Biliau Dŵr Cymru i ddisgyn o fis Ebrill ymlaen ac mae cymorth ar gael i gwsmeriaid sy’n cael trafferth tynnu dau ben llinyn ynghyd


2 Chwefror 2024

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cadarnhau y bydd ei filiau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn disgyn, ac yn atgoffa cwsmeriaid am y cymorth sydd ar gael iddynt wrth i’r argyfwng costau byw barhau.

Mae’r cwmni dŵr nid-er-elw wedi cyhoeddi y bydd y bil dŵr a dŵr gwastraff nodweddiadol ar gyfer cwsmeriaid domestig yn disgyn rhwng [0.1]% a [1.3]% o fis Ebrill ymlaen. Daw’r gostyngiad yn sgil y cosbau y mae’r cwmni wedi eu tynnu oherwydd toriadau mewn cyflenwadau a gollyngiadau mewn blynyddoedd blaenorol.

Er y bydd cwsmeriaid yn gweld gostyngiad yn eu taliadau, mae’r cwmni’n ymwybodol iawn fod yna lawer o gwsmeriaid sy’n dal i weld yr amodau economaidd sydd ohoni’n sialens. Mae’r cwmni eisoes yn cynorthwyo tua 145,000 o’i gwsmeriaid sy’n ei chael hi’n wirioneddol anodd talu eu biliau dŵr – ac mae ganddo’r capasiti i gynorthwyo miloedd yn rhagor.

Mae’r cwmni’n cynnig amrywiaeth o dariffau cymorth i gwsmeriaid i’w cynorthwyo i dalu eu biliau.

Un o’r tariffau mwyaf poblogaidd yw HelpU. Mae’r tariff yma’n helpu aelwydydd incwm isel sy’n derbyn budd-daliadau ar sail prawf moddion trwy osod cap ar y swm y maent yn ei dalu am eu dŵr ar sail y nifer o bobl sy’n byw yn yr eiddo.

Un cwsmer sydd eisoes yn elwa ar HelpU yw Bethan Davies, mam sengl o Lanilltud Faerdref.

Wrth siarad am y tariff, dywedodd Bethan:

“Roeddwn i’n mynychu apwyntiad yn y Ganolfan Waith pan ddywedodd cynghorydd fod rhywun o Ddŵr Cymru yno i helpu cwsmeriaid gyda’u biliau. Ar y cychwyn, roeddwn i’n poeni am siarad â rhywun o Ddŵr Cymru am fy mod i’n gwybod fy mod i mewn dyled gyda fy mil dŵr. Nawr, rwy’n difaru peidio â gwneud hynny’n gynt o lawer.

“Esboniodd Jody, [Ymgynghorydd Ymgyrchoedd Hyrwyddo Dŵr Cymru] yr opsiynau a allai fod ar gael i mi ar ôl edrych ar fy incwm, a dywedodd ‘gallwn ni dy helpu di’. Helpodd hi fi i dorri £500 oddi ar fy mil, trwy fy rhoi ar y tariff HelpU, a helpodd fi i wneud fy nhaliadau’n fwy hwylus fel y gallwn i glirio fy nyled. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i fy nheulu, a’r unig beth rwy’n difaru yw’r ffaith na wnes i siarad â Dŵr Cymru’n gynt; doedd yna ddim beirniadaeth, a’r cyfan roedden nhw am ei wneud oedd helpu.”

Mae’r cwmni’n atgoffa cwsmeriaid am ei gronfa Cymuned a lansiwyd y llynedd hefyd, sydd â’r nod o ddarparu cymorth dros dro i gwsmeriaid o aelwydydd sy’n gweithio i dalu eu biliau dŵr.

Hyd yn hyn, nid yw aelwydydd sy’n gweithio wedi bod yn gymwys i gael cymorth ariannol gan Ddŵr Cymru, ond bydd cynllun y cwmni’n caniatáu iddynt ymgeisio am gymorth dros dro os yw swm eu biliau domestig yn fwy na’u hincwm. Dyma’r unig gynllun o’r fath sy’n cael ei gynnig yn y sector.

O dan y cynllun hwn, gallai’r aelwydydd cymwys gael cyfnod o dri mis ‘heb daliadau’.

