Dŵr Cymru’n dathlu Wythnos Gwirfoddoli drwy nodi dros 732 awr o wirfoddoli dros y 12 mis diwethaf


13 Mehefin 2024

Dros y 12 mis diwethaf roedd staff Dŵr Cymru’n falch o gael y cyfle i gymryd rhan mewn dros 732 awr o wirfoddoli gan gefnogi 46 grŵp a sefydliadau cymunedol yn eu hardaloedd lleol. Bu’r cwmni a chydweithwyr o bob rhan o Gymru’n dathlu drwy gydol Wythnos Gwirfoddoli drwy gynnal digwyddiadau yn ddyddiol yn eu cymuned leol.

Anogir staff Dŵr Cymru i ddefnyddio un diwrnod gwaith y flwyddyn i ymgymryd â gweithgareddau gwirfoddoli yn eu cymunedau. Gyda swyddfeydd, depos, a safleoedd gweithredol ledled Cymru a rhannau o Loegr, mae’r cwmni di-elw wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth bositif i gymunedau lleol, gan wella ein hamgylchedd, y ogystal â lles eu staff.

Mae'r cwmni hefyd yn galluogi staff i weithio gydag elusennau a sefydliadau i'w hannog i ddysgu sgiliau newydd a chwrdd â phobl newydd. Mae’r gweithgareddau gwirfoddoli’n amrywio o godi sbwriel, cefnogi canolfannau achub anifeiliaid, gweithio gyda phlant ag anableddau i plannu coed a gwella mannau awyr agored.

Yn ystod Wythnos Gwirfoddoli yng Ngwynedd fe dreuliodd staff Dwr Cymru a ‘u partneriaid cwmni Alun Griffiths ddiwrnod yn n chwynnu, tacluso, a chodi sbwriel ym Mhwll Padlo Cymunedol Bangor a’r ardaloedd chwarae cyfagos yn Hirael, yn barod i bawb ei fwynhau yn ystod misoedd cynnes yr haf.

Cynhaliwyd tri digwyddiad ar wahân yn y De Ddwyrain gyda thimau yn dod at ei gilydd i gasglu sbwriel, clirio ardal goetir mawr, symud coed sydd wedi cwympo a chynorthwyo i sefydlu meithrinfa newydd sbon yn ardal Casnewydd.

Ymunodd Dŵr Cymru ag Envolve Infrastructure i gynnig gwirfoddoli, amser, ac adnoddau i drawsnewid gofod awyr agored meithrinfa Wibil Wobli sydd wedi symud i leoliad newydd sbon yn dilyn tân mawr a ddinistriodd eu cartref gwrieddiol. Roedd tim Dwr Cymru ac Envolve yno i gynnig help llaw hefyd i beintio a pharatoi’r gwlau blodau i’r plant eu mwynhau.

Dywedodd Natasha Baker, Cyfarwyddwr Wibli Wobli: “Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth gan Dŵr Cymru a’u partneriaid contract, Envolve. Rydyn ni wrth ein bodd â'n gardd sy'n edrych yn wych ac roedd gwirfoddolwyr Dŵr Cymru o gymorth mawr i'n paratoi ni i agor mewn pryd. Trwy gefnogaeth grwpiau cymunedol fel hyn, mae’r feithrinfa bellach yn gallu parhau i ddarparu gofal plant a chyflogaeth Gymraeg yng Nghasnewydd.”

Mae eu lleoliad newydd, yn golygu mai Wibli Wobli yw’r cyfleuster gofal plant Cymraeg cyntaf yng Nghasnewydd sy’n gallu derbyn babanod dan 2 oed.

Daeth Dŵr Cymru a'u partneriaid , Morrison Utility Services at ei gilydd yn y De-orllewin i gefnogi’r elusen RSPCA Llys Nini gydag amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys mynd â’r cŵn am dro, cymdeithasu gyda’r cathod, a phlannu Coed Nadolig, i helpu i godi arian hanfodol i’r ganolfan.

Dywedodd Debbie Davies, Rheolwr RSPCA Llys Nini: “Roeddem yn falch iawn o groesawu tîm o Dŵr Cymru ar ddiwrnod gwirfoddol corfforaethol yn ein canolfan anifeiliaid ym Mhenllergaer, Abertawe.

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol Dŵr Cymru: “Rydym yn falch o fod wedi cefnogi cymaint o achosion anhygoel trwy gydol Wythnos Gwirfoddoli, a dros y 12 mis diwethaf. Fel sefydliad nid-er-elw, mae cwsmeriaid wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud. Rydym eisoes yn chwarae rhan allweddol yn ein cymunedau drwy ddarparu’r gwasanaethau mwyaf hanfodol – dŵr yfed glân a thrin dŵr gwastraff cyn ei ddychwelyd yn ôl i’r amgylchedd - ac rydym yn falch iawn o gefnogi elusennau a sefydliadau lleol drwy ein gwaith gwirfoddoli.

Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Cadwch Gymru'n Daclus i sefydlu hybiau swyddogol Cadwch Gymru'n Daclus a pharthau di-sbwriel yn ein swyddfeydd yn Linea a Pharc Cinmel. Mae’r ddau leoliad yn fannau storio canolog ar gyfer offer codi sbwriel, sydd ar gaeli grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr brwdfrydig i gychwyn ar sesiynau codi sbwriel ledled Cymru ac yn eu cymuned leol.

Mae’r fenter ysbrydoledig hon nid yn unig yn gwella ein hamgylchedd lleol ond hefyd yn gyfle gwych i gydweithwyr ddod at ei gilydd a blaenoriaethu eu llesiant.”