Codi’r Hysbysiad Berwi Dŵr: Llythyr agored oddi wrth Peter Perry


6 Rhagfyr 2024

Rwy’n ysgrifennu atoch i gadarnhau ein bod ni’n codi’r hysbysiad ‘berwi dŵr’ rhag ofn sydd wedi bod mewn grym ar gyfer cwsmeriaid ym Mlaenrhondda, Blaencwm, Tynewydd, Treherbert, Treorci, Cwm-parc, Ton Pentre, y Gellir, rhannau o’r Pentre, rhannau o Donypandy a rhannau o Ystrad ar unwaith.

Mae hyn yn golygu nad oes angen i gwsmeriaid yn yr ardaloedd hyn ferwi eu dŵr yfed mwyach.

Rwy’n gwerthfawrogi bod yr hysbysiad ‘berwi dŵr’ dros y pythefnos diwethaf wedi cael effaith sylweddol ar gwsmeriaid a busnesau ar draws sawl cymuned yn Rhondda Cynon Taf. Mae’n wir ddrwg gennym am hyn. Er taw rhag ofn oedd y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad ‘berwi dŵr’, nid ar chwarae bach y gwnaed hyn, does yna ddim sy’n bwysicach i ni nac iechyd y cyhoedd a darparu’r dŵr yfed gorau posibl ar gyfer ein cwsmeriaid. Rydym wedi parhau i gymryd samplau a phrofi ansawdd y dŵr yfed drwy gydol y cyfnod a gallwn gadarnhau bod y profion hyn yn dangos nad oes angen parhau i ferwi eich dŵr yfed mwyach.

Yn dilyn y llifogydd a darodd Gweithfeydd Trin Dŵr Tyn-y-waun yn Nhreherbert yn sgil Storm Bert, rydyn ni wedi bod yn gweithio ddydd a nos ers 24 Tachwedd i unioni pethau – gwaith a fyddai wedi cymryd mwy o amser o lawer i’w gwblhau o dan amgylchiadau arferol. Mae hyn wedi cynnwys cyflawni gwaith clirio helaeth ar y safle, a chymryd mesurau i amddiffyn y tanciau storio dŵr yfed rhag digwyddiadau tywydd eithafol pellach yn y dyfodol. Mae llawer o’r gwaith yma wedi dibynnu ar dywydd sych er mwyn i ni osod pilen anhydraidd o amgylch y tanciau’n llwyddiannus. Hoffem ddiolch o galon i’n holl gwsmeriaid am eu hamynedd a’u cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn. Hoffem ddiolch hefyd i’n cwsmeriaid am eu haelioni i’n staff a’n contractwyr sy’n gweithio ar y safle ac yn y gorsafoedd dŵr potel - mae’r ymateb wedi bod yn wirioneddol galonogol.

Yn ystod y digwyddiad hwn, rydyn ni wedi cynnal ein hymrwymiad i ddarparu cymorth i gwsmeriaid a busnesau. Dyna pam y rhoddwyd cadarnhad cyflym y byddai pob aelwyd yn derbyn taliad ewyllys da o £250, a phob busnes yn derbyn £500. Fe ddosbarthon ni ddŵr o dair gorsaf casglu dŵr potel ac aethon ni â dŵr potel allan yn uniongyrchol i gartrefi cwsmeriaid bregus ac ysgolion. Am fod yr holl gwsmeriaid yn gallu yfed eu dŵr fel arfer erbyn hyn, bydd y gorsafoedd dŵr potel a’r gwasanaeth dosbarthu i gartrefi’n dod i ben. Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi cefnogaeth a diolchgarwch ein cwsmeriaid i’n cydweithwyr sydd wedi bod yn gweithio yn y cymunedau hyn dros y pythefnos diwethaf.

Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod bod yna ragor y gallwn ei wneud i wella ein dulliau o reoli digwyddiadau o’r math yma. Felly, dros yr wythnosau nesaf, byddwn ni’n cysylltu â rhai o’r cwsmeriaid o dan sylw fel y gallwn ddysgu gwersi a fydd yn llywio ein dulliau o ddelio â digwyddiadau mawr fel hyn yn y dyfodol.

Diolch hefyd i Gyngor Rhondda Cynon Taf a’r holl gynrychiolwyr etholedig am eu cymorth yn ystod y cyfnod hwn.

Yn olaf, hoffwn ymddiheuro eto am yr anghyfleustra y mae hyn wedi ei achosi, a diolch i chi eto am eich amynedd ac am weithio gyda ni.

Yn gywir

Peter Perry
Prif Weithredwr, Dŵr Cymru Welsh Water