Mae’r ffyrdd eraill y mae’r cwmni’n helpu cwsmeriaid i dalu eu biliau’n cynnwys:

  • Y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid - sy’n helpu’r bobl hynny sy’n wynebu caledi ariannol difrifol i glirio eu dyledion a chymryd rheolaeth dros eu taliadau.
  • Cynlluniau talu hyblyg i helpu cwsmeriaid i gyllidebu
  • System i dalu taliadau neu ddyledion trwy daliadau budd-dal, a
  • Chynnig i osod mesurydd dŵr lle gallai hynny helpu i leihau’r bil dŵr.

Mae’r cwmni’n rhagweithiol wrth hyrwyddo’r cymorth y mae’n ei gynnig, ac mae’n mynychu digwyddiadau fforddiadwyedd a gynhelir mewn cymunedau ar draws yr ardal yn rheolaidd. Mis Hydref diwethaf, cyhoeddodd y cwmni ei fod yn bwriadu cyfrannu £13 miliwn y flwyddyn i gynnal ei gynlluniau tariffau cymdeithasol a chreu’r capasiti i gynyddu nifer y cwsmeriaid y mae’n ei gefnogi i 190,000 yn rhan o’i gynllun busnes ar gyfer 2025-2030.

Dywedodd Prif Swyddog Cyllid Dŵr Cymru, Mike Davis:

“Er ein bod ni’n bwriadu lleihau ein biliau, r’yn ni’n gwybod bod cwsmeriaid yn dal i ffeindio pethau’n anodd am fod llawer ohonynt yn cysylltu â ni i ofyn am y cymorth sydd ar gael. Mae gennym ni’r capasiti i helpu miloedd yn rhagor - ac mae hynny’n rhannol am fod ein model busnes nid er gyfranddeiliaid yn golygu nad ydym ni’n talu buddrannau i randdeiliaid, felly gallwn ddefnyddio’r arian yma i helpu’r bobl hynny sy’n ei chael hi’n wirioneddol anodd talu.

“Ein cyngor bob tro i unrhyw un sy’n poeni am eu bil yw cysylltwch â ni’n syth. Mae gennym dîm hyfforddedig a chyfeillgar wrth law a fydd, ar ôl gofyn ambell i gwestiwn, yn gallu eich cysylltu chi â’r cymorth sydd orau at eich anghenion chi.”.

Un o’r cyrff sy’n gweithio gyda Dŵr Cymru i helpu cwsmeriaid i fanteisio ar ei gronfa Cymuned yw Cymru Gynnes.

Dywedodd Joanna Seymour, Cyfarwyddwr Partneriaethau a Datblygu gyda Chymru Gynnes:

“Mae Cymru Gynnes wedi bod yn cydweithio’n agos â Dŵr Cymru i gynorthwyo trigolion. Mae cyflwyno’r Cynllun Cymuned, wedi ein galluogi ni i gynorthwyo mwy o drigolion na fyddai wedi gallu cofrestru ar gyfer HelpU er enghraifft.

“Mae hyn wedi bod o gymorth mawr i lawer o bobl sy’n teimlo nad oes cymorth ar gael iddynt. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r arian i dalu eu biliau i estyn allan atom.”

Dywedodd John Vinson, Pennaeth Ymgysylltu Cwmnïau’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCW):

“Mae tua un aelwyd ym mhob chwech yng Nghymru’n dweud eu bod nhw’n ei chael hi’n anodd talu eu biliau dŵr, felly mae hi’n hanfodol nad yw cwsmeriaid yn colli allan ar yr amrywiaeth eang o gymorth y gall Dŵr Cymru ei gynnig.”

“Gall cynlluniau fel HelpU a Chymuned gael effaith drawsnewidiol i rai aelwydydd sydd mewn argyfwng, ond mae profiad yn dweud wrthym fod yna lawer o gwsmeriaid o hyd sydd naill ai ddim yn gwybod bod cymorth ar gael iddynt neu’n ofni gofyn. Byddem yn annog i unrhyw un sy’n cael trafferth tynnu dau ben llinyn ynghyd gysylltu â’r cwmni a gadael iddyn nhw leddfu rhywfaint ar y baich.”