Dŵr Cymru yn cyhoeddi ymddeoliad Alastair Lyons fel Cadeirydd a phenodiad Jane Hanson CBE i’w olynu


10 Medi 2024

Mae Dŵr Cymru yn cyhoeddi heddiw y bydd Alastair Lyons yn ymddeol fel Cadeirydd ar ddiwedd y flwyddyn hon ac, ar ôl proses gynhwysfawr yn cynnwys ymgeiswyr mewnol ac allanol, bod Jane Hanson wedi’i phenodi’n olynydd iddo o’r 1af Ionawr 2025.

Ymunodd Alastair â’r Bwrdd fel Cadeirydd yn 2016, ac mae e wedi chwarae rôl allweddol wrth lywio’r cwmni trwy ddau adolygiad rheoliadol o brisiau (PR19 a’r cyfnod adolygu prisiau cyfredol sef PR24), pandemig Covid, penodi Peter Perry fel Prif Weithredwr (yn 2020), a’r cyfan wrth gynnal sylfaen ariannol gadarn mewn cyfnod ymestynnol i’r sector a statws credyd sydd gyda’r cadarnaf yn y sector.

Mae Jane wedi bod yn gyfarwyddwr anweithredol ac yn Gadeirydd Pwyllgor Archwilio Dŵr Cymru ers 2021 ac mae ganddi dros 30 mlynedd o brofiad o weithio ar lefel Bwrdd mewn sefydliadau FTSE 100, rheoledig, nid-er-cyfranddeiliaid ac elusennol. Mae Jane yn gyfarwyddwr anweithredol gyda Thrysorlys EF, yn Gadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg yr Awdurdod Hedfan Sifil, yn gynghorydd annibynnol i John Lewis PLC ac yn aelod annibynnol o’u Pwyllgor Archwilio a Risg ar hyn o bryd hefyd. Cyn hynny, cyflawnodd Jane rolau gweithredol mewn endidau blaenllaw a rheoledig pwysig gan gynnwys Aviva PLC a KPMG.

Dywedodd Alastair Lyons:

“Bydd profiad gweithredol ac anweithredol sylweddol Jane, yn ogystal â’r ddealltwriaeth o’r sector dŵr y mae hi wedi datblygu fel aelod o’r Bwrdd dros y tair blynedd diwethaf, yn amhrisiadwy dros y blynyddoedd sydd i ddod. Mae Dŵr Cymru’n chwarae rôl hanfodol ym mywydau pawb sy’n byw yng Nghymru a’r rhannau o Loegr rydym yn eu gwasanaethu, ac mae ein model nid-er-rhanddeiliaid unigryw yn caniatáu i’n timau ganolbwyntio’n llwyr ar fodloni anghenion ein cwsmeriaid. Mae yna gymaint o waith i’w wneud i wella perfformiad a chyflawni yn erbyn disgwyliadau cwsmeriaid, a bydd profiad a dirnadaeth sylweddol Jane yn helpu i lywio’r cwmni dros y blynyddoedd nesaf. Mae bod yn Gadeirydd Dŵr Cymru wedi bod yn fraint, a hoffwn ddiolch i bawb yn y busnes am eu cefnogaeth a’u hymroddiad.”

Ychwanegodd Jane Hanson:

“Rydw i wrth fy modd i fod yn cymryd rôl Cadeirydd Dŵr Cymru ar adeg ymestynnol sy’n drobwynt i’r cwmni a’r sector. Ers ymuno â’r Bwrdd yn Ionawr 2021, rydw i wedi cael fy siomi ar yr ochr orau’n barhaus gan ymrwymiad ac ymroddiad pawb yn Dŵr Cymru i wneud y peth iawn dros ein cwsmeriaid, ein cymunedau, a’r amgylchedd bob tro. Bydd cynnal yr ethos cadarn yma wrth yrru gwelliannau materol mewn perfformiad yn hanfodol bwysig yn y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru Peter Perry:

“Mae Alastair wedi llywio’r cwmni trwy un o’r cyfnodau mwyaf ymestynnol yn ei fodolaeth, gan herio’r Tîm Gweithredol yn gadarn a sicrhau bod y cwmni wedi ei angori o hyd wrth ei bwrpas craidd, sef darparu dŵr yfed a gwasanaethau amgylcheddol o safon uchel ac am werth gorau ar gyfer ei gwsmeriaid, er mwyn cyfoethogi llesiant ein cwsmeriaid a’r cymunedau a wasanaethwn, nawr ac am genedlaethau i ddod. Rwy’n edrych ymlaen at gael gweithio gyda Jane fel Cadeirydd wrth i ni ddechrau cyfnod buddsoddi pum-mlynedd newydd a fydd yn gweld buddsoddiad uwch nag erioed o’r blaen er mwyn ariannu’r gwelliannau y mae ein cwsmeriaid yn eu disgwyl.”