Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru ymweld â phencadlys Dŵr Cymru ddydd Iau i gwrdd â staff y cwmni.
Fe aeth Eluned Morgan ar daith o amgylch yr adeilad i gwrdd â staff y ganolfan alwadau, prentisiaid a graddedigion, a’r tîm sy’n gweithio yng Nghanolfan Ymateb 24 awr y cwmni.
Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu'r Prif Weinidog â chynrychiolwyr o'r Undebau Llafur, aelodau o'r tîm sy'n cefnogi Cwsmeriaid Bregus a staff sydd wedi bod yn gweithio ar brosiect i gyflenwi dŵr glân yn Uganda gyda WaterAid.
Daw'r ymweliad wrth i Dŵr Cymru ddisgwyl penderfyniad terfynol Ofwat ar gynlluniau'r cwmni am y pum mlynedd rhwng 2025 a 2030.
Os caiff ei gymeradwyo, bydd y cynllun yn arwain at raglen gwariant cyfalaf mwyaf erioed y cwmni gwerth £4bn, gyda £2.5bn o'r cyfanswm hwnnw yn cael ei fuddsoddi i wella'r amgylchedd.
Bydd gan Dŵr Cymru gynlluniau gwerth £400 miliwn sy’n barod i gael eu gweithredu yn ystod deuddeg mis cyntaf y cylch buddsoddi nesaf.
Mae'r cynlluniau buddsoddi hyn yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i dyfu economi Cymru drwy greu swyddi gwyrdd sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac sy’n adfer byd natur.
Mae gweithgareddau Dŵr Cymru yn cynhyrchu £1bn y flwyddyn i economi Cymru. Mae'r cwmni'n cyflogi bron i 4,000 ac yn cefnogi 5,000 o swyddi pellach drwy gyflenwyr a chontractwyr ac mae'n falch o'i statws fel cwmni sy’n greiddiol i economi Cymru.
Dywedodd Peter Perry, Prif Swyddog Gweithredol Dŵr Cymru:
"Roedd yn bleser croesawu'r Prif Weinidog atom ni i gwrdd â'n staff ac i glywed am ein cynlluniau uchelgeisiol i fuddsoddi a chreu swyddi gwyrdd.
"Bydd ein rhaglen fuddsoddi am y pum mlynedd nesaf yn cael ei thargedu at leihau ein heffaith ar yr amgylchedd a darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cwsmeriaid.
"Fel cwmni nid-er-elw, mae popeth rydyn ni'n ei wneud yn cael ei ysgogi gan ymrwymiad cryf i wasanaethu ein cymunedau."
“As a not-for-profit company, everything we do is driven by a strong commitment to serve our communities.”