Dŵr Cymru’n cynghori busnesau i amddiffyn eu safleoedd rhag byrstiau drud


1 Chwefror 2024

Gyda’r Swyddfa Dywydd yn gweld ‘tebygolrwydd cynyddol o wyntoedd o’r gogledd neu’r dwyrain, a fydd yn cynyddu’r tebygolrwydd o gyfnodau o dywydd oerach ac eira efallai’ ym mis Chwefror, mae Dŵr Cymru’n annog cwsmeriaid i weithredu nawr a pharatoi eu heiddo rhag y costau sydd ynghlwm wrth bibellau’n rhewi ac yn byrstio.

Mewn tywydd oer iawn, gall y dŵr yn eich pibellau a’ch tapiau rewi. Mae’r dŵr yn ehangu wrth rewi ac mae’n gallu cracio’r pibellau metel cryfaf hyd yn oed. Mae’n bosibl na fydd cwsmeriaid yn sylwi bod problem nes bod y bibell sydd wedi cracio’n dadmer a’r dŵr yn dechrau gollwng ohoni.

Mae busnesau fel unedau diwydiannol, parciau carafanau, ysgolion, canolfannau cymuned a mannau addoli mewn mwy o berygl eto o bibellau’n byrstio yn y gaeaf. Mae gan adeiladau fel hyn bibellau a thapiau yn yr awyr agored yn aml iawn, ac maen nhw’n aml yn wag am ddyddiau, sy’n golygu na fydd neb yn sylwi bod pibell wedi byrstio y tu fewn neu’r tu allan i’r adeilad gan achosi llifogydd neu ollwng llawer iawn o ddŵr.

Dywedodd Philip Southern, Arolygydd Cadwraeth Ynni o Gyngor Sir y Fflint: "Gyda newid hinsawdd yn achosi tywydd mwyfwy annarogan, mae hi wedi dod yn bwysig iawn sicrhau bod ein holl safleoedd ar draws Sir y Fflint yn cael eu hamddiffyn dros gyfnod y gaeaf.

“Byddem yn argymell yn gryf bod busnesau’n sicrhau bod eu pibellau wedi eu hinswleiddio er mwyn lleihau’r risg iddynt rewi ac achosi byrst - gan arwain at alwadau diangen a bil dŵr sy’n fwy nag arfer yn dod trwy’r post yn nes ymlaen.”

Gyda chostau byw’n parhau i gynyddu eleni, bydd llawer o fusnesau’n defnyddio’u systemau gwres yn llai, a allai gynyddu’r risg o bibellau’n rhewi. Mae Dŵr Cymru’n cynnig nifer gyfyngedig o becynnau lagio am ddim, sydd ar gael trwy gysylltu â campaigns@dwrcymru.com.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gweithredol Dŵr Cymru, Kit Wilson,"Y prif broblemau y gwelaf i mewn tywydd oer iawn yw bod pibellau y tu allan yn rhewi neu’n byrstio. Mae hynny’n achosi trafferthion sylweddol gyda chyflenwadau dŵr busnesau. Mae hi’n hanfodol ar yr adeg hon o’r flwyddyn, ac yn arbennig nawr am ein bod ni’n disgwyl i’r tymheredd ddisgyn, fod pobl yn amddiffyn eu hadeiladau, safleoedd a swyddfeydd, ac yn paratoi rhag ofn bod argyfwng.

“Gall cwsmeriaid inswleiddio pibellau sydd tu allan, clirio’u gwteri, ystyried draenio pibellau yn yr awyr agored, sicrhau eu bod nhw’n gwybod ymhle mae eu stop tap, a bod â manylion plymwr wrth law rhag ofn bod argyfwng."

I gael rhagor o gynghorion defnyddiol gan Ddŵr Cymru ar ffyrdd y gall cwsmeriaid eu hamddiffyn eu hunain rhag y perygl o bibellau’n rhewi neu’n byrstio, ewch i  business.dwrcymru.com/GetWinterReady.