Dŵr Cymru gyda’r cyntaf yn y diwydiant i gyhoeddi strategaeth data agored


25 Ebrill 2024

Mae Dŵr Cymru, yr unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, gyda’r cyntaf yn y diwydiant dŵr i gyhoeddi ei strategaeth data agored.

Nod y strategaeth yw creu diwylliant “agored yn ddiofyn”, sy’n newid sylfaenol i’r diwydiant, lle caiff data ei dargedu i’w gyhoeddi oni bai bod yna reswm penodol, fel gofyniad i amddiffyn gwybodaeth bersonol, sy’n mynnu fel arall.

Mae’r cwmni a’r diwydiant dŵr yn gyffredinol, yn cadw llwyth anferth o ddata ar ei asedau a’i berfformiad, a bydd gwneud y data yma’n ‘agored’ yn golygu ei fod ar gael i bawb – y cyhoedd, gwyddonwyr, rheoleiddwyr a’r diwydiant ehangach. Mae setiau data’n gallu amrywio’n fawr, gydag esiamplau’n amrywio o’r defnydd o ddŵr ar lefel ddomestig, i ansawdd dŵr, i lefelau cronfeydd dŵr.

Trwy gyhoeddi’r strategaeth yn agored, nod y cwmni dŵr yw annog pobl eraill i wneud yr un peth a hybu cydweithio er mwyn helpu i ddatrys rhai o’r sialensiau mwyaf sy’n wynebu’r diwydiant a’r byd ehangach.

Dywedodd Kit Wilson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gweithredol Dŵr Cymru: “Mae lansio ein strategaeth data agored yn gam cyffrous. Mae hi’n rhoi gwir ddatganiad o fwriad, a bydd yn sbarduno arloesi er mwyn gwella gwasanaethau a helpu i ddatrys problemau. Mae gan Ddŵr Cymru enw da hirsefydlog am fod yn agored, ac mae ein rheoleiddwyr, OFWAT, eisoes wedi datgan bod Dŵr Cymru’n gwneud hyn yn dda, felly roedd hi’n gam naturiol i ni. Rydyn ni wedi bod ar y siwrnai yma er blynyddoedd bellach, gan rannu data â phartneriaid dibynadwy a chwmnïau’r cyfleustodau.”

Yn hanesyddol, mae Dŵr Cymru wedi rhannu data â phrifysgolion yng Nghymru mewn ymdrech i sbarduno atebion arloesol i rai o’r sialensiau sy’n wynebu’r diwydiant. Mae’r cwmni wedi chwarae rôl allweddol yn ‘Stream’ sef platfform rhannu data’r diwydiant hefyd, sy’n esiampl ragorol o’r dull diwydiant-eang o weithredu.

Mae Kit yn esbonio: “Gwelwyd tro ar fyd o fewn y diwydiant. Gyda chwmnïau dŵr yn wynebu problemau tebyg ac yn ymdrechu i rannu dirnadaeth a gwybodaeth, mae Stream yn ein galluogi ni i rannu, dysgu gan ein gilydd a thyfu fel diwydiant er mwyn ennyn ffydd y cwsmeriaid. Mae hi’n gamp aruthrol i’r diwydiant.”

Mae’r cwmni wedi sicrhau bod ei grwpiau o randdeiliaid cwsmeriaid, fel y Grŵp Herio ar ran Cwsmeriaid, wedi chwarae rhan yn y broses o ddatblygu’r strategaeth hon hefyd er mwyn sicrhau y bydd yn ddefnyddiol iddynt, a bod eu blaenoriaethau nhw’n cael eu hadlewyrchu yn y setiau data sy’n cael eu rhyddhau.

Dywedodd Pete Davis, Cadeirydd y Grŵp Herio Annibynnol, grŵp ffocws y cwsmeriaid sy’n craffu ar weithgareddau Dŵr Cymru ac yn eu herio: “Mae’r strategaeth hon yn gam pwysig ymlaen i gyflawni ymrwymiad y cwmni i dryloywder a darparu mynediad agored i wybodaeth – sy’n elfen hanfodol wrth feithrin ffydd cwsmeriaid ynom.”

Ychwanegodd Kit: “Mae cwsmeriaid yn disgwyl tryloywder, ac nid ymarfer ticio blychau yn unig mo’n strategaeth data agored - dyma’r peth iawn i’w wneud. Un o’n gwerthoedd craidd yw ennill ffydd ein cwsmeriaid pob un dydd, ac mae ffydd yn rheswm pwysig dros greu’r strategaeth yn y modd yma.”

Dywedodd Louise Burke, Prif Weithredwr y Sefydliad Data Agored: “Wrth gyhoeddi ei strategaeth data agored gyntaf, mae Dŵr Cymru Welsh Water yn cymryd cam pwysig i Gymru a’r sector dŵr. Mae cyhoeddi data a strategaethau digidol yn y diwydiant ynni eisoes wedi gosod y sylfeini ar gyfer sector mwy arloesol.

“Nawr, mae Dŵr Cymru’n cymryd camau cadarnhaol i gyfeiriad sbarduno’r un effaith ar gyfer y sector dŵr, gan ddarparu gwerth ar gyfer aelwydydd a’r amgylchedd. Rydyn ni’n croesawu’r ymrwymiadau hyn i fod yn agored, cydweithio a sicrhau stiwardiaeth gyfrifol dros ddata hefyd, ac yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi Dŵr Cymru ar ei siwrnai data agored.”