Dŵr Cymru’n cynnig lleoliad newydd a safle llai ar gyfer gweithfeydd trin dŵr Merthyr


10 Gorffennaf 2024

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi datgelu cynigion diwygiedig i fuddsoddi mewn gweithfeydd trin dŵr newydd gwydn - gan ddiogelu’r cyflenwadau dŵr yfed ar gyfer cenedlaethau heddiw a’r rhai sydd i ddod rhag y dyfodol.

Mae’r buddsoddiad yn angenrheidiol am fod y gweithfeydd trin dŵr yn yr ardal, sef Pontsticill, Cantref a Llwyn-onn, yn heneiddio ac yn dod i ddiwedd eu hoes weithredol, ac mae’r Arolygiaeth Dŵr Yfed wedi gosod dyletswydd gyfreithiol newydd ar Ddŵr Cymru i adeiladu gweithfeydd trin newydd.

Daw’r cynigion diwygiedig yn sgil adolygiad 2 flynedd o hyd y cwmni i ddatblygu ateb amgen yn hytrach na’r cynnig gwreiddiol yr ymgynghorodd â’r gymuned leol arnynt yn 2022. Mae’r cwmni wedi cymryd amser ychwanegol i gyflawni arolygon pellach, ystyried adborth y gymuned, ac ystyried opsiynau i uwchraddio’r system mewn ffordd gynaliadwy er mwyn darparu dŵr yfed diogel a glân ar gyfer cwsmeriaid ymhell i’r dyfodol.

Yn 2022, ymgynghorodd Dŵr Cymru ar gynlluniau cynnar i adeiladu gweithfeydd trin dŵr ar un safle yn Fferm y Gurnos, ger Pont-sarn i ddisodli’r 3 oedd yn bodoli eisoes. Mae cynigion newydd Dŵr Cymru’n cynnwys cynnig adeiladu gweithfeydd trin dŵr llai yn ardal Merthyr Tudful, ar Fferm Dan-y-Castell (wrth ymyl yr A465 Ffordd Blaenau’r Cymoedd) i gymryd lle’r gweithfeydd trin dŵr cyfredol ym Mhontsticill, ac uwchraddio Gweithfeydd Trin Dŵr Cyfredol Llwyn-onn.

Mae’r cynnig newydd yn cynnig dull o weithredu ar draws dau safle, a fydd, gyda’i gilydd, yn dileu’r angen am adeiladu gweithfeydd helaeth ar un safle ar Fferm y Gurnos, yn ogystal â dileu’r angen am osod pibellwaith newydd o gwmpas ardal y Gurnos, Parc Cyfarthfa a Georgetown, mewn ymateb i adborth y gymuned nad oedd hi’n safle priodol i ddatblygu gweithfeydd trin dŵr, ac y byddai’n effeithio ar dreftadaeth leol.

Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr, Cynllunio Asedau a Chyflawni Cyfalaf yn Dŵr Cymru: “Roeddem ni wir yn gwerthfawrogi’r adborth a gawsom yn sgil ein hymgynghoriad yn 2022, a hoffem ddiolch i’r gymuned am eu hamynedd wrth i ni gyflawni ein hadolygiad. Rydyn ni wedi gwrando, ac wedi ein herio ein hunain i ddatblygu ateb newydd a fydd, yn ein tyb ni, yn darparu ateb arloesol i gymryd lle ein gweithfeydd trin dŵr sy’n heneiddio yn ogystal â sicrhau bod ein hasedau a’n rhwydwaith yn wydn rhag effeithiau newid hinsawdd a thwf y boblogaeth yn y dyfodol.

“Mae hi wedi bod yn her ar y naw am fod buddsoddiad mor fawr ac mor bwysig yn gofyn am gynllunio gofalus, a dyna pam ein bod ni wedi cymryd yr amser ychwanegol yma i bwyso a mesur yr holl ystyriaethau a sicrhau ein bod ni mor wybodus â phosibl. Rydyn ni’n falch nawr o gael rhannu ein cynnydd a chasglu safbwyntiau’r gymuned leol, a fydd yn ein cynorthwyo ni i fireinio ein cynlluniau ymhellach cyn eu pennu’n derfynol. Mae angen i ni adeiladu gweithfeydd trin newydd yn yr ardal ac rydyn ni’n credu bod y cynlluniau yma’n taro’r cydbwysedd cywir rhwng ein hanghenion gweithredol i ddarparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed ar gyfer ein cwsmeriaid yn yr ardal am bris fforddiadwy, a phryderon y gymunedol leol a’r pryderon amgylcheddol a gododd yn ystod ein hymgynghoriad gwreiddiol. Byddwn ni’n cyflwyno cais cynllunio ffurfiol maes o law.”

Mae Dŵr Cymru wedi derbyn hysbysiad cyfreithiol gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI) sy’n gofyn iddynt uwchraddio’r prosesau trin yn yr ardal erbyn Mawrth 2030. Cafodd rhan helaeth o’r rhwydwaith dŵr yfed ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei adeilad ddechrau’r 20fed ganrif, ac mae’r cwmni wedi dweud bod y gweithfeydd trin dŵr yma’n benodol yn dod yn gynyddol heriol a drud i’w gweithredu oherwydd eu hoedran. Heb fuddsoddiad mawr, mae yna risg uwch na fyddant yn gallu parhau i fodloni’r safonau uchel o ran dŵr yfed, a bydd cwsmeriaid mewn mwy o berygl o weld toriadau cynyddol yn eu cyflenwadau dŵr yfed yn y dyfodol.