Dosbarthu £3m o gronfa amgylcheddol Dŵr Cymru


4 Gorffennaf 2024

Mae Cronfa Amgylcheddol Dŵr Cymru wedi dosbarthu cyfanswm o £3m o gyllid ar gyfer prosiectau amgylcheddol ar draws Cymru, ac mae hi ar agor am geisiadau nawr.

Mae’r gronfa’n darparu cymorth ariannol ar gyfer prosiectau er budd bioamrywiaeth a byd natur, gyda ffocws ar helpu i feithrin ymgysylltiad y gymuned leol â’r amgylchedd lleol.

Mae Dŵr Cymru’n galw ar brosiectau amgylcheddol o bob rhan o Gymru i ymgeisio a manteisio ar yr arian sydd ar gael trwy’r gronfa.

Prosiect yn Nhrimsaran yw un o’r prosiectau sydd wedi elwa ar y cyllid, lle daeth aelodau o’r gymuned leol, plant ysgol o Ysgol Gymunedol Trimsaran, a thîm bioamrywiaeth Dŵr Cymru ynghyd i greu dôl flodau a ddaw yn bwynt ffocal ar gyfer canolfan gymunedol y pentref.

Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn galw ar brosiectau amgylcheddol o bob rhan o Gymru i elwa ar yr arian sydd ar gael trwy ei Gronfa Amgylcheddol.
Mae’r gronfa, a fydd yn darparu cymorth ariannol ar gyfer prosiectau sy’n llesol i fioamrywiaeth a byd natur, eisoes wedi cyflawni carreg filltir bwysig trwy fuddsoddi dros £3m hyd yn hyn ar amrywiaeth eang o brosiectau â ffocws ar helpu i feithrin ymgysylltiad y gymuned â’u hamgylchedd lleol.

Mae hyn yn cynnwys prosiect diweddar yn Nhrimsaran, lle daeth aelodau o’r gymuned leol, plant ysgol o Ysgol Gymunedol Trimsaran a thîm bioamrywiaeth Dŵr Cymru ynghyd i greu dôl flodau a ddaw’n bwynt ffocal ar gyfer canolfan gymunedol y pentref.

Yn ôl Cynghorydd Cymuned Trimsaran, Mari Arthur, mae’r cyllid o gronfa Amgylcheddol Dŵr Cymru wedi cynorthwyo’r gymuned â’u prosiectau bioamrywiaeth awyr agored, a’r gobaith yw y bydd hyn yn cael effaith tymor hwy hefyd. Dywedodd, “Ymgysylltodd tîm Dŵr Cymru pwyllgor eco ysgol y pentref mewn diwrnod plannu a hadu, a chafodd y plant hwyl yn cymryd rhan. Rhoddodd hyn ymdeimlad o berchnogaeth iddynt dros yr ardaloedd a ddatblygwyd gyda’u cymorth nhw.

“Mae’r gwaith eisoes wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r parc, sydd wrth galon y gymuned ddifreintiedig yma. Mae creu lle mor bwysig, ac rydyn ni wir yn gwerthfawrogi cymorth Dŵr Cymru.”

Mae Dŵr Cymru’n gweithio’n rhagweithiol hefyd i hybu bioamrywiaeth ar eu safleoedd ar draws y wlad, ac mae prosiectau lleol yn dechrau cael effaith nodedig ar yr ecoleg sy’n eu hamgylchynu.

Mae hyn yn cynnwys prosiect dôl blodau gwyllt yn eu canolfan ymwelwyr yn Llys-y-frân, Sir Benfro. Plannwyd y ddôl ddwy flynedd yn ôl gan ddefnyddio hadau o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, a gyda chymorth gwirfoddolwyr o Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, mae’r safle wedi gweld cynnydd mewn rhywogaethau brodorol.

Dywedodd Peter Haskett, gofalwr sydd wedi chwarae rhan allweddol yn y prosiect, “Mae Llys-y-frân yn rhan bwysig o’r gymuned leol. Elfen bwysig o’r hyn rydyn ni’n ceisio ei wneud yw gwella bioamrywiaeth, ynghyd â byd natur a bywyd gwyllt yn gyffredinol.

“Cyflawnwyd ein harolygon cyntaf yn dilyn y gwaith plannu cychwynnol eleni, a bu’r canlyniadau’n gadarnhaol. Rydyn ni’n gweld gostyngiad yn y rhywogaethau o laswellt a chynnydd yn nifer y blodau gwyllt, pryfed a pheillwyr, sy’n denu mwy o rywogaethau o adar ac ati hefyd.

“O dipyn i beth, rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl yn gallu dod yma a chymryd toriadau o’r gwair gwyrdd ar gyfer eu prosiectau bywyd gwyllt eu hunain gartref, fel y gwnaethom i gyda’r toriadau o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, felly yn y tymor hwy, bydd yna fanteision cymunedol ehangach o lawer y tu hwnt i Lys-y-frân.”

Anogir grwpiau a sefydliadau nid-er-elw i sicrhau eu bod yn elwa ar y cyllid sydd ar gael ac yn helpu i hybu natur yn eu hardaloedd lleol.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am Gronfa Amgylcheddol Dŵr Cymru ar-lein yma.