Adfer afon Nant Gain


26 Ionawr 2024

Mae gwaith wedi ei gwblhau i adfer rhan o afon Nant Gain yng Nghilcain. Cwblhawyd y prosiect adfer gwerth £2 filiwn yn gynt na'r disgwyl gan y cwmni dŵr nid-er-elw, Dŵr Cymru.

Wedi'i leoli ar odre dwyreiniol Bryniau Clwyd yn Sir y Fflint, defnyddiwyd rhan o afon Nant Gain, ychydig y tu allan i bentref Cilcain, i greu cronfa ddŵr trwy adeiladu dau argae ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i gyflenwi dŵr yfed i'r ardal leol. Fodd bynnag, gyda chartrefi a busnesau yn yr ardal bellach yn cael eu cyflenwi gan gronfa ddŵr Alwen, mae Dŵr Cymru wedi gwneud gwaith i gael gwared ar yr argaeau ac adfer yr ardal i’w thirwedd naturiol wreiddiol.

Gwnaethpwyd y gwaith, a gymerodd ychydig llai nag 8 mis i’w gwblhau, gan gontractwyr, Envolve ynghyd â nifer o dimau arbenigol i sicrhau bod yr ardal yn cael ei dychwelyd mor agos â phosibl i’r hyn oedd cyn i’r argaeau gael eu hadeiladu.

Dywedodd Tudur Ellis, Rheolwr Prosiect Dŵr Cymru, “Roedd y broses adfer yn golygu cael gwared ar y ddau argae yn y cronfeydd dŵr a chreu sianel newydd ar gyfer gwely’r afon. Bydd y sianel newydd hon yn caniatáu i'r afon lifo ar hyd ei chwrs naturiol, gan ail-greu sut y byddai wedi bod cyn adeiladu'r argaeau. Bydd adfer cwrs naturiol yr afon yn dod â llawer o fanteision gan gynnwys adfer llwybr naturiol y pysgod yn ogystal â helpu i adfer a gwella ecoleg yr ardal.

“Oherwydd newidiadau i ddeddfwriaeth diogelwch cronfeydd dŵr, nid oedd cadw’r cronfeydd dŵr fel yr oeddent o’r blaen yn opsiwn gan eu bod angen buddsoddiad sylweddol a gwaith adeiladu mawr i ddod â nhw i fyny at y rheoliadau presennol. Trwy adfer y dirwedd naturiol bydd bioamrywiaeth yn yr ardal yn cael ei wella a bydd y safle unwaith eto yn ymdoddi i dirwedd naturiol yr ardal.

Yn ogystal â gorffen y gwaith yn gynt na’r disgwyl, cyfrannodd y tîm ar y safle nifer o fuddion cymunedol gan gynnwys rhoi deunyddiau dros ben i grwpiau lleol, ymweld â’r ysgol gynradd leol i gyflwyno gweithdy peirianneg a chylchdaith dŵr yn ogystal â chroesawu’r ysgol i’r safle wedi i’r gwaith gael ei gwblhau. Mae’r tîm hefyd wedi rhoi deunyddiau a phont o’r safle i grŵp garddio cymunedol lleol ac wedi treulio’r diwrnod yn gwirfoddoli yng ngerddi Flintshare. Mae nifer o grwpiau lleol hefyd wedi elwa o Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru yn ystod y prosiect sydd wedi’i anelu at grwpiau sydd am wneud gwahaniaeth yn y cymunedau y maent yn byw ynddynt.

Ychwanegodd Tudur Ellis, “Roedd yn wych gallu rhoi yn ôl i’r gymuned yng Nghilcain wrth i ni gyflawni’r prosiect. Roedd ein tîm a’n contractwyr yn falch iawn o allu helpu ar nifer o brosiectau gwahanol sydd o fudd i’r ardal leol yn ogystal â gobeithio ysbrydoli rhai o’r plant ysgol lleol i ddod yn beirianwyr y dyfodol!”

Cwblhawyd y gwaith ar y safle yn gynnar ym mis Tachwedd a bydd yn cael ei fonitro'n agos gan Dŵr Cymru dros y blynyddoedd nesaf wrth i'r tirweddau ailsefydlu a ffynnu.