysgol gynradd yn cystadlu yn Boccia, gweithgaredd a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer athletwyr ag anabledd sy’n effeithio ar swyddogaeth locomotor, gyda gwirfoddolwyr Dŵr Cymru wrth law i gefnogi’r gemau.
Dywedodd James Dixon o’r elusen Panathlon "Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i staff Dŵr Cymru a wirfoddolodd yn nigwyddiad SEND Boccia Cynradd Wrecsam yng Nghanolfan Hamdden Plas Madoc. Roedd y tîm yn wych ac yn barod iawn i helpu drwy gydol y digwyddiad! Gan ein bod yn un o’r ychydig sefydliadau sy’n cynnig y ddarpariaeth chwaraeon hon i bobl ifanc ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol, rydym yn gwerthfawrogi’r cymorth yn fawr. Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw eto."
Meddai’r gwirfoddolwr Tony Gunning, Peiriannydd Rhwydwaith Dŵr Cymru ar gyfer ardal Wrecsam,"Diolch yn fawr iawn i Panathlon a Dŵr Cymru am y cyfle i wirfoddoli yn eu digwyddiad cystadleuaeth Boccia diweddar, mwynheais y bore yn fawr, roedd gweld llawenydd ar wynebau’r plant yn hyfryd."
Dywedodd Chris Jones, Goruchwylydd Gweithrediadau Treulio Uwch ar safle Five Fords Dŵr Cymru yn Wrecsam a wirfoddolodd ar y diwrnod hefyd, "Hoffwn ddweud diolch hefyd, mwynheais y diwrnod yn fawr a byddwn yn hapus i helpu mewn digwyddiadau yn y dyfodol."
Dywedodd Sian Pritchard, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol Dŵr Cymru: "Rydym yn falch o gefnogi’r achos anhygoel hwn. Fel sefydliad nid-er-elw, mae cwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn. Rydym eisoes yn chwarae rhan allweddol yn ein cymunedau drwy ddarparu’r gwasanaethau mwyaf hanfodol – dŵr yfed glân a thrin dŵr gwastraff cyn ei ddychwelyd yn ôl i’r amgylchedd ac rydym yn falch iawn o gefnogi’r gymuned leol ymhellach fel hyn."
Dysgwch fwy am gronfa gymunedol a chymorth Dŵr Cymru yn Dwrcymru.com/cronfagymunedol.