Dŵr Cymru i weithredu o dan Safonau Comisiynydd yr Iaith Gymraeg


3 Hydref 2024

Mae Dŵr Cymru yn annog eu cwsmeriaid i gysylltu a nhw yn y Gymraeg.

Gall cwsmeriaid gysylltu â’r cwmni dros y ffôn, trwy e-bost, trwy sgwrsbot ar y wefan a thrwy lythyr os oes ganddynt unrhyw gwestiwn am eu cyfrif neu eu biliau. Mae pob cwsmer yn cael gwahoddiad i nodi eu dewis iaith trwy wasanaethau ar lein Fy Nghyfrif hefyd.

Gall Dŵr Cymru drefnu ymweliadau cartref gan gynrychiolwyr sy’n medru’r Gymraeg ar gyfer cwsmeriaid i gyflawni gwasanaethau fel chwilio i weld a oes dŵr yn gollwng a thrwsio diffygion hefyd. Mae’r cwmni wedi sefydlu canolfan gysylltu newydd yn y gogledd yn ddiweddar.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi y bydd yna ddyletswydd gyfreithiol ar Ddŵr Cymru i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn Awst 2025. Dros y misoedd diwethaf, mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg ar ei ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.

Hwn fydd y tro cyntaf i safonau’r Gymraeg ddod i rym ar gyfer sefydliadau y tu hwnt i’r sector cyhoeddus.

Mae’r darparydd gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth nid-er-elw yn falch o’i arlwy helaeth o wasanaethau Cymraeg, ac mae’r cwsmeriaid yn gwerthfawrogi’r gwasanaethau hyn.

Dywedodd Courtney, Ymgynghorydd Cwsmeriaid yn y de: “Mae’r adborth cwsmeriaid ar ein gwasanaethau Cymraeg mor gadarnhaol, ac mae’n galonogol gwybod eich bod chi’n helpu cwsmer yn yr iaith mae’n nhw yn dewis. Yn ddiweddar daeth cwsmer ataf i yn yr Eisteddfod i ddweud pa mor hapus oedden nhw wedi bod o gael cysylltu â ni yn Gymraeg yr wythnos flaenorol, felly rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n darparu gwasanaeth da yn hynny o beth.

Meddai Lee, Arweinydd Tîm Adwerthu sy’n gweithio yn y ganolfan gysylltu yn y gogledd: “Rydyn ni mor falch o allu cynnig gwasanaethau hanfodol yn y Gymraeg. Rydyn ni yma i helpu, felly cofiwch ddefnyddio ein gwasanaethau Cymraeg a chysylltu â’n timau am unrhyw gymorth gyda biliau neu wasanaethau eraill.”

Ychwanegodd Pete Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru: “Rydyn ni wedi dangos ymrwymiad hirsefydlog i’r Gymraeg yn Dŵr Cymru, ac rydyn ni’n llwyr gefnogi cynllun hirdymor y Comisiynydd i sicrhau bod pobl yn cael defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau, ac ym mhob rhan o Gymru. Mae hi’n bwysig i ni ein bod ni’n darparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid yn ddwyieithog, ac rydyn ni eisoes yn weithgar iawn yn hynny o beth cyn i’n dyletswydd gyfreithiol ddod i rym yr haf nesaf.”