Tri Chyfarwyddwr Anweithredol profiadol newydd yn ymuno â Bwrdd Glas Cymru
23 Rhagfyr 2024
Mae Glas Cymru, y cwmni nid-er-elw sy’n berchen ar Dŵr Cymru Welsh Water, wedi cyhoeddi penodiad tri Chyfarwyddwr Anweithredol newydd i’w Fwrdd.
Mae'r penodiadau newydd yn dod ag ystod sylweddol o arbenigedd i gefnogi gwelliannau i wasanaethau Dŵr Cymru fel rhan o raglen fuddsoddi fwyaf erioed y cwmni ar gyfer 2025-2030.
Mae'r tri aelod newydd yn ymuno â'r Bwrdd fel Cadeiryddion tri o'i bwyllgorau. Mae disgwyl i bedwerydd Cyfarwyddwr Anweithredol newydd gael ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd.
Bydd Darren James, Darren Pope ac Alison Wilcox yn ymuno â’r Bwrdd ar 1 Ionawr 2025 i ymgymryd â rôl Cadeirydd y Pwyllgor Perfformiad a Diogelwch, y Pwyllgor Archwilio a Risg a'r Pwyllgor Taliadau yn y drefn honno.
Gwneir y penodiadau yn dilyn ymddeoliad Alastair Lyons fel Cadeirydd gyda Jane Hanson CBE yn ymgymryd â'r rôl o 1 Ionawr 2025.
Mae Jane wedi rhoi'r gorau i fod yn Gadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg y cwmni a chrëwyd swydd wag arall yn dilyn penderfyniad Barbara Moorhouse i roi'r gorau iddi fel Cadeirydd y Pwyllgor Perfformiad a Diogelwch ar ddiwedd 2024. Bydd Jo Kenrick, sydd ar hyn o bryd yn Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Taliadau, yn rhoi'r gorau i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor yn ystod 2025.
Yn dilyn yr apwyntiadau, dywedodd Jane Hanson,
“Rwy'n falch iawn o groesawu Darren, Darren ac Alison i Fwrdd Dŵr Cymru. Mae pob un yn dod â hanes trawiadol o arweinyddiaeth a phrofiad a fydd yn allweddol wrth i ni ffocysu ar wella perfformiad i'n cwsmeriaid, diogelu'r amgylchedd a chyflawni ein rhaglen fuddsoddi fwyaf erioed.
“Bydd eu gwybodaeth a'u harbenigedd yn cryfhau'r Bwrdd wrth i ni fynd i'r afael â'r heriau sydd o'n blaenau ac ymdrechu i sicrhau gwerth hirdymor i'n cymunedau trwy gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol a darparu buddsoddiad o dros £4bn dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r penodiadau hyn yn atgyfnerthu ymrwymiad Dŵr Cymru i arloesi, cryfder asedau a rhagoriaeth gwasanaeth cwsmeriaid.”
Darren James yw Prif Weithredwr AUREOS, darparwr gwasanaethau peirianneg rhwydweithiau ynni a thrafnidiaeth amlddisgyblaethol. Ffurfiwyd AUREOS yn ddiweddar trwy gaffael busnes Seilwaith Grŵp Keltbray.
Yn siaradwr Cymraeg rhugl, mae Darren yn byw yn Abertawe. Treuliodd dros 30 mlynedd gyda Costain Group PLC, yn ddiweddarach fel Prif Swyddog Gweithredu. Yn 2020 daeth yn Brif Weithredwr ac yn Brif Gyfarwyddwr Bwrdd yn Keltbray, contractwr arbenigol yr Amgylchedd Adeiledig a Seilwaith, tan creu AUREOS ym mis Awst 2024. Bydd Darren yn Gadeirydd y Pwyllgor Perfformiad a Diogelwch o 1 Ionawr 2025.
Dywedodd Darren James, "Mae disgwyliadau cwsmeriaid a rhanddeiliaid o'r sector dŵr wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac felly mae gwella perfformiad yn hanfodol i adeiladu ymddiriedaeth cwsmeriaid dros y blynyddoedd i ddod. Yn hanesyddol mae Dŵr Cymru wedi bod yn llwyddiannus ac rwy'n edrych ymlaen i weithio gyda'r Bwrdd a'r tîm Gweithredol i ddychwelyd i fod yn gwmni sy'n perfformio'n dda."
Treuliodd Darren Pope ei yrfa weithredol yn y sector gwasanaethau ariannol, gan ddiweddu fel Prif Swyddog Ariannol TSB rhwng 2014 a 2016. Ym mis Medi, daeth yn Gadeirydd Archwilio ac yn aelod o Bwyllgor Risg Bwrdd Starling Bank a sefydlwyd yn 2014. Mae Darren hefyd yn Gadeirydd Archwilio ac yn aelod o Bwyllgor Risg Bwrdd y platfform buddsoddi Hargreaves Lansdown (bydd yn sefyll i lawr yn 2025). Bydd Darren yn dod yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg ar 1 Ionawr 2025.
Dywedodd Darren Pope, "Mae model perchnogaeth unigryw Dŵr Cymru yn y sector dŵr yn caniatáu iddo gymryd golwg hirdymor, ond mae llawer o risgiau a heriau o'n blaenau - yn enwedig o ran newid hinsawdd fel y tystir gan y stormydd niferus sydd wedi taro Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf. Fel gwasanaeth cyhoeddus hanfodol, mae paratoi ar gyfer risgiau cynyddol o'r fath yn allweddol, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Bwrdd a'r Tîm Gweithredol er budd ein cwsmeriaid a'n cymunedau."
Mae Alison Wilcox yn gyn Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol Grwp BT a Chyfarwyddwr Adnoddau Dynol Rhanbarthol Ewrop ar gyfer Vodafone. Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad o weithredu mewn rolau Prif Weithredol ar lefel bwrdd mewn rolau adnoddau dynol adrannol, corfforaethol ac ymgynghorol.
Mae Alison hefyd yn gyn Gyfarwyddwr Anweithredol ac yn Gadeirydd Pwyllgor Taliadau ar gyfer Shepherd Building Group, sy’n rhedeg Portakabin, cwmni mwyaf arloesol o ran adeiladau modiwlaidd yn Ewrop. Ar hyn o bryd mae Alison yn gwasanaethu fel Aelod Bwrdd Ymddiriedolwyr a Chadeirydd y Pwyllgor Enwebiadau ar gyfer Health Data Research UK.
Bydd Alison yn ymgymryd â rôl Cadeirydd y Pwyllgor Taliadau yn ddiweddarach yn 2025, pan fydd y Cadeirydd presennol, Jo Kenrick, yn sefyll i lawr.
Dywedodd Alison Wilcox, "Mae Dŵr Cymru yn gwmni sydd ag ethos a diwylliant cryf iawn. Wrth i'r sector fynd trwy newid sylweddol ac wrth i ni wynebu sawl her, mae gan y Bwrdd rôl bwysig i'w chwarae i sicrhau bod y diwylliant sy'n canolbwyntio ar y cwsmer yn cael ei gynnal a'n bod yn gyrru'r gwelliannau i'r gwasanaeth y mae ein cwsmeriaid am eu gweld."
Mae disgwyl i'r cwmni hefyd gadarnhau pedwerydd Cyfarwyddwr Anweithredol newydd yn y Flwyddyn Newydd.