Dŵr Cymru’n derbyn ei Gynllun Busnes £6bn ar gyfer 2025-30


22 Ionawr 2025

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi ysgrifennu at Ofwat, rheoleiddiwr y diwydiant dŵr, i gadarn ei fod yn derbyn eu Penderfyniad Terfynol ar yr Adolygiad o Brisiau ar gyfer 2025-2030

Bydd y Penderfyniad Terfynol yn hwyluso cynnydd o 58% yng nghyfanswm gwariant y cwmni (o gymharu â 2020-25) i £6bn dros y cyfnod o bum mlynedd, gan gynnwys gwerth £4.2bn o fuddsoddiad cyfalaf. Mae’r penderfyniad hwn yn golygu na fydd y cwmni’n cyfeirio’r mater at yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA).

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Pete Perry:
“Rydyn ni wedi adolygu Penderfyniad Terfynol Ofwat a’r ymrwymiadau manwl sydd ynddo’n drylwyr, a’r bwriad nawr yn canolbwyntio’n llwyr ar baratoi i gyflawni ein rhwymedigaethau i gwsmeriaid a rheoleiddwyr dros y pum mlynedd nesaf a’r tu hwnt. Rydyn ni’n cydnabod bod Ofwat wedi gwneud newidiadau arwyddocaol ers y Penderfyniad Drafft, ac rydyn ni’n credu bod y Penderfyniad terfynol yma’n adlewyrchu’r cynllun busnes a gyflwynwyd gennym yn fwy clos.

“Er ein bod ni’n credu bod canlyniad y broses yn cynnig gwerth da i gwsmeriaid dros y pum mlynedd nesaf, mae’r Penderfyniad Terfynol yn dal i osod sialensiau sylweddol i’r busnes, ond mae ein ffocws a’n hymroddiad ar gyflawni dros ein cwsmeriaid. Mae ein ffocws yn gadarn ar gyflawni lefelau perfformiad sy’n ein codi ni allan o’n statws ‘ar ei hôl hi’ a bennwyd yn asesiad Adroddiad blynyddol Ofwat ar Berfformiad Cwmnïau Dŵr.

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r ymdrechion cydweithredol a gafwyd trwy gydol y broses hon, gan gynnwys y cysylltiadau ag Ofwat a rhanddeiliaid yng Nghymru fel Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, a’r ystyriaeth ofalus a roddwyd i’n sylwadau ar y Penderfyniad Drafft. Er gwaetha’r sialensiau, rydyn ni’n credu bod y Penderfyniad Terfynol yn cynnig dull cytbwys o fynd ati o ran y risg gyffredinol a’r pecyn o ganlyniadau, fforddiadwyedd biliau, gofynion y rheoleiddwyr amgylcheddol, a chynaliadwyedd ein gweithrediadau yn rhan o gynllun hirdymor i gyflawni’r deilliannau y mae ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid yn eu disgwyl.”