Cynnydd da wrth leihau lefelau ffosfforws mewn afonydd wrth i Ddŵr Cymru wario £483m ar wella gwasanaethau


7 Mehefin 2024

Gwariodd Dŵr Cymru Welsh Water £483m dros y 12 mis diwethaf ar gynnal a gwella ei asedau er mwyn gwella gwasanaethau ar gyfer ei gwsmeriaid a chymunedau, ac er mwyn amddiffyn yr amgylchedd yn ôl canlyniadau ariannol y cwmni ar gyfer 2023/24.

Mae hyn yn cynnwys saith cynllun buddsoddi (gwerth cyfanswm o £53m) i helpu i wella ansawdd afon Gwy sydd wedi cael eu cwblhau yn gynt na’r bwriad, ac mae cynnydd da yn cael ei wneud ar afon Teifi ac ar afonydd ACA (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig) eraill.

Y llynedd, cyhoeddodd y cwmni nid-er-elw ei ‘Faniffesto ar gyfer Afonydd yng Nghymru’ oedd yn amlinellu sut y byddai’n buddsoddi er mwyn gwella ansawdd dŵr afonol ar draws ei ardal weithredu. Bydd y cwmni’n gwario £840m yn y pum mlynedd hyd 2025 (AMP7) ac (yn amodol ar gydsyniad Ofwat) mae’n bwriadu gwario £2bn pellach rhwng 2025 a 2030 (AMP8) i wella rhwydwaith dŵr gwastraff y cwmni ac amddiffyn yr amgylchedd.

Gyda’r cyhoedd yn dangos diddordeb cynyddol mewn ansawdd afonydd, roedd y Maniffesto’n ymateb yn uniongyrchol i alwad Prif Weinidog Cymru ar y pryd am i bob sector leihau eu heffaith ar afonydd Cymru. Ymrwymodd Dŵr Cymru fuddsoddiad ychwanegol i leihau’r lefelau ffosfforws yn y pump afon oedd yn methu â chyrraedd y safonau mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) – sef afonydd Gwy, Wysg, Teifi, Cleddau a Dyfrdwy. Mae model busnes nid-er-cyfranddalwyr y cwmni wedi caniatáu iddo gyflymu’r rhaglen hon gyda £100m ychwanegol.

Yn ogystal, mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau ei fod wedi cydsynio i 145 o drwyddedau amgylcheddol newydd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i leihau’r ffosfforws yn ei weithfeydd trin a’i asedau eraill er mwyn gwella ansawdd dŵr mewn afonydd.

Mae Dŵr Cymru wedi cwblhau cyfanswm o 50 o gynlluniau cyfalaf mawr (dros £1m) ar draws ei rwydwaith (dŵr gwastraff a dŵr glân) yn ystod y flwyddyn er mwyn gwella ei wasanaethau i gwsmeriaid a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.

Mae canlyniadau ariannol y cwmni’n ategu ei sefyllfa ariannol gadarn a sefydlog, gyda’r statws credyd uchaf a lefelau isel o eriad o gymharu â gweddill y sector.

Dywedodd Cadeirydd Glas Cymru, Alastair Lyons: “Mae ein sefyllfa ariannol gref wedi caniatáu i ni gadw ein ffocws ar wella ein gwasanaethau ar gyfer ein cwsmeriaid a’n cymunedau, a chyflawni ein haddewidion i leihau ein heffaith ar ansawdd dŵr afonol. Mae angen i’n cynlluniau daro’r cydbwysedd iawn o ran bod modd eu hariannu a’u cyflawni, a bod modd i’n cwsmeriaid eu fforddio, heb storio problemau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Er bod yna lawer o waith o’n blaenau o hyd, rydyn ni’n gwneud cynnydd da tuag at ein hymrwymiadau.”

Wrth tua 2024/25, bydd y cwmni’n parhau i gyflawni ar yr addewidion a bennwyd yn ei Faniffesto. Ym mis Mai, cymerodd Dŵr Cymru gam pellach tuag at ddechrau gwaith ar ei weithfeydd trin dŵr gwastraff newydd sbon yn Aberteifi ar gost o £20m trwy gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y cynllun. Bydd cynllun sylweddol yma, a fydd yn dechrau yn Ebrill 2025, yn darparu mwy o gapasiti yn y gweithfeydd ac yn lleihau nifer y gollyngiadau sy’n cael eu rhyddhau o’r safle, a bydd hyn, yn ei dro, yn beth da i afon Teifi. Mae’r cwmni wedi cadarnhau buddsoddiad yn ei rwydwaith ehangach ar draws dalgylch afon Teifi hefyd, a fydd yn cynnwys gwario dros £5 miliwn ar dri o’i weithfeydd trin erbyn diwedd Mawrth 2025.

Yn ogystal â buddsoddi mewn atebion peirianegol confensiynol, mae’r cwmni’n gwneud cynnydd da hefyd wrth gyflawni seilwaith gwyrdd i wella ansawdd dŵr afonol. Yn y Dafarn Newydd ger Pont-y-pŵl, mae cynllun £13m newydd gychwyn, a hwn yw’r cyntaf o’i fath yn y DU. Bydd y prosiect yn creu gwlyptir 1.8 hectar ar gyfer y gymuned leol a fydd yn gweithredu fel system hidlo werdd ar gyfer y dŵr storm sy’n cael ei ryddhau o’r gorlif storm cyfagos mewn cyfnodau o law trwm. Ar ôl cwblhau’r prosiect, bydd y dŵr storm yn pasio trwy’r gwlyptir cyn cael ei ryddhau i Afon Lwyd, a fydd yn helpu i wella ansawdd yr afon a’r prif gorff dŵr y mae’n llifo i mewn iddo, sef afon Wysg.

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: “Rydyn ni wrth ein bodd i gael creu’r gwlyptir arloesol yma a fydd yn lliniaru effeithiau dŵr gwastraff o’r gorlif storm trwy ddefnyddio dulliau naturiol i dynnu’r ffosfforws. Yn gyson â pholisi Llywodraeth Cymru, rydyn ni’n blaenoriaethu ein buddsoddiad ar y gorlifoedd storm sy’n achosi difrod amgylcheddol yn hytrach na’r rhai sy’n gorlifo amlaf. Mae ein buddsoddiad yn ein system dŵr gwastraff – sef cyfanswm o £1.4 biliwn yn y degawd hyd 2025 – wedi cyflawni gwelliannau go iawn, ac wedi helpu i sicrhau taw gan Gymru mae chwarter traethau Baner Las y DU er taw cwta 15% o’r arfordir sydd yma, a bod 44% o’n hafonydd a’n cyrff dŵr yn cyflawni statws ecolegol da. Mae llawer o waith o’n blaenau o hyd, ac edrychwn ymlaen at dderbyn Penderfyniad Drafft Ofwat ar ein Cynllun Busnes ar gyfer 2025-30 ym mis Gorffennaf, a allai olygu lefelau uwch nag erioed o fuddsoddiad i fynd i’r afael â’r materion sy’n bwysig i’n cwsmeriaid.